{"product_id":"y-dyn-dweud-drefn-9781845276454","title":"Y Dyn Dweud Drefn","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDewch i 'nabod y Dyn Dweud Drefn. Mae sawl person i'w ddwrdio bob dydd am ryw hafoc neu gilydd. Gwyliwch chi eich hun, neu mi fydd y Dyn Dweud Drefn ar eich ôl!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAn original, illustrated book for young children about the man who is giving somebody a telling off daily. But make sure you behave, or he will be after you!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781845276454\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781845276454\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Dyn Dweud Drefn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLynch, Lleucu Fflur\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2019-10-08\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Carreg Gwalch\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMillward, Gwen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e66 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e135 × 146 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eBeth am ddechrau gyda golwg gyntaf ar y gyfrol? Dyma i chi lyfr sy’n hyfryd i’w ddal yn eich llaw! Mae’n faint ychydig yn anarferol am lyfr clawr meddal, efallai – yn sgwaryn bach twt sy’n berffaith i ddwylo plant bach oed cynradd. Roeddwn i’n meddwl fod y clawr yn ddeniadol, diolch i’r darlun gan Gwen Millward, sy’n dangos dyn blin a chi bach. Ac, ynghyd â’r teitl, mae’n llwyddo i godi chwilfrydedd. Beth yn y byd all achosi i ddyn fod mor biwis ag y mae’r llun yn ei ddangos, gyda’i freichiau wedi’u gosod mewn ystum mor flin, tybed? Ro’n i wrth fy modd o’r cychwyn efo lluniau Gwen Millward; maen nhw’n gweddu’n berffaith i’r stori. Dyma gyfrol gyntaf yr awdur Lleucu Fflur Lynch, ac mae hi wedi creu byd bach digon syml ond effeithiol iawn trwy stori a chymeriad y Dyn Dweud Drefn. Wrth gwrs, mae o’n ddyn drwg ei dymer sy’n hoff o ddwrdio ac yn treulio’i ddyddiau’n cwyno am unrhyw beth a phopeth. Gallech dybio nad ydi’r Dyn Dweud Drefn yn hapus os nad ydi o’n dweud y drefn! Hynny ydi, nes i gi bach annwyl ddod i’w fywyd a’i orfodi i feddwl am bethau eraill, ei ddifyrru a dwyn ei sylw fel nad yw’n dweud y drefn am ddiwrnod cyfan. Mae’n teimlo’n groes disgrifio hanes dyn blin fel hyn fel stori annwyl a hoffus, efallai, ond gyda chymeriad bach diniwed y ci, a’i ddylanwad ar fywyd y Dyn Dweud Drefn, mae hon yn gyfrol hyfryd. Dw i’n siŵr y bydd plant bach sy’n dechrau darllen wrth eu bodd. Mae hi’n stori hawdd gwrando arni hefyd, i blant sydd efallai ddim am ei darllen yn annibynnol a, diolch i’r elfennau o ailadrodd ac adeiladu byd bach y Dyn Dweud Drefn a’i arferion dyddiol, mae’n syml i’w dilyn ac yn gyfle gwych i helpu plant sydd eisiau magu hyder wrth ddarllen ar eu pennau eu hunain. Mae hon yn gyfrol hyfryd a difyr i blant ifanc, ond dw i hefyd yn meddwl y byddai oedolion yn mwynhau ei chyflwyno i ddarllenwr iau, fel y gwnes innau. Mi fydda i’n edrych ymlaen yn eiddgar at lyfr nesaf Lleucu Fflur Lynch yn y dyfodol agos.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820774953334,"sku":"9781845276454","price":4.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781845276454_06b92d90-61b9-409c-b5f4-d11265282738.jpg?v=1790360289","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/y-dyn-dweud-drefn-9781845276454","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}