{"product_id":"y-goeden-ioga-9781785622199","title":"Y Goeden Ioga","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLlyfr stori a llun sy'n cyflwyno symudiadau ioga syml i blant ac oedolion. Mae'r llyfr annwyl hwn yn mynd â ni i fyd natur a chylch bywyd yr hedyn wrth iddo egino a thyfu'n goeden fawr gryf a thyfu dail. Buan iawn daw'r Hydref a'i wynt i chwythu'r hadau ac ailgychwyn ar gylch bywyd natur unwaith eto.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA story and picture book which introduces simple yoga positions to children and adults. This book takes us to the world of nature and the life cycle of the seed as it sprouts and grows into a big strong tree and grows leaves. But quickly the Autumn comes and the wind blows the seeds away and begins the circle anew.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781785622199\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781785622199\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Goeden Ioga\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMererid, Leisa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2022-04-19\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDavies, Cara\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e32 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e244 × 245 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma’r llyfr cyntaf o’i fath yn y Gymraeg sy’n cyflwyno ioga i blant a’u teuluoedd. Mae’r clawr yn denu’r llygad yn syth, gyda’i liwiau modern, heddychlon. O agor y clawr, mae yno gyflwyniad byr yn egluro beth yn union yw ioga, pam ei fod yn neud lles i ni, ac ychydig o hanes yr ymarfer sydd wedi bod o gwmpas ers o leiaf 5000 o flynyddoedd! Yn y croeso hefyd mae gair am beth i’w wisgo a sut dylid mynd ati i gael y gorau allan o sesiwn ioga. Fel ymarferydd ioga (achlysurol!) fy hun, roeddwn wrth fy modd o ddarganfod y llyfr hwn. Wedi hen arfer ar gael fy mhlant yn neidio ar fy nghefn yn ystod fy ymgais at wneud y symudiad downward facing dog , roedd hi’n hen bryd iddynt gael tro eu hunain! Mae Leisa Mererid wedi taro ar arddull hyfryd i esbonio ioga syml i blant trwy ein harwain ar daith hedyn bychan yn tyfu’n ara deg mewn i goeden gadarn, gan gwrdd y creaduriaid sy’n chwarae oddi tani ar hyd y ffordd. Mae darluniau tawel, arbennig Cara Jones yn serennu, gan gynnig rhywbeth newydd ar bob darlleniad. Yn wir mae’n bosib darllen y llyfr hardd hwn fel stori cyn gwely ar ei ben ei hun, neu ei ddilyn fel canllaw gyfleus ar gyfer y siapiau ioga yn unig. Ond fel cyfuniad o’r ddau oedd orau gan fy merch 7 oed a minnau. Roeddem yn darllen y stori gan wneud y symudiadau ioga ar yr un pryd, ac ar ôl sawl darlleniad, roedd penillion y testun yn dechrau aros yn y cof a ninnau’n gallu aros a mwynhau’r siâp heb orfod codi pen. Mae cyfle yma am gyfres yn fy marn i. Gyda mwy a mwy o bwyslais yn cael ei roi ar iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth ofalgar plant a phobl ifanc y dyddiau hyn, gobeithio cawn weld mwy o lyfrau tebyg i Y Goeden Ioga yn cael eu cyhoeddi yn fuan iawn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820126441846,"sku":"9781785622199","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781785622199_b0e31cc4-5b16-4199-8938-c928eeb37e23.jpg?v=1790354509","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/y-goeden-ioga-9781785622199","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}