{"product_id":"trysorfa-chwedlau-cymru-9781848513044","title":"Trysorfa Chwedlau Cymru","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol hardd a chyfoethog sy'n gofnod o rai o chwedlau mwyaf hudolus Cymru: Taliesin, Merch Llyn y Fan Fach, Clustiau March, Gwiber Emlyn, Llyn Llech Owain, Seiriol Wyn a Chybi Felyn, Rhys a Meinir, Beibl Beuno a Maelgwn Gwynedd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA rich volume including some of Wales's oldest and most magical folk tales and fables, expertly compiled by teacher, author and chaired bard, Tudur Dylan Jones and artist Brett Breckon. The book includes the tales of Taliesin, Merch Llyn y Fan Fach, Clustiau March, Gwiber Emlyn, Llyn Llech Owain, Seiriol Wyn a Chybi Felyn, Rhys a Meinir, Beibl Beuno and Maelgwn Gwynedd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848513044\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848513044\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTrysorfa Chwedlau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Tudur Dylan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-06-20\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBreckon, Brett\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e120 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e245 × 220 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Chwedlau (yn Gymraeg) | EN: Folk Tales and Fables (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eGwledd o hen chwedlau Mae Gwasg Gomer yn rhoi gwledd i blant Cymru wrth gyhoeddi Trysorfa Chwedlau Cymru , cyfrol gyfoethog o chwedlau mwyaf hynafol a hudolus Cymru sydd wedi’i llunio’n gelfydd gan yr athro, awdur a Phrifardd, Tudur Dylan Jones a’r arlunydd Brett Breckon. Erbyn heddiw mae Eisteddfodau yn rhan annatod o ddiwylliant Cymru, gydag un o’r rhai mwyaf yn cael ei chynnal yn Sir Benfro yr wythnos hon, ond ydych chi erioed wedi clywed stori’r Eisteddfod gyntaf un? Doedd yr un babell na charafán i’w cael ar gyfyl y lle! Neu efallai eich bod wedi clywed y stori drist am Rhys yn chwilio’n ofer am ei ddyweddi, Meinir, yng nghoedwig Nant Gwrtheyrn wedi iddi ddiflannu ar ddiwrnod ei phriodas. Ac ydych chi’n gwybod o le daeth y dŵr sy’n llenwi Llyn Llech Owain ger pentref Gors-las yn Sir Gaerfyrddin? Yn wir, mae Cymru’n enwog am ei llên gwerin, ac mae’r atebion i’r cwestiynau hyn i gyd i’w cael yn ein hen chwedlau. Mae rhai o’r straeon gorau dan haul yn eu plith ac mae casgliad ohonynt, o bob cwr o Gymru, i’w cael rhwng cloriau cyfrol newydd Tudur Dylan Jones, Trysorfa Chwedlau Cymru , sy’n cael ei chyhoeddi’r wythnos hon. Dywed yr awdur: “Mae'r hen chwedlau hyn yn straeon sydd wedi cael eu dweud a'u mwynhau dros ganrifoedd lawer. Mae dweud stori yn ffordd o drosglwyddo hanes mewn ffordd ddiddorol a chofiadwy, ac mae'n bwysig bod y straeon a glywodd y genhedlaeth hŷn pan oedden nhw'n iau bellach yn cael eu trosglwyddo i genhedlaeth newydd.” Mae’r gyfrol yn cynnwys chwedlau Taliesin, Merch Llyn y Fan Fach, Clustiau March, Gwiber Emlyn, Llyn Llech Owain, Seiriol Wyn a Chybi Felyn, Rhys a Meinir, Beibl Beuno a Maelgwn Gwynedd. Rhwng y cloriau lliwgar hefyd mae lluniau godidog Brett Breckon yn dod â’r straeon hudolus yn fyw o flaen eich llygaid, gyda phob llun yn wledd o liwiau trawiadol. Ychwanega Tudur Dylan Jones, a enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1995 a 2005: “Y peth sy'n gwbl allweddol i'r gyfrol yw lluniau Brett Breckon. Maen nhw’n dod â'r straeon yn fyw mewn delweddau lliwgar, bywiog, a gobeithio y bydd plant wrth eu bodd yn gweld yr holl gymeriadau'n dod yn fyw o flaen eu llygaid drwy gyfrwng llun.” Dywed yr arlunydd Brett Breckon: “Er bod y gyfrol hon yn rhyw fath o ddilyniant i Trysorfa Arwyr Cymru, roedd gweithio arni yn brofiad gwahanol iawn. Roedd gan bob stori egni unigryw ei hun ac fe wnes i geisio cyfleu’r egni yn lluniau’r gwahanol straeon, boed yn stori am ddreigiau ffyrnig neu’n stori am ddau fynach tyner yn cerdded milltiroedd pob dydd i gyfarfod ei gilydd. “Ro’n i’n hapus iawn gyda’r cymeriadau yn llun stori’r Brenin March, gyda’r barbwr ofnus yn torri gwallt y brenin wrth i hwnnw wylio bob snip o’i siswrn, ac fe wnes i fwynhau darlunio Llyn Llech Owain yn fawr hefyd. “Yn sicr, un fantais wrth ddarlunio chwedlau yn hytrach na hanes yw nad o’n i’n cael fy rhwymo gan hygrededd a chywirdeb hanesyddol wrth ddarlunio’r cymeriadau.” Ychwanega Tudur Dylan Jones: “Y traddodiad llafar oedd yn gyfrifol am drosglwyddo'r chwedlau hyn o genhedlaeth i genhedlaeth yn y gorffennol, ondbellach mae'r gair ysgrifenedig yn ffordd o barhau'r traddodiad hefyd. Mae Trysorfa Chwedlau Cymru yn union fel y mae’r teitl yn ei disgrifio - trysorfa o’n hen chwedlau a rhywle lle bydd yr hen straeon i’w cael ar gof a chadw am byth.”