{"product_id":"wps-9781848513006","title":"Wps!","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol liwgar o gerddi hwyliog a doniol i blant gan Dewi Pws, Bardd Plant Cymru 2010-2011. Casgliad o 17 o gerddi gwreiddiol gan y clown geiriau, wedi'u darlunio gan Eric Heyman. Mae'n wyllt, mae'n wallgo ac mae'n llawn sbort a sbri chwerthin plant!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA colourful book of lively and humorous poems for children by Dewi Pws, the Welsh Children's Laureate for 2010-2011. A collection of 17 original poems by the word clown, illustrated by Eric Heyman. It's wild and mad and full of fun and the sound of laughing children!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848513006\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848513006\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWps!\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMorris, Dewi Pws\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£4.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2011-10-05\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHayman, Eric\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e32 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e144 × 164 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eWps!....Dyna chi Pws! Wps!. Dyna sy’n neidio o bob tudalen yn y gyfrol newydd ddireidus o gerddi i blant gan Dewi Pws a gyhoeddir gan Wasg Gomer. Y sbort a’r sbri, y chwerthin, y chwarae ar eiriau a’r jôcs – dyna chi Pws i’r dim ac anagram o’i enw ei hun yw teitl y gyfrol liwgar hon a arluniwyd gan Eric Heyman o Gaerdydd. Fel Bardd Plant Cymru 2010-11, cafodd Dewi amser wrth ei fodd gyda phlant o bob oed ar hyd a lled y wlad a chyflwynir Wps! ‘I holl blant Cymru a wnaeth flwyddyn y Bardd Plant yn gymaint o hwyl!’ Er iddo gyhoeddi cerddi, straeon a chaneuon i blant mewn cyfrolau eraill amrywiol, Wps! yw’r unig gyfrol o’i gerddi i blant . Clywir ei lais digri drwy’r deunaw cerdd sy’n amrywio o ran hyd, ffurf a thestun. Ceir cerddi i bobl fel Dat-cu a Fy Nghefnder Dei a hyd yn oed cyfle i ddyfalu Pwy yw Pwy? yn y gyfres o gwpledi e.e. ‘Hedfan yn brysur o flodyn i flodyn, A mwmian canu ‘mond un nodyn’ Pa fath o fyd fyddai, tybed, pe byddai popeth yn ben i waered? ‘Hufen iâ poeth a sglodion blas jam, Babis yn beicio a’u rhieni mewn pram? Wyddech chi fod yna dylwyth teg yn byw yn y goedwig ger Brynhoffnant? Mae’n anodd iawn eu gweld nhw am eu bod yn newid lliw. ‘Yna, os y’ch chi’n ffodus , Cewch eu clywed ambell waith Yn chwarae yn y tonnau I lawr ym mae Tre-saith.’ Mae Dewi wedi ymgartrefu ym mhentref hudolus Tre-saith yng Ngheredigion ac yn rhan o’r gymuned yno ond mae’n hanu’n wreiddiol o Dreboeth ger Abertawe. Bydd plant yn cael eu denu’n syth gan luniau lliwgar a doniol Eric Heyman o Gaerdydd. O weld llun Superman ar y tŷ bach, y bachgen o ardal y Glais a’r jiráff hirgoes, mae’n amlwg fod hiwmor yr awdur a’r arlunydd yn taro deuddeg. Eric hefyd wnaeth arlunio straeon Dewi Dwpsi a luniwyd gan Dewi a’i wraig Rhiannon. Fel plentyn mawr ei hun, mae Dewi’n deall beth sy’n difyrru plant a gwneud iddyn nhw chwerthin. Rhwng cloriau Wps! fe welir hynny i’r dim!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820851597686,"sku":"9781848513006","price":4.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848513006_53f5b437-5749-4887-b93d-822e6ec02d64.jpg?v=1790361288","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/wps-9781848513006","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}