{"product_id":"teigr-yn-y-gegin-9781848517226","title":"Teigr yn y Gegin","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol gyntaf o gerddi i blant gan y bardd a'r awdur talentog, Hywel Griffiths. Ceir yma gerddi hwyliog a lliwgar am gymeriadau difyr fel Gwrach Cors Fachno a Hen Fodryb Lili, cerddi am brofiadau cyfarwydd a cherddi sy'n cael hwyl a sbri wrth chwarae ar eiriau.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHis first volume of poems for children by the talented poet, Hywel Griffiths. The collection comprises lively poems about such entertaining characters as the Witch of Cors Fochno and Great-aunt Lili, poems about familiar experiences and poems full of fun whilst playing with words.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848517226\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848517226\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTeigr yn y Gegin\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGriffiths, Hywel\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2013-07-29\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBreckon, Brett\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e32 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e132 × 198 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCafodd Hywel Griffiths ei fagu ger pentref Llangynog Sir Gaerfyrddin a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llangynog ac Ysgol Gyfun Bro Myrddin lle dysgodd y cynganeddion yng nghwmni Eurig Salisbury. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth mewn Daearyddiaeth a Mathemateg ac mae’n darlithio yno drwy’r Gymraeg yn Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Cyrhaeddodd ei gyfrol, Banerog (Y Lolfa, 2009), Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2010. Ef yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma gasgliad o gerddi newydd i blant Cymru gan y Prifardd Hywel Griffiths. Ydyn, maen nhw’n sbwci ac yn swynol ac yn rhai bach sydyn mae modd eu darllen yn yr ysgol neu cyn mynd i’r gwely – os dach chi’n ddigon dewr! Yn y casgliad yma, mae sôn am wrachod dychrynllyd, tywydd garw’r gaeaf a llefydd llawn hanes. Cawn yma hefyd gipolwg ar lefydd arbennig yng Nghymru yn ogystal â rhai o’i phobl, ac mae hyn yn sicr o ennyn diddordeb. Yn hiraethus ac yn hapus ar adegau, mae lleoedd fel Ponty, Yr Ystog, Ystagbwll, Cors Fochno a hyd yn oed y Llyfrgell Genedlaethol yn dod yn bynciau i gerddi newydd sbon, ac fe ddigwydd hyn drwy edrych ar eu hanes a’r hud sydd iddynt yn aml iawn. Yna, ar yr un gwynt, clywn sôn am Fodlen y Gath a’i sawl cymeriad, ac mae yma felly amrywiaeth ddi-ri o destunau. 'Adroddwch yr enwau A blaswch lythrennau. Y gwirion yw’r gorau Dros Gymru i gyd!’ A beth gebyst yw ‘sbwbio’ ar ddiwedd y dydd? Mae hwn yn benbleth i’r darllenydd yn ogystal â’r bardd! Mae’r rhain yn gerddi bendigedig i blant Cymru er mwyn iddyn nhw ddod i adwaen geiriau ac enwau lleoedd newydd. Mae'r cerddi hefyd yn sbarduno awydd am wybod mwy am yr hyn sydd y tu ôl i bob cerdd. Dyma gyfrol y dylid ei chael ar silff yn y dosbarth a'r ystafell wely.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820869685622,"sku":"9781848517226","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848517226.jpg?v=1790361541","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/teigr-yn-y-gegin-9781848517226","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}