{"product_id":"y-goeden-nadolig-orau-erioed-9781845279578","title":"Y Goeden Nadolig Orau Erioed","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol Nadoligaidd yn cyfri'r addurniadau sy'n cael eu gosod ar y goeden Nadolig orau erioed!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA Christmassy title where decorations are counted before placing them on the best Christmas tree ever!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781845279578\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781845279578\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Goeden Nadolig Orau Erioed\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCadwaladr, Rhian\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2024-11-15\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Carreg Gwalch\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTecwyn, Leri\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e32 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e210 × 260 mm; depth 8 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCwestiwn a ofynnwyd i mi'n aml pan oeddwn i'n brifathro oedd pryd oedd yr amser gorau i gyflwyno llyfr a darllen i blant. Flynyddoedd yn ôl mewn darlith gan Jeff Hynds, ymgynghorydd llythrennedd o Sheffield, dywedodd, ‘Rhowch lyfr i blentyn cyn gynted â phosibl’ – a dyna ateb y cwestiwn. Mae gwerthiant llyfrau Cymraeg ar groesffordd ond diolch i Rhian Cadwaladr, Leri Tecwyn a Gwasg Carreg Gwalch am ysgrifennu a chyhoeddi’r llyfr yma. Mae’n em bach o lyfr i’w roi yn hosan Nadolig y plentyn ieuengaf. Mae’n rhesymol o ran pris, yn lliwgar ac yn llawn posibiliadau i sbarduno’r plentyn i gymryd diddordeb mewn llyfr. Mae cyffyrddiad y llyfr yn hyfryd ( mi rydw i’n bersonol yn hoff iawn o anwesu llyfr). Mae’r clawr yn llyfn ac yn llawn lluniau bach i dynnu sylw unrhyw blentyn ac yn llyfr arbennig i Mam neu Dad gyd-ddarllen gyda’u plenty, gan holi a chwestiynu, a thrwy hyn ennyn diddordeb y plentyn. Mae’r stori yn syml, hyfryd ac amserol. Hanes Non sydd yma yn gofyn i’w thad a fuasai’n cael addurno y goeden Nadolig. Cyflwynir y stori mewn rhifau a lluniau. Mae’r peintiadau yn null unigryw Leri Tecwn yn ddeiniadol. Mae’r rhifau yn rhedeg o un i ddeg. Tudalen i bob rhif ac ar y dudalen gyferbyn ceir llun. Mae pob rhif ar belen Nadolig ac oddi tani dau air yn egluro y llun e.e. rhif un ar belen ac yna’r geiriau ‘angel aur’. Rwy’n hoff iawn o ddefnydd o gyflythrennu wrth egluro’r llun. Mae hyn yn ychwanegu at ddenu diddordeb y plentyn yn y stori. Dyma lyfr sy’n haeddu bod yn hosan Nadolig eich plentyn. Mae’n gam cyntaf i gyflwyno llyfrau a darllen i blant ifanc. Mae cymaint i’w gael o’r llyfr. Llongyfarchiadau i dîm mam a merch, Rhian Cadwaladr a Leri Tecwyn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820806771062,"sku":"9781845279578","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781845279578_018ce87f-cd2f-4cc5-8d1e-1ec1f7c02e89.jpg?v=1790360774","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/y-goeden-nadolig-orau-erioed-9781845279578","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}