{"product_id":"tipiadau-9781911584179","title":"Tipiadau","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma gyfrol gyntaf o gerddi gan Llion Pryderi Roberts, cyfrol sydd yn ei hanfod yn delio gydag amser a'r cof. Mae'r cerddi i gyd yn ymddangos o fewn strwythur 24 awr, a chyflwynir 3 cerdd ar gyfer pob awr, cyfanswm o 72 o gerddi.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTipiadau is Llion Pryderi Roberts's first volume of poems, and in essence deals with time and memory. All the 72 poems appear within the structure of 24 hours, with 3 poems presented for each hour.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781911584179\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781911584179\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTipiadau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRoberts, Llion Pryderi\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.50\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.50\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-07-17\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau Barddas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e124 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e138 × 215 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eO Fôn y daw Llion Pryderi Roberts yn wreiddiol ond mae'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Mae'n ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Enillodd Cadair Eisteddfod Môn am yr eildro yn 2016 ac mae'n aelod o dîm Talwrn Aberhenfelen. Efo oedd Bardd y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn lle bu'n ymateb i ddetholiad o ddwsin o weithiau celf yn Arddangosfa Agored y Brifwyl. Tipiadau yw'r casgliad cyntaf o gerddi iddo ei gyhoeddi.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYn ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Tipiadau , mae Llion Pryderi Roberts yn mynd â ni ar daith drwy bedair awr ar hugain farddonol. Cawn dair cerdd yr awr ganddo wedi eu trefnu'n dwt a chronolegol gelfydd – yn union fel petai curiad y cloc yn ein tywys yn anochel tua’r hanner nos. Mae Llion yn llwyddo i lenwi’r oriau hynny gyda cherddi llawn myfyrdodau am blentyndod, profiadau fel rhiant a gŵr, hiraeth a chofio, a natur y cof ei hun. Yn wir, o fewn caethiwed tipiadau amser, mae’n llwyddo i ddod o hyd i’r rhyddid hwnnw o fewn amser y soniodd T. S. Eliot amdano yn Four Quartets . Dyma gyfrol y gellir ei darllen ar ei hyd heb ei rhoi i'r neilltu, neu fedrwch oedi dros gerdd am sbel i fyfyrio gyda’r bardd. Dychwelais at y cerddi droeon wedyn, gan bori yma a thraw a chael hyd i fwy a mwy o’u cyfoeth. Cefais hefyd flas arbennig ar awen chwareus, ddychanol y bardd megis yn y gerdd 'Anarchwyr'. Awen, crefft a dawn fyfyriol a gewch yn y gyfrol hon gan fardd sy’n chwilio am y cyfoeth sy’n bodoli rhwng tipiadau rheolaidd a digyfaddawd amser.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821131305334,"sku":"9781911584179","price":7.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781911584179_1fa0bef0-5ecd-4e7f-8b5a-205c734208d1.jpg?v=1790364581","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/tipiadau-9781911584179","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}