{"product_id":"un-man-9781848518667","title":"Un Man","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel sci-fi a stori garu. Mae Erin wedi cael llond bol ar ei bywyd diflas, ei gwaith di-ddim a'i chariad difeddwl. Mae hi'n dyheu am fywyd gwell ac yna ... un noson, yn ei chwsg, mae Morgan yn ymddangos. Dyn ei breuddwydion. Yn sydyn mae bywyd yn werth ei fyw ond dim ond pan mae hi'n cysgu ...\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA sci-fi novel and romance rolled into one. Erin is weary of her boring lifestyle, job and boyfriend, and yearns for a better life. One night as she sleeps, Morgan, the man of her dreams, appears. Suddenly, life is worth living, but only when she sleeps ...\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848518667\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848518667\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eUn Man\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDavies, Joanna\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-04-30\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Atebol\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e174 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e127 × 192 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Wyddonol (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Science Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDydi straeon am ferch mewn rhigol garwriaethol ac yn chwilio am rywbeth gwell ddim yn bethau prin, ond yma cawn ddyhead sy’n mynd tu hwnt i’r byd real, diolch i’r awdures Joanna Davies a’i phumed nofel. Mae Erin a Wil mewn perthynas undonog, ddi-sbarc ac fe gaiff hyn ei adlewyrchu yn un o freuddwydion Erin un noson. Mewn tafarn, mae Erin yn cwrdd â Morgan wrth iddi straffaglu yn ei sodlau uchel, ond dydi hon ddim yn freuddwyd sydd yn diflannu wrth iddi ddeffro. Nac ydi, mae’r freuddwyd hon yn un sy’n dod yn ôl dro ar ôl tro nes bod Erin nid yn unig yn dod â'i pherthynas â Wil i ben, ond yn ei thaflu ei hun i fyd newydd, byd sydd ar brydiau yn llawn caru nwydwyllt a’r funud nesaf yn llawn tywyllwch. Er mwyn iddi fedru ymdopi, mae Erin yn ymweld â'r adran seicoleg yn y brifysgol a phan ddaw’r freuddwyd i fod yr unig beth sy’n peri hapusrwydd iddi, mae hi eisiau cysgu am byth. Ond yn ogystal â bod yn stori sy'n pendilio rhwng byd cwsg ac effro a rhwng ffantasi a bywyd go iawn, mae’r freuddwyd yn mynd â ni’n ôl at gyfnod arall mewn amser; yn wir, mae Erin bob nos yn dianc i’r gorffennol i gyfarfod Morgan nes yn y diwedd, mae’r freuddwyd yn troi’n hunllef ar y ddaear. Dyma nofel a wna i’r darllenydd feddwl am y ffilm Midnight in Paris , ond mae’r stori hon yn dywyllach. Gwna i ni deimlo tosturi dros fywyd Erin, ond ar yr un pryd cawn ein dychryn ynglŷn â pha mor hawdd yw syrthio i fyd afreal wrth i ni deimlo nad oes dihangfa rhag ein bywydau go iawn. Ond mae’r ddihangfa hon yn chwalu bywyd Erin yn deilchion ac iddi hi, mewn diweddglo dramatig, does dim ond un ffordd i ddianc. Fel y dywed y gân, mae hon yn enghraifft o chwarae’n troi’n chwerw. A fyddai’n well petai Erin wedi diolch am yr hyn oedd ganddi gyda Wil yn hytrach na chwilio am ddyn ei breuddwydion? Weithiau, dydi un bywyd ddim yn ddigon.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820879090038,"sku":"9781848518667","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848518667_cb467dd8-4ef8-4609-8daa-bd02910a101e.jpg?v=1790361643","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/un-man-9781848518667","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}