{"product_id":"taith-i-rufain-9781784230791","title":"Taith i Rufain","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePumed llyfr taith Roger Boore, y teithiwr diddan a deallus, diwylliedig a gwybodus yn cynnwys y gwead gogleisiol arferol o'r presennol a'r dyfodol. Y tro hwn, cawn grwydro Rhufain yn ei gwmni ef a'i wraig Anne.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA fifth travel book by cultured and intelligent traveller Roger Boore. This time we join him and his wife Anne on an entertaining and well-informed tour of Rome.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784230791\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784230791\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTaith i Rufain\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBoore, Roger\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2017-09-14\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDref Wen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e124 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Taith, Twristiaeth, Teithlyfrau (yn Gymraeg) | EN: Travel, Tourism, Guide Books (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae’n amlwg bod gan Roger Boore ddealltwriaeth eang a chynhwysfawr o hanes Rhufain, yn enwedig yn y cyfnodau cynnar. Wrth iddo grwydro strydoedd Rhufain mae’n adrodd hanes ymerawdwyr a phabyddion, a chymaint o adeiladau, gwaith celf a cherfluniau’r ddinas. Mae’r darn am hanes uno’r wlad yn arbennig o ddiddorol, yn enwedig rôl teyrnas Sardinia yn y 19eg ganrif a sut y tynnwyd Fenis a Thaleithiau’r Pab i mewn i’r wlad newydd. Mae’r stori am ddwy long ryfel Brydeinig yn gwylio harbwr Marsala yn ddifyr – yno yn unswydd i ofalu am eiddo cwmni o Brydain oedd yn allforio’r gwin melys i Lundain. Mae’r awdur yn amlwg yn dwlu ar hanes cynnar Rhufain, gan roi i ni fanylion arweinwyr yr ymerodraeth megis Nero, Vespasianus a Vitellius, a thynged erchyll cymaint ohonynt – fel Galba a gollodd ei ben ar ôl rheoli am 207 o ddyddiau yn unig. Roedd ei elyn Otho yn gyfrwys! Gan neidio'n sydyn o'r bedwaredd ganrif, y mae Boore yn ein tynnu’n ôl i’r presennol ac fe gawn rannu hufen iâ gydag e a’i wraig a chael stori fach fywiog – fel hanes y cwpwl cefnog o Awstralia y bu iddyn nhw eu cyfarfod ger y Grisiau Sbaenaidd. Mae stori ymweliad yr awdur a’i wraig yn hanesion bachog ac mi fydden i wedi hoffi darllen mwy ohonynt, ac efallai cael mwy o ddarlun o’r ddinas trwy eu llygaid hwy. Y mae manylder yr hanes cynnar yn y llyfr ychydig yn rhy fanwl ar adegau, ond wedyn mae’r darllenydd yn cael clywed o ble daw’r ymadrodd “canu’r crwth tra bod Rhufain yn llosgi”, ac mae storïau’r baddondai a beth fyddai yn digwydd mewn cyfleusterau cyhoeddus yn lliwgar iawn. Un o’r darnau eraill oedd yn fyw iawn oedd hanes y traciau rasio a sioeau’r bwystfilod a gludwyd i Rufain er mwyn eu harddangos ac yna eu hela a’u lladd yn gyhoeddus. A’r gladiatoriaid hynny rydym yn eu cysylltu â’r Rhufain hynafol – mae eu hanes yn gaethion yn cael eu prynu am eu nerth corfforol yn tanlinellu creulondeb eithriadol y cyfnod. Mae yma lawer iawn o hanes a chronoleg gynhwysfawr o gyfnod cynnar sy’n ddiarth i gynifer ohonom ac mae’r awdur yn amlwg wrth ei fodd gyda’r oes, a hefyd wrth ei fodd yn rhannu’r wybodaeth gyda ni. Yn bersonol mi hoffwn weld hanes mwy diweddar y wlad yn cael yr un driniaeth fanwl ond mae’n bosib iawn bod hynny ar y gweill mewn cyfrol arall – cawn weld.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819632431478,"sku":"9781784230791","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784230791_923a12ee-5629-4fd9-8a9f-b40a6b445819.jpg?v=1790353708","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/taith-i-rufain-9781784230791","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}