{"product_id":"ymbapuroli-9781845277802","title":"Ymbapuroli","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol o ysgrifau cywrain gan un o'r awduron mwyaf cynnil sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg heddiw, sy'n cwmpasu pynciau amrywiol megis seineg, cacennau, clirio a Karl Marx, gan ein cludo ar wibdaith o amgylch Cymru a thu hwnt.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA volume of articles by one of the most subtle authors writing in the Welsh language today, encompassing such diverse topics as phonetics, cakes, cleaning and Karl Marx, as we are taken on a speedy trip around Wales and beyond. REPRINT FIRST PUBLISHED 2020\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781845277802\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781845277802\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eYmbapuroli\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePrice, Angharad\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-01-31\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Carreg Gwalch\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e174 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 × 198 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ysgrifau a Sgyrsiau (yn Gymraeg) | EN: Essays and Talks (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ysgrifau (yn Gymraeg) | EN: Essays (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Angharad Price yn academydd a nofelydd sy'n byw yng Nghaernarfon gyda'i theulu. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2002 gyda O! Tyn y Gorchudd . Cyhoeddwyd Trysorau Cudd Caernarfon ganddi hi a Richard Outram yn 2018.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRhy hir o lawer y bu’r disgwyl am gyfrol o ysgrifau Cymraeg, o ystyried llinach anrhydeddus y ffurf a’r bri mawr sydd arni o hyd. Fe aeth yr ysgrif yn ffurf ddieithr ac amheus i’r gweisg sefydledig, ond pe baem wedi gorfod aros deng mlynedd arall am gyfrol ohonynt yn ein hiaith, byddai wedi bod yn werth pob eiliad os taw hon oedd y gyfrol a arhosem amdani. Ceir yma amryffurfedd, lluosogrwydd ac amrywiaeth ochr yn ochr ag unfrydedd, unplygrwydd ac ymgolli yn y gwrthrych, y cyflwr, a’r lle unigol. Y tyndra celfydd a gosgeiddig hwn sy’n gwneud diffinio’r gyfrol yn orchwyl seithug. Mae yna ysgrifau am Gymru, am Ewrop – am y byd. Ond nid oes ffiniau rhyngddynt: gwelwn Gymru’n rhan o’r byd mawr, a’r byd oll yng ngwead Cymru hithau. Delwedd addas yn hyn o beth yw honno sy’n agor ac yn cloi’r ysgrif am Jan Morris a’i gwaith (‘Ar Blyg y Map’), sef map o’r byd a roliwyd yn belen flêr. Mae’r ysgrifau’n cynnig cyfanwaith, ond heb golli golwg ar yr hyn a guddiwyd a’r hyn sy’n gwyro rhag ein syniadau cyffredin am gyflawnder a gorffennedd. Mewn ysgrifau fel ‘Bara Berlin yn Sling’ cawn brofiad sy’n pontio gofod ac amser, gan drosgynnu’r ffordd arferol o synio am lefydd fel petaent yn ddiriaethau disymud, terfynol. Mae gan yr awdures amgyffred miniog o fyd sy’n ‘ddim ond plygiadau’, ac yn y plygiadau hynny mae dod o hyd i ganfod am amgyffred amgen. Un nodwedd sy’n haeddu sylw neilltuol yw’r defnydd ar iaith yn y gyfrol hon. Mae Angharad Price wedi hen fagu ieithwedd arbennig sy’n ymhyfrydu mewn geiriau morffolegol-luniaidd – fel y dengys teitl y gyfrol ei hun – ond heb ddieithrio’r darllenydd. Defnyddir iaith at bwrpas, a’i gwthio heb ofni mentro. Mae hi’n siapio iaith yn ôl anghenion ei mynegiant. Mae hynny’n rhyddhad yn y sin lenyddol sydd ohoni, sy’n gallu glynu’r rhy dynn at iaith lafar ei naws (neu syniad rhai pobl ynglŷn â beth yw iaith lafar). Law yn llaw â’r iaith huawdl, ceir hefyd amrywiaeth braf o ran arddull. Bydd y gyfrol hon yn herio’r rhagdybiaethau bod yr ysgrif yn rhyw ymarferiad ymenyddol, neu gyfrwng hel atgofion cysglyd. Darllened y sawl sy’n rhagdybio felly ysgrif olaf y gyfrol hon, ‘Y Lôn Glai’. Dyma ddarn sy’n amlygu rhinweddau ffurf yr ysgrif: mae’n cyniweirio fel ysbryd ar drothwy’r llenyddol a’r ‘ffeithiol’, nes bod yna ddim trothwy o gwbl.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820784226678,"sku":"9781845277802","price":8.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781845277802_a436903f-1ad8-4eb5-a09d-4c35a489f8aa.jpg?v=1790360439","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/ymbapuroli-9781845277802","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}