{"product_id":"tipyn-o-n-hanes-stori-r-wladfa-9781848512849","title":"Tipyn o'n Hanes: Stori'r Wladfa","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol gryno yn cynnig braslun o hanes y Wladfa o gyfnod ei sefydlu hyd heddiw yw hon, yn cynnwys cipolwg difyr ar wreiddiau'r ymsefydlwyr cyntaf o Gymru ac ar eu dylanwad ar ddatblygiad Patagonia, ynghyd â llu o luniau ac awgrymiadau ar gyfer darllen pellach.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA concise and entertaining volume sketching the origins of the first Welsh settlers and their influence on the development of Patagonia, together with many photographs and further reading suggestions.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848512849\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848512849\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTipyn o'n Hanes: Stori'r Wladfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEmlyn, Mari\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2010-11-04\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e48 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e168 × 240 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Hanes - Arall (yn Gymraeg) | EN: History - Other (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eCynnwys \/ Table of Contents\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ehunllef y dyddiau cynnar llongau’r Wladfa enwau cyfarwydd merched y Wladfa llofruddiaethau addysg crefydd llenyddiaeth cerddoriaeth ffilm a theledu am y Wladfa y Gymraeg a’r Sbaeneg Yma o Hyd\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eGaned Mari Emlyn yng Nghaerdydd a bu’n ddisgybl yn ysgolion Bryntaf a Llanhari. Mae bellach wedi ymgartrefu yn y Felinheli ac yn fam i dri o blant. Mae’n actio ar y gyfres boblogaidd i blant ‘Rownd a Rownd’ ar S4C. Cyhoeddodd ddwy nofel Cam wrth Gam a Traed Oer ac mae hi wedi sgriptio ar gyfer sawl cyfres deledu gan gynnwys Pengelli a Tipyn o Stad. Mae hi wedi ymweld â’r Wladfa dair gwaith ac fe gyhoeddodd y gyfrol Llythyrau’r Wladfa 1865–1945 (Gwasg Carreg Gwalch) y llynedd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eStori’r ymfudo i sefydlu Gwladfa Gymreig ym Mhatagonia yw un o’r straeon mwyaf arwrol a difyr yn ein hanes fel Cymry – ond er bod y mwyafrif ohonom yn gwybod am fodolaeth y Wladfa, faint sy’n gwybod mewn gwirionedd am fanylion yr hanes? Pam oedd angen ymfudo o Gymru yn y lle cyntaf? Pwy gafodd y syniad? Ble mae Patagonia, a sut le oedd yn disgwyl y fintai ar ôl cyrraedd? A faint o Gymraeg sydd yno heddiw? Mae Stori’r Wladfa , rhan o’r gyfres Tipyn o’n Hanes, yn ymgais i ateb rhai o’r cwestiynau hyn. Bu gan yr awdur Mari Emlyn ddiddordeb mawr yn hanes y Wladfa a’i phobl ers blynyddoedd, ac mae’r llyfr hwn yn gyfrwng i danio diddordeb cynulleidfa newydd. Mewn ffordd gryno a chlir, mae’r awdur yn cynnig braslun o hanes Patagonia – o’r Mimosa a Michael D. Jones i’r cynllun dysgu Cymraeg, y tai te, at Gruff Rhys a’r ffilm Separado! yn y cyfnod mwy diweddar. Mae’n gyfrol hynod hawdd i’w darllen, a’i diwyg yn atyniadol, diolch i’r llu o luniau lliwgar a difyr ar bob tudalen. Ceir yma hen ffotograffau a mapiau, lluniau golygfeydd a chymeriadau, a hyd yn oed un darlun gan Kyffin Williams. Mae’r testun wedi’i rannu i benawdau clir sy’n hawdd cyfeirio atynt, er enghraifft ‘Hunllef y Dyddiau Cynnar’, ‘Enwau’r Wladfa’ ac ‘Addysg a Diwylliant’. Enwau’r dynion sydd amlycaf mewn llyfrau hanes am sefydlu'r Wladfa fel rheol, megis Lewis Jones ac Edwin Cynrig Roberts, a’u hanturiaethau cyffrous. Y dynion fu'n ceisio trin y tir diffaith, ond y menywod oedd yn cynnal y teulu a'r cartref, a hynny dan amgylchiadau anodd iawn. Heb eu cryfder a'u penderfyniad, mae’n sicr na fyddai sefydlu’r Wladfa wedi bod yn llwyddiant, ac mae’n braf gweld sylw haeddiannol i'r merched yn y gyfrol hon. Dyma lyfr sy’n gyflwyniad ardderchog i stori arloesol y Wladfa, i bobl o bob oed. Y bwriad yw tanio diddordeb y darllenydd er mwyn ei sbarduno i ddarllen ymhellach, ac fe geir rhestr ddarllen ddefnyddiol ar ddiwedd y gyfrol. “Un o fethiannau godidocaf cenedl y Cymry” yw disgrifiad R. Bryn Williams o’r Wladfa, yn y dyfyniad ar gefn y llyfr, ond bron i ganrif a hanner wedi'r glaniad, mae disgynyddion y Gwladfawyr cyntaf yn dal i ymfalchïo ym menter a dygnwch eu cyndeidiau.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820850975094,"sku":"9781848512849","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848512849.jpg?v=1790361276","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/tipyn-o-n-hanes-stori-r-wladfa-9781848512849","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}