{"product_id":"yn-fyw-yn-y-cof-9781800991507","title":"Yn Fyw yn y Cof","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel am dair cenhedlaeth o un teulu. Ceir hanes Anti Glad oedd yn ffermio Tyddyn Bach, ei nai Iorwerth a newidiodd gyfeiriad ei fywyd ar ôl marwolaeth ei fodryb, ac am Bethan ei ferch. Stori am gefn gwlad a'r ddinas, am ofal a chariad ac am ddal dig a dial.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA novel about three generations of one family. We hear about Anti Glad who used to farm Tyddyn Bach, her nephew Iorwerth who changed direction following the death of his aunt, and Bethan his daughter. A story about rural and city life, about guardianship and love and about harbouring resentment and revenge.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781800991507\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781800991507\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eYn Fyw yn y Cof\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRoberts, John\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-12-01\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e192 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e131 × 195 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen - Arall (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Other (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMagwyd John Roberts ar fferm Llawr-y-dref ger Llangïan ym Mhen Llŷn. Bu’n weinidog am ddeuddeg mlynedd yn Nyffryn Ceiriog, cyn mynd yn gynhyrchydd rhaglenni crefydd ac yna yn is-olygydd BBC Radio Cymru. Mae’n gyflwynydd y rhaglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru ers deg mlynedd ar hugain. Bellach mae wedi gadael y BBC ac yn gyfarwyddwr cwmni cynhyrchu annibynnol Tonnau Cyf. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Gabriela, gan wasg y Lolfa yn 2013.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eFe ddeuthum i'n gyfarwydd â’r nofel hon gyntaf ar drothwy’r Nadolig 2019. Digwyddwn fod yn un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen ac fe’i hanfonwyd i’r gystadleuaeth honno. Ni ddatgelwyd iddi ddod yn ail teilwng i Hannah-Jane gan Lleucu Roberts nes i hynny gael ei gyhoeddi ar ôl yr Eisteddfod AmGen gynhaliwyd yn 2021. Roedd y ddwy nofel ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth mewn rhai ffyrdd yn debyg iawn i’w gilydd gan eu bod yn trafod hynt a helynt tair cenhedlaeth o’r un teulu ac yn rhoi lle canolog i’r clefyd dementia yn eu storïau. Bu’r awdur yn ddoeth i newid teitl y nofel er pan anfonodd hi i’r gystadleuaeth yn 2019, ac mae’r llun trawiadol gan Valériane Leblond sydd ar y clawr yn gaffaeliad pendant. Fe gawn gan yr awdur ddisgrifiad cynnes o fywyd cefn gwlad, ac mae enwau’r ffermydd – Tyddyn Bach, Glan Ffrwd, a Berllan Bella – heb sôn am drafferthion yr ocsiwn a’r helyntion efo’r Ffyrgi bach, yn creu darlun sydd bron â bod yn un rhamantus. Diddorol hefyd yw strwythur y nofel gyda’r hanes wedi ei rannu i 'Heddiw', 'Ddoe' ac 'Echdoe', a ninnau yn ymweld â’r gwahanol gyfnodau yn eu tro. Fe’n cludir o’r heddiw cythryblus i ddyddiau tywyll yr Ail Ryfel Byd. Mae yma garwriaethau sy’n allweddol i’r stori, a dwy o’r rhai hynny yn rhedeg ochr yn ochr, er bod blynyddoedd mawr rhyngddynt. Perthyn carwriaeth Glad a Gruff i ddyddiau’r Ail Ryfel Byd tra bod carwriaeth Bethan a Gwynfor yn dod â ni yn nes at ein cyfnod ni. Er y pellter amser rhyngddynt maen nhw'n digwydd ar yr un darn o draeth ac mae yna arwyddocâd pwysig i seithugrwydd y ddwy. Y garwriaeth fawr arall yw carwriaeth Bethan (sy’n ferch i Iorwerth, gyda llaw) a Greta, ond mae honno hefyd yn cael ei phrofi i’r eithaf. Ond Iorwerth ei hun yw canolbwynt yr hanes ac mae’r darlun a gawn o’i feddwl yn dirywio yn un dirdynnol. Mae’n llithro fwy fwy i’w blentyndod wrth adrodd ac ailadrodd hwiangerddi a dwyn i gof rai o’r oriau melys a dreuliodd yn blentyn ar aelwyd Anti Glad. Rhaid oedd ei symud o’i gynefin i Gaerdydd fel y gall Bethan a Greta ofalu amdano. Tasg yw hon sy’n gosod cryn straen ar eu perthynas ac yn arwain at fwy o drasiedïau. Ond mwy sinistr, efallai, na’r afiechyd y dioddefa Iorwerth ohono yw’r negeseuon dienw bygythiol a anfonir ato. Maen nhw’n bresenoldeb gwenwynig drwy’r nofel ar ei hyd, er nad yw Iorwerth druan mewn unrhyw sefyllfa i’w hamgyffred. Rhaid aros tan y diwedd eithaf cyn i ni ddarganfod pwy sy’n anfon y negeseuon a deall y rheswm drostynt. Er bod yma ambell fflach o oleuni, nofel dywyll iawn yw hon mewn gwirionedd, ond mae’n ddilyniant mwy na theilwng i Gabriela , nofel gyntaf yr awdur.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820282876278,"sku":"9781800991507","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781800991507_46873fce-32c3-4560-93a4-2e970b1fcee3.jpg?v=1790355057","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/yn-fyw-yn-y-cof-9781800991507","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}