{"product_id":"tipyn-o-n-hanes-terfysgoedd-cymru-9781848513594","title":"Tipyn O'n Hanes: Terfysgoedd Cymru","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCipolwg ar ein traddodiad ni fel Cymry o greu terfysg a gwrthryfela. Cawn glywed am fudiadau enwog fel Merched Beca a'r Siartwyr yn ogystal â hanesion llai cyfarwydd y terfysgoedd ŷd a chau tiroedd comin. O gyffro'r protestio i dywallt gwaed, down i adnabod ffigurau o bwys drwy brofi eu hangerdd i frwydro yn erbyn anghyfiawnder.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA look at iconic Welsh protests over the centuries.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848513594\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848513594\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTipyn O'n Hanes: Terfysgoedd Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMorris, Bob\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2012-03-23\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e48 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e210 × 290 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Cyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYng nghyfrol ddiweddaraf y gyfres Tipyn o’n Hanes mae Bob Morris yn bwrw golwg ar y traddodiad o brotestio yng Nghymru. Ar glawr Terfysgoedd Cymru ceir print enwog o'r Illustrated London News yn portreadu Merched Beca yn ymosod ar dollborth, ond ceir hefyd ddarlun o'r orymdaith a gynhaliwyd yn 2011 er mwyn cofio terfysg Llanelli ganrif ynghynt. Mae hyn yn cyfleu nod y gyfrol, sef cyflwyno braslun o fudiadau protest a therfysgoedd yng Nghymru, nid yn unig y terfysgoedd mwya adnabyddus, ond hefyd y mudiadau sydd efallai’n llai adnabyddus. Ceir cyflwyniad cryno i’r gyfrol er mwyn gosod y pwnc yn ei gyd-destun, a nodi'r cysylltiadau rhwng y terfysgoedd a'r gymdeithas fodern. Yn wir, yn dilyn yr anhrefn a’r trais yn rhai o ddinasoedd Lloegr ym mis Awst 2011, mae’r cyhoeddiad yn un amserol, yn enwedig wrth ystyried bod heddlu o Gymru wedi eu hanfon i helpu ceisio atal y terfysgoedd hyn. Trafodir y mudiadau yn unigol, ac er bod adrannau go helaeth am weithgareddau’r Siartwyr a chefnogwyr Beca, rhoddir sylw digonol i’r terfysgoedd ŷd, rhyfel y degwm, terfysgoedd diwydiannol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ac eraill. Cyflwynir y cefndir a’r ffactorau a ysgogodd y terfysgwyr i ymateb, eu dulliau protestio, prif gymeriadau’r mudiadau, canlyniadau a llwyddiannau’r terfysgoedd. Ceir hen luniau ynghyd â rhai cyfoes ac ambell ffynhonnell gynradd, megis tocynnau tollbyrth, cartŵn yn darlunio helynt casglu’r degwm, a phoster yn cynnig gwobr am ddal dau o brotestwyr Llanidloes. Fel y dywed Bob Morris, ‘mae hanes hir o derfysg ac anhrefn yng Nghymru’, ac yn y gyfrol atyniadol a lliwgar hon cawn gyflwyniad gafaelgar i’r traddodiad hwn. Dangosir pa mor bwysig yw hanes protestiadau a therfysgoedd yng Nghymru, ac felly does dim syndod bod delweddau o frwydrau Merched Beca a Dic Penderyn wedi treiddio drwy ymwybyddiaeth a diwylliant y Cymry.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820853039478,"sku":"9781848513594","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848513594_a878be3c-976e-4a41-9fb9-d2eb6e9e964f.jpg?v=1790361302","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/tipyn-o-n-hanes-terfysgoedd-cymru-9781848513594","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}