{"product_id":"straeon-nos-da-sali-mali-9781848519893","title":"Straeon Nos Da Sali Mali","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol hardd fydd yn anrheg arbennig i unrhyw blentyn bach neu deulu. Mae 12 o awduron enwog a phoblogaidd Cymru yn creu straeon i'w darllen i blant am anturiaethau Sali Mali, Jac Do a'u ffrindiau. Llyfr i ddathlu pen-blwydd Sali Mali yn 50. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys clawr realiti estynedig.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe perfect gift for any child or family. 12 popular Welsh language authors come together to tell stories and adventures of Sali Mali, Jac Do and their friends. A book celebrating Sali Mali's 50th birthday. This book also includes an augmented reality cover.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781848519893\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781848519893\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eStraeon Nos Da Sali Mali\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAmrywiol\/Various\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2019-07-10\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Atebol\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e64 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e173 × 247 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAwduron: Eigra Lewis Roberts, Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones, Gruffudd Owen, Heledd Cynwal, Elen Pencwm, Bethan Gwanas, Rhys Ifans, Elis James, Aneirin Karadog, Tudur Owen, Ifana Savill\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae’r rhestr o awduron sydd wedi cyfrannu at y gyfrol hon yn amrywiol iawn, o Mererid Hopwood i Tudur Owen, o Eigra Lewis Roberts i Rhys Ifans, a llawer mwy. Ac mae gweld yr enwau cyfarwydd ar y clawr yn denu oedolion at y gyfrol yn sicr, gan wneud hwn yn anrheg berffaith i blant a'u teuluoedd. A beth am ddechrau gyda’r clawr? Mae’n wahanol i’r arfer am ei fod yn glawr realiti estynedig ( augmented reality ), sy’n golygu bod golygfa fach wedi ei hanimeiddio yn ymddangos pan fyddwch chi’n sganio’r clawr ar eich ffôn neu dabled trwy ap o’r enw Zappar – am ddechrau gwych i blant bach, cael gweld Sