{"product_id":"tair-rheol-anhrefn-enillydd-gwobr-goffa-daniel-owen-2011-9781847714039","title":"Tair Rheol Anhrefn - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2011","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRheol 1: Allwch chi ddim ennill y gêm. Rheol 2: Yr unig ganlyniad posib fydd colli'r gêm. Rheol 3: Allwch chi byth ddianc rhag y gêm. Ydych chi'n ddigon dewr i chwarae? Nofel arobryn Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro, 2011.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRule 1: You cannot win the game. Rule 2: The only possible result is to lose the game. Rule 3: You will never be able to escape from the game. Are you brave enough to play? This novel was awarded the Daniel Owen Memorial Prize at the 2011 National Eisteddfod.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847714039\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847714039\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTair Rheol Anhrefn - Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2011\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDavies, Daniel\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2019-05-29\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e272 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 × 195 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (yn Gymraeg) | EN: Eisteddfod Compositions and Programmes (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Arobryn (y Fedal etc) (yn Gymraeg) | EN: Prize-winning Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel draddodiadol glasurol yw hon, ond mewn gwisg gwbl gyfoes. Yn ôl cyfaddefiad yr awdur ei hun, ei hoff storïau antur yw clasuron fel nofel John Buchan, The Thirty-nine Steps , a ffilmiau fel clasur Hitchcock, North by Northwest . Yr hyn sy’n gwneud Tair Rheol Anhrefn yn wahanol yw’r ffaith mai ei chraidd yw masnacheiddiwch a phrynoliaeth. Mae hi’n ymwneud yn uniongyrchol â’r farchnad defnyddwyr sy’n rheoli pob agwedd o’n bywyd. Yn syml, mae dau wyddonydd wedi darganfod dyfais a allai weddnewid y byd teledu, sef crisial hylifol sy’n creu lluniau cliriach na hyd yn oed y rhai a geir ar sgriniau plasma. Daw hyn i glustiau cwmnïau a allent gael eu heffeithio’n andwyol. Y bwriad felly yw canfod y fformiwla. Y neges yn syml yw: rheolwch ein harferion neu’n dull o wylio ac fe reolwch y byd. Yma, nid y byd mawr y tu allan yn unig gaiff ei fygwth gan gyfalafiaeth. Mae’n bygwth hefyd y Brifysgol lle mae’r ddau wyddonydd yn gweithio. Strwythur y plot yw taith ar hyd llwybr arfordirol sir Benfro gan un o’r partneriaid i chwilio am y fformiwla a guddiwyd gan y llall. Mae yna gliwiau cyfrwys i’w dilyn. Cyflwynir ni i gymeriadau rhyfedd iawn. A daw’n glir yn fuan iawn nad yw'r un ohonynt, mewn gwirionedd, yr hyn a ymddangosant. Cawn elfennau o’r CIA, MI6 a hyd yn oed Mossad, sef asiantaeth gudd Israel yn eu plith. Yn ffrâm i’r cyfan mae’r daith. Honno sy’n cynnal ac yn gyrru’r stori yn ei blaen. Ac mae i’r stori fwy o droeon a throellau nag sydd i’r llwybr arfordirol ei hun. Mae hi’n symud mor gyflym fel bod prin amser i dynnu anadl. Eto i gyd, er gwaethaf holl gymhlethdod y plot mae’r rysáit yn un gwbl syml: stori dda, cymeriadau cig a gwaed, dyfeisgarwch ac, yn bwysicach na dim, pinsied helaeth o hiwmor. Dengys yr awdur wybodaeth helaeth o faterion y tu allan i anghenion y plot ond ni wna unwaith syrthio i’r fagl o fod yn orglyfar. Dihangdod yw’r gair addas, mae’n debyg. Ffuglen, yng ngwir ystyr y gair. Dyma’r nofel ddelfrydol ar gyfer ffoi o’r byd go iawn. Ond tybed? Onid nofel am y byd go iawn ydi hi? Ynddi mae llywodraethau’n llawforynion i’r cwmnïau masnachol anferth. A phan gofiwch mai Rupert Murdoch yw’r person mwyaf pwerus yn y byd, a yw’r syniad yn un mor anodd â hynny i’w dderbyn?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820826399094,"sku":"9781847714039","price":8.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847714039.jpg?v=1790361011","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/tair-rheol-anhrefn-enillydd-gwobr-goffa-daniel-owen-2011-9781847714039","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}