{"product_id":"taith-rhyw-gymro-9781785620171","title":"Taith Rhyw Gymro","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eHunangofiant yr academydd a'r gwleidydd Tedi Millward, arbenigwr ar lenyddiaeth Gymraeg Oes Victoria a ffigwr allweddol yn hanes ffurfiannol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Rhagair gan Jamie Bevan.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe autobiography of Welsh academic and politician Tedi Millward, a specialist on Welsh Victorian literature and a key figure in the formation of the Welsh Language Society. Preface by Jamie Bevan.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781785620171\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781785620171\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTaith Rhyw Gymro\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMillward, E. G.\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-12-14\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e118 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e168 × 197 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eGaned E.G. Millward yn 1930 yng Nghaerdydd ac mae'n byw bellach ym Mhenrhyn-coch ger Aberystwyth. Mae'n ysgolhaig a beirniad llenyddol adnabyddus. Aeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, a bu'n dal swyddi academaidd ym Mangor a'r Barri a'i benodi wedyn yn ddarlithydd yn y Brifysgol yng Ngholegau Abertawe ac Aberystwyth. Y 19eg ganrif oedd prif faes ei ddiddordeb academaidd. Bu'n gynghorydd bro ac yn gadeirydd Cynghorau Bro a Thref Cymru. Bu'n weithgar dros Blaid Cymru – gan sefyll dros y blaid yn sir Aberteifi yn etholiad cyffredinol 1966 ac yn sir Drefaldwyn yn 1970 ond ni chafodd ei hethol. Yn 1966, fe'i etholwyd yn Is-lywydd y Blaid ond synnodd lawer pan ildiodd y rôl honno yn 1968. Wedi hynny ef oedd llefarydd y blaid ar bolisi dŵr ac roedd o blaid gweithredu uniongyrchol di-drais yn erbyn adeiladu cronfeydd dŵr newydd. Yn 1976 fe'i henllibiwyd gan William Hamilton a honnodd ei fod ynghlwm wrth weithgareddau terfysgol pan oedd yn tiwtora'r Tywysog Charles. Derbyniodd £1000 mewn setliad yn yr achos hwnnw. Cefnogodd ymgyrch Gwynfor Evans ar gyfer sefydlu sianel deledu i Gymru yn ystod yr 1980au.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma atgofion un o gewri tawel ein hiaith a'n diwylliant, gŵr a fu'n rhan ffurfiannol o rai o sefydliadau a mudiadau pwysicaf y Gymru gyfoes. Mae rhestr cydnabod Tedi Millward yn cynnwys D. J. Williams, Gwynfor Evans, Waldo Williams, Siân Phillips a Saunders Lewis, i enwi dim ond rhai. Tedi biau'r clod am fathu enw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'i sefydlu ynghyd â John Davies, Bwlch-llan. Bu hefyd yn is-lywydd Plaid Cymru ac yn ymgeisydd dros y blaid. Yn arbenigwr blaenllaw ar lenyddiaeth Gymraeg Oes Victoria, bu'n ddarlithydd a darllenydd yn Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan ddylanwadu ar genedlaethau o fyfyrwyr. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys darnau o sgwrs rhwng Tedi Millward a Jamie Bevan, cadeirydd presennol Cymdeithas yr Iaith.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820093673846,"sku":"9781785620171","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781785620171.jpg?v=1790354420","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/taith-rhyw-gymro-9781785620171","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}