{"product_id":"tom-9781784617455","title":"Tom","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel am Tom, bachgen 15 oed sy'n byw mewn fflat gyda'i fam. Mae'n ffrindiau gyda dyn 81 oed sy'n byw yn y fflat uwchben. Nofel ddirdynnol yn genre The Curious Incident of the Dog in the Night-time gan awdur ifanc â llais ffres, newydd. Mae'r themâu yn cynnwys bwlio, gwrthdaro, mewnfudwyr, trais a salwch.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA novel about Tom, a 15 year old youth who lives in a block of flats with his mother and who befriends an 81 year old neighbour. This contemporary novel in the genre of The Curious Incident of the Dog in the Night-time is by a new, young writer. Themes include bullying, clashes, migrants, violence and illness.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784617455\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784617455\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTom\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLlwyd, Cynan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-06-15\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e122 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e197 × 130 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Tom, bachgen pymtheg oed, yn byw ar stad Caercoed yn Grangetown. Dwi wedi gwirioni efo disgrifiadau Cynan Llwyd o’r ardal – mae o’n ein trochi ym myd a bywyd bob dydd y stad ac yn cyfleu tlodi a chaledi bywyd yno. Er hyn, mae ’na lawer o gariad yn nhŷ Tom, ond mae ei fam, sy’n fam sengl, yn gweithio ddydd a nos er mwyn crafu byw i roi bîns a chicken nuggets ar y bwrdd. Mae pres yn dynn a fedrwch chi ddim peidio cydymdeimlo â nhw. Ceir disgrifiadau cignoeth a phlaen gan yr awdur ac nid yw'n ceisio cuddio unrhyw agweddau annymunol. Pan ffeindia Tom gath wedi marw, er enghraifft, dyweda: “Dwi’n credu ’mod i wedi delio gyda hynny’n dda er gwaetha’r gwaed, y perfedd, y drewdod a hagrwch moelni’r ci.” Trafoda’r nofel nifer o themâu cyfoes megis tlodi, gangs, trais, cyffuriau, hiliaeth a llofruddiaeth, ond ynghanol hyn oll, ceir cyfeillgarwch a theimlad o gymdogaeth hefyd. Ffrind gorau Tom yw Ananya, ac maen nhw’n fêts go iawn. Mae ei theulu, y Khans, yn wreiddiol o Fangladesh, ac yn dioddef peth atgasedd hiliol yn y stori. Serch hynny, llwydda’r nofel i ddangos Cymru fodern, amlddiwylliannol a sut mae gwahanol hiliau a chrefyddau’n cyd-fyw gyda’i gilydd, er bod anghydraddoldeb cymdeithasol yn dal i fodoli. Efallai fod mymryn gormod o ddisgrifio ar brydiau, ac yn bersonol mi faswn i wedi hoffi diweddglo gwahanol. Roedd y tensiwn a’r drama wedi cael eu hadeiladu i’r fath raddau, roeddwn i’n siŵr fod rhywbeth ofnadwy’n mynd i ddigwydd, ond siomedig braidd oedd y diweddglo sydyn, taclus. Roedd iaith ddeheuol y llyfr yn hawdd i’w deall a gwneir defnydd o rai geiriau Saesneg (wedi eu hitaleiddio) yn lle defnyddio geiriau Cymraeg anghyfarwydd. O ganlyniad, roedd popeth yn llifo’n dda ac yn ddealladwy. Roedd newid fformat ar gyfer y darnau chatroom ar-lein yn ogystal â defnyddio pwyntiau bwled i grynhoi ambell ddisgrifiad yn syml ac effeithiol. Mae bywyd Tom yn gymhleth. Caiff ei dynnu’n ddyfnach i mewn i fyd tywyll y gangs ac mae’r pethau mae’n ei weld – a'u gwneud – yn peri gofid mawr iddo. Yn wir, mae ei fywyd mewn perygl! Anaml iawn yr ydw i’n mwynhau llyfr cymaint â hwn. Mae o’n rymus, yn wahanol, yn gyffrous ac yn gyfoes.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820022894966,"sku":"9781784617455","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784617455.jpg?v=1790354234","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/tom-9781784617455","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}