{"product_id":"y-mabinogi-9780862438999","title":"Y Mabinogi","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eChwedlau o Bedair Cainc y Mabinogi wedi eu hailadrodd ar gyfer plant gan Gwyn Thomas, gyda lluniau trawiadol a lliwgar gan Margaret Jones. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2006.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA retelling of the Four Branches of the Mabinogi for children by Gwyn Thomas, with striking colour illustrations by Margaret Jones. Reprint; first published in 2006.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780862438999\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780862438999\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Mabinogi\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eThomas, Gwyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-01-16\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Margaret\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e96 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e211 × 296 mm; depth 8 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Chwedlau (yn Gymraeg) | EN: Folk Tales and Fables (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDaw'r Athro Gwyn Thomas o Flaenau Ffestiniog, ond mae bellach yn byw yn Mangor, lle bu'n bennaeth y Gymraeg yn y Brifysgol yno. Mae Margaret Jones yn artist hynod brofiadol ac yn byw yng Nghapel Bangor ger Aberystwyth. Cydweithiodd y ddau ar sawl llyfr i blant, gan ennill gwobr Tir na n-Og ar sawl achlysur.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyhoeddwyd y cyfaddasiad yma o’r Mabinogi am y tro cyntaf gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1984 a hynny rhwng cloriau caled. Fe'i adargraffwyd yn 1985. Yn awr, wele argraffiad hylaw, atyniadol Y Lolfa o’r gwaith rhwng cloriau meddal. Try lluniau Margaret Jones (oddeutu 26 ohonynt a’r mwyafrif mewn lliw) y gyfrol yn un hardd a thrawiadol i’r llygaid. Lluniau lliwgar llawn manylion yw’r rhain sy’n wledd ynddynt eu hunain. Camp cyfaddasiad Gwyn Thomas yw gwneud y chwedlau yn ddarllenadwy a dealladwy a hynny heb golli rhin a hudoliaeth y gwreiddiol. Llwyddodd i greu argraff o eiriad y chwedlau a gofnodwyd tua saith can mlynedd yn ôl. Ceir ôl-nodyn diddorol yng nghefn y gyfrol ble trafoda’r ysgolhaig a’r bardd Gwyn Thomas rywfaint ar gefndir ac athroniaeth y cyfaddasu. Anghytunaf gydag awgrym y broliant mai ‘cyhoeddiad . . . ar gyfer plant’ yw'r gwaith yma gan fod chwedlau Pedair Cainc y Mabinogi yn addas i bawb sy’n hoff o gael eu swyno gan fyd ble mae cymeriadau'n medru gwneud rhyfeddodau. Dyma Narnia C. S. Lewis a Middle Earth Tolkien y Cymry. Mae darnau o’r chwedlau ynghyd â’u cymeriadau yn gorwedd yn ddwfn yn ein cof a’n dychymyg. Ac fel pob stori dda, rydym yn gofyn am gael ei chlywed eto ac eto er mwyn ymgyfarwyddo â’r manylion; rhai’n ogleisiol ac eraill yn frawychus. Dyma gyfle felly i ddarllen am gymeriadau cyfareddol megis Bendigeidfran y cawr, Blodeuwedd y ferch o flodau a Rhiannon. Y gyntaf o’r chwedlau yw Pwyll Pendefig Dyfed, yna ceir Branwen Ferch Llŷr, Manawydan Fab Llŷr ac yn olaf Math Fab Mathonwy. Dyma gyfrol werthfawr i bob myfyriwr a phlentyn ysgol sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819049455990,"sku":"9780862438999","price":9.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780862438999_db16cd32-b55d-484f-84ec-8dfe88a2c977.jpg?v=1790353010","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/y-mabinogi-9780862438999","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}