{"product_id":"trysor-y-mor-ladron-9781785620553","title":"Trysor y Môr-Ladron","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eArgraffiad newydd wedi'i ddiweddaru o nofel gyffrous i blant am Syr Harri Morgan, y môr-leidr enwog, yn mynd i chwilio am drysor. Cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Lyfrau'r Dryw ym 1960.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA new, updated edition of an exciting novel for children about Sir Henri Morgan, the famous pirate, searching for treasure. Originally published by Llyfrau'r Dryw in 1960.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781785620553\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781785620553\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTrysor y Môr-Ladron\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, T. Llew\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-09-30\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e282 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e127 × 192 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYn Trysor y Môr-ladron , llwydda T. Llew Jones i gyflwyno stori gyffrous mewn modd byrlymus a gafaelgar. Hanes y môr-leidr go iawn, Syr Harri Morgan, a adroddir yma. Cymro oedd Harri Morgan, ac mae’n un o’r môr-ladron mwyaf enwog a llwyddiannus yn hanes y môr. Cawn glywed y stori gyffrous trwy lygaid cymeriad ffuglennol o’r enw Ieuan. Bachgen ifanc, penfelyn, a diniwed yw Ieuan – cymeriad sy’n gwrthgyferbynnu’n llwyr ag un y môr-leidr tywyll, gwalltog â’i wyneb creithiog. Cyflwynir y cymeriad dibrofiad ochr yn ochr â’r cymeriad llawn profiadau di-ri yn fedrus iawn, a defnyddir y dull i gyflwyno thema’r môr a byd y llongau yn gelfydd. Yn ogystal ag adrodd am ddatblygiad cyfeillgarwch anghonfensiynol y ddau yma, cyflwyna’r awdur nifer o gymeriadau difyr eraill, a thrwy ddisgrifiadau ffraeth llwydda i bortreadu unigolion o bob lliw a llun, gan osod darluniau clir ohonynt yn nychymyg y darllenydd. Ceir disgrifiadau manwl a dyfeisgar o edrychiad cymeriadau, eu hymddygiad yn wyneb ei gilydd, a’u hymatebion i ddigwyddiadau. Mae’r digwydd a’r cyffro i’w gael o’r dechrau un yn y nofel hon. Caiff y darllenydd ei sugno i ganol y plot yn syth bin, wrth i ddyn dieithr ddod ar draws bachgen sy’n dianc ar frys o rywle. Ceir ymladd a thynnu gwaed yn y bennod gyntaf un hefyd, ac mae hynny’n gosod y tôn ar gyfer gweddill y nofel antur hon. Er bod y penodau'n weddol hir, caiff y darllenydd ei ddenu i ddarllen ymlaen oherwydd y cyffro a’r troeon trwstan! Fel yr awgryma’r teitl, mae’r fenter yn mynd â ni ar hyd llwybrau môr-ladron ac ar gwest am drysor o aur ac arian. Cawn ein tywys ar draws y moroedd mawr, a chawn flas ar ddewrder, clyfrwch a direidi’r prif gymeriadau yn wyneb perygl a dihirod gelyniaethus. Nid wyf am ddweud mwy am yr hyn sy’n digwydd rhag difetha pleser y darllen i chi – plymiwch ar daith gofiadwy rhwng cloriau’r clasur hwn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820101013878,"sku":"9781785620553","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781785620553_12992e85-b21d-4379-bcde-6f43264dfad1.jpg?v=1790354444","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/trysor-y-mor-ladron-9781785620553","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}