{"product_id":"tafod-y-ddraig-the-dragon-s-tongue-9781999597368","title":"Tafod y Ddraig \/ The Dragon's Tongue","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eStori rhannol ddwyieithog yw Tafod y Ddraig \/ The Dragon's Tongue am fachgen sy'n gorchfygu'r bwlis wrth ganfod ei lais a'i iaith ei hun mewn coedwig gyfrin.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eInspired by his Welsh heritage, the boy in Tafod y Ddraig \/ The Dragon's Tongue shakes off the shackles of bullying to find his own voice and his own language within a mystical forest. A charming, partly bilingual story.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781999597368\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781999597368\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eTafod y Ddraig \/ The Dragon's Tongue\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eChurch, Mike\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£3.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£3.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2019-07-19\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePetra Publishing\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eOwen, Sion Tomos\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e36 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh; English\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRydan ni’n byw mewn gwlad ddwyieithog, ac mae yna deuluoedd a chymunedau yn bodoli lle mae’r ddwy iaith yn gymysg. Ond tydan ni ddim bob tro yn gallu cyfleu’r cymysgwch naturiol yma trwy’n diwylliant. Yn aml, mae rhywun yn gwyro tuag at un iaith yn benodol i rannu ei stori, sy’n gwbwl iawn, wrth gwrs. Ond pan mae ’na gyfle i adlewyrchu hyn, mae’n bosib i ryw hud a lledrith ddigwydd. Dyna gewch chi yn y llyfr hwn, sef nodyn i’n hatgoffa nad oes rhaid dewis rhwng y ddwy iaith. Mae’n wir mai’r Gymraeg sy’n colli ei lle ar dafodau pan mae dewis yn cael ei wneud fel rheol. Ond mae Mike Church a Siôn Tomos Owen, trwy gyfrwng y stori hon, yn ceisio rhoi hyder i'r rheini sy’n dewis peidio defnyddio’r Gymraeg i fynd yn ôl ati gan ei bod hi’n rhan o pwy ydan ni fel cenedl. Wedi’r cyfan, mae hon yn iaith sydd â chryfder a dewrder Draig ynddi. Mae hi’n stori syml ond mae yna ddyfnder yma sy’n golygu y gall hi blesio ystod o oedran. Mae yma antur, hud, emosiwn a’r awgrym ei bod hi’n stori wir! Gall y plant hynny sy’n ddigon abl i'w darllen drostyn nhw eu hunain ei mwynhau, a chael rhywbeth i gnoi cil arno wedi iddyn nhw orffen. Mae’n annog trafodaeth am hunaniaeth y byddai o werth i unrhyw blentyn ei chael gyda rhiant. Stori wedi ei sgwennu yn Saesneg ydi hi ond gyda chymalau allweddol yn y Gymraeg. Mae’r sgwennu yn ddigon ystwyth a chlyfar fel nad oes rhwystr i unrhyw un di-Gymraeg. Mae popeth sy’n cael ei ddweud yn Gymraeg i’w ganfod yn Saesneg yn rhywle rhwng y cloriau. Mae’n amlwg fod y stori yn agos at galon yr awdur hefyd wrth i ni gael cip emosiynol ar daith Dewi i ddarganfod ei lais – sylwer mai darganfod llais sydd yn bwysig yma, nid darganfod iaith. Mae darluniau Siôn Tomos Owen yn hynod o fyw a deinamig. Mae ’na symud yma sy’n rhoi rhyw finiogrwydd i’r cyfan gan awgrymu nad stori i blant yn unig yw hon. Dylai’r dyluniad apelio at y rheini nad ydynt yn troi at lyfrau yn aml. Dwi’n credu fod Siôn a Mike wedi llwyddo i blethu’r dychymyg a’r gwirionedd sydd yn y stori hon yn glyfar iawn. Darllenwch hi a thrafodwch hi.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821419860342,"sku":"9781999597368","price":3.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781999597368_e1e2639f-3ece-4fcc-a28d-5c51c5a48850.jpg?v=1790367743","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/tafod-y-ddraig-the-dragon-s-tongue-9781999597368","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}