\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA feast of ancient folk tales Publishers Gwasg Gomer are providing the children of Wales with a literary feast by releasing the brand new Trysorfa Chwedlau Cymru , a rich volume including some of Wales’s oldest and most magical folk tales and fables, expertly put together by teacher, author and Chaired Bard, Tudur Dylan Jones and artist Brett Breckon. Today the Eisteddfod is an integral part of Welsh culture, with the Urdd Eisteddfod in Pembrokeshire being one of the biggest events of the year, but have you heard the story about the first ever Eisteddfod? There certainly wasn’t a tent or a caravan anywhere near the place! Or you may have heard the tragic story of Rhys’ futile search for his fiancée, Meinir, who went missing in the woods near Nant Gwrtheyrn on their wedding day. And have you ever wondered from where the water that fills the Llech Owain Lake near Gors-las in Carmarthenshire came from? Well look no further. The answers lie in Wales’ famous folk tales, and Trysorfa Chwedlau Cymru (A Treasury of Welsh Folk Tales), Tudur Dylan Jones’ latest book, which is published this week, is a collection of ancient folk tales and fables from all across Wales, with some of them the best stories ever told. The author said: “These ancient folk tales are stories that have been told and enjoyed over many centuries. History is passed on through the generations with these stories, and it is important that thestories our parents and grandparents heard when they were young are passed on to present and future generations.” The book includes the tales of Taliesin, Merch Llyn y Fan Fach, Clustiau March, Gwiber Emlyn, Llyn Llech Owain, Seiriol Wyn a Chybi Felyn, Rhys a Meinir, Beibl Beuno and Maelgwn Gwynedd. Also between its covers are Brett Breckon’s wonderful illustrations that bring the magical stories to life in front of your eyes, with each picture a spectacular feast of colours. Tudur Dylan Jones, who won the Chair at the National Eisteddfod in both 1995 and 2005, added: “Brett Breckon’s illustrations are vital for this book. They bring the stories to life through lively, colourful images and hopefully children will love seeing all the different characters come to life in front of their eyes.” Illustrator Brett Breckon said: “Although this book is a sister volume to Trysorfa Arwyr Cymru it had a much different feel to it, and each story had it's own energy which I tried to convey in the images I created, whether it was a story involving ferocious dragons, or two gentle monks walking miles each day to meet each other. “I was pleased with the characters in the Brenin March painting, with the frightened barber and the king watching hisevery tiny snip of his hair, and Llyn Llech Owain was good fun to do as well. “One great advantage about illustrating myths rather than history is that I wasn't bound by a need for historical plausibility when it came to the characters’ costumes and the like.” Tudur Dylan Jones added: “The oral tradition used to be responsible for these folk tales being passed on from generation to generation, but now the written word is also a way of continuing the tradition. Trysorfa Chwedlau Cymru is exactly as its title describes it - a treasury of our traditional folk tales and a record of these ancient stories to be kept alive for ever.”\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820851794294,"sku":"9781848513044","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848513044.jpg?v=1790361291","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/trysorfa-chwedlau-cymru-9781848513044","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}