{"product_id":"sw-sara-mai-9781784618629","title":"Sw Sara Mai","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCroeso i fyd Sara Mai, lle mae glanhau pw eliffant yn apelio lot mwy na mynd i'r ysgol, a ble mae'n llawer haws deall ymddygiad arth o Dde America na merched eraill Blwyddyn 5. Bydd yn barod i chwerthin a chrio wrth i Sara Mai rannu hanes ei bywyd gyda ni; o'r jiraff sydd ofn uchder, i eiriau sbeitlyd amser chwarae. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2021.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eWelcome to Sara Mai's world, where cleaning elephant droppings appeals much more than going to school, and where it's far easier to deal with the behaviour of a South American bear than her peers in Year 5. Be ready to laugh and cry with Sara Mai as she shares the ups and downs of her life with you. Tir na n-Og Award winner 2021.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784618629\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784618629\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSw Sara Mai\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWiliam, Casia\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-06-17\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMillward, Gwen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e144 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e127 × 198 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eUn o Ben Llŷn yw Casia Wiliam. Wedi degawd yng Nghaerdydd mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon gyda'i gŵr Tom a'u meibion, Caio a Deri. Mae Casia'n fardd ac yn awdur sy'n ysgrifennu ar gyfer plant ac oedolion. Pan nad yw'n ysgrifennu mae'n gweithio i elusen ac yn mwynhau crwydro, sgwrsio a chwarae gyda'i meibion.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMi wnes i fwynhau darllen y nofel hon yn fawr iawn. Mae hi’n stori hyfryd am sut mae merch o’r ysgol gynradd – Sara Mai – yn ddibynnol ar y sw a’r anifeiliaid i’w chadw yn hapus, ac i gynnal y teulu o ran bywoliaeth. Yna, mae dyn pwysig iawn a chanddo lawer o arian yn symud i fyw i’r dref, ac yn bygwth cau’r lle. Felly mae’n rhaid i Sara Mai, a’i ffrind newydd, Oli, geisio meddwl am ffyrdd o newid meddwl y bobol bwysig, a chadw’r sw yn agored. Heb ddatgelu gormod, prif thema’r nofel yw’r ffyrdd y mae Sara Mai, ei theulu, ac Oli, gyda’i gilydd, yn ceisio darbwyllo’r bobol bwysig ar y cyngor fod y sw yn cynnig cartref gwell i’w hanifeiliaid na’r bywyd fyddai ganddyn nhw petaen nhw’n cael eu gwerthu ... neu eu dinistrio. Fy hoff beth am y llyfr yma oedd rhan yr anifeiliaid ynddo, a sut roeddent yn cadw cwmni i Sara Mai wedi iddi ddod adref o’r ysgol, lle mae merch gyfoethog yn ei bwlio oherwydd lliw ei chroen. Dwi wrth fy modd efo diweddglo’r stori hefyd – ond bydd rhaid i chi ei darllen er mwyn gweld beth sy’n digwydd! Fy hoff gymeriad i yn y stori oedd Oli, bachgen o’r un oed â Sara Mai, oherwydd ei fod yn sownio’n fachgen clên iawn, ac yn poeni dim am beth roedd unrhyw un arall yn meddwl ohono. Yn ogystal â hyn, nid yw Oli’n troi ei gefn ar Sara Mai pan mae plant eraill y dosbarth yn bod yn gas â hi, ac mae o’n fachen cyffredin, di-ffws sy’n hoff iawn o arlunio anifeiliaid y sw. Nid oeddwn i’n hoffi cymeriad Leila o gwbl. Roedd hi’n ferch gyfoethog a chreulon, ac yn rhoi amser caled iawn i Sara Mai yn yr ysgol ohewydd lliw ei chroen. Ar ben popeth, mae’n dod i’r amlwg tuag at ddiwedd y stori fod gan dad Leila ran yn yr ymgais i darfu ar fywydau Sara a’i theulu. Darllenwch y nofel er mwyn gweld sut mae’n gwneud hyn, a gweld a ddaw tro ar fyd ac a fydd Leila a’i thad yn newid? Dwi’n credu bod y llyfr yma’n addas i blant o tua’r un oedran â Sara Mai, sef Blwyddyn 5 yn yr ysgol gynradd, neu efallai ychydig yn hŷn. Ydi’r stori’n haeddu bawd i fyny neu fawd i lawr? I fyny, yn bendant!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820056809846,"sku":"9781784618629","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784618629_ec96183f-8b3d-47fe-953c-7b1850a2e1eb.jpg?v=1790354317","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/sw-sara-mai-9781784618629","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}