{"product_id":"twll-bach-yn-y-niwl-9781784619565","title":"Twll Bach yn y Niwl","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Lowri wedi cael llond bol o'i phentref, o'i diffyg swydd, o hogiau, o'i ffrindiau weithiau, ac o'r dafarn leol. Yn ogystal â phroblemau teuluol, mae bywyd Lowri yn ddiflas. Ond oes llygedyn o obaith drwy'r niwl? Nofel gignoeth am gyfeillgarwch a thyfu i fyny; am fod yn oedolion sy'n dal i fihafio fel plant. Mae'n cynnwys iaith gref a golygfeydd ar gyfer oedolion yn unig.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eLowri has had enough of her village, unemployment, young men, the local pub, and even her friends sometimes. Together with family problems, Lowri's life is dull. But is there a flicker of hope through the mist? A caustic novel about friendship and coming of age, about adults behaving as children, with strong language and imagery for adults only.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784619565\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784619565\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTwll Bach yn y Niwl\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMaddocks, Llio\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-11-09\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e250 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 195 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel am Lowri, merch ifanc sy’n byw mewn pentref pawb-yn-nabod-pawb yng ngogledd Cymru, yw Twll Bach yn y Niwl , nofel gyntaf Llio Elain Maddocks. Mae’r nofel wedi ei hysgrifennu yng Ngwyndodeg hyfryd yr awdur, sy’n hanu o Lan Ffestiniog. Os ydych chi, fel fi, yn ffan o Insta-gerddi gwych yr awdur, rwy’n hyderus y gwnewch chi fwynhau’r nofel hon. Mae’r nofel yn dechrau’n dwyllodrus o syml ac ysgafn. Dysgwn o’r dechrau fod Lowri wedi diflasu ar ei bywyd yn y pentref. Mae ei bywyd carwriaethol yn llanast llwyr. Caiff ei dympio’n ddisymwth gan Anthony – ei chariad ers saith mlynedd – dros bryd siomedig (a sarhaus) o basta. Mae Dafydd – yr hogyn y bu hi’n cyboli ag ef tra oedd Anthony yn Awstralia – yn ei thrin fel baw ac yn annhebygol o adael ei gariad. Mae hi’n ddi-waith ac yn ymgeisio am swyddi nad ydynt o ddiddordeb iddi o gwbl. Hoffai wneud PhD ond dydi hi ddim yn teimlo’n ddigon clyfar. Ac fel llawer o bobl ifanc sydd wedi dychwelyd adref i’w cymunedau cysglyd ar ôl graddio o’r brifysgol, mae Lowri’n ymdrybaeddu mewn ennui ac angst, yn cicio’i sodlau ac yn treulio gormod o amser yn y dafarn efo ffrindiau sydd hefyd yn yr un twll. Mae hi mewn rhigol ac angen newid byd. Gŵyr Lowri ei bod hi yn y niwl yn llwyr ac nid yw’n medru gweld unrhyw oleuni drwyddo – mae’n gwbl anhreiddiadwy. Ond sylweddola erbyn y diwedd mai hi yn unig a all glirio’r niwl sy’n ei rhwystro rhag symud yn ei blaen. Er bod y nofel yn dechrau ar nodyn ysgafn, mae’r awdur yn plannu themâu dwys drwyddi draw, fel hadau bach sy’n galluogi i’r nofel ddatblygu a thyfu’n stori sy’n fwy dirdynnol na hanes troeon trwstan a bywyd carwriaethol trychinebus merch ifanc. Yn wir, roedd y dagrau’n powlio i lawr fy ngruddiau tua’r diwedd. Mae’r awdur yn disgrifio ei hun fel ‘rêl milenial’, ac fel milenial fy hun, rwy’n medru uniaethu ar sawl lefel â’r prif gymeriad. Ond i’r sawl nad ydynt yn perthyn i’r genhedlaeth avo-ar-dost, rwy’n hyderus y gwnewch chi fwynhau’r nofel lawn cymaint ag y gwnes i. Mae Twll Bach yn y Niwl yn nofel ddarllenadwy, lawn hiwmor sy’n pendilio’n gelfydd rhwng y llon a’r lleddf. Darllenwch!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820086792566,"sku":"9781784619565","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784619565_8042f7a4-be7d-408e-a2b0-e54f1b7615e3.jpg?v=1790354392","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/twll-bach-yn-y-niwl-9781784619565","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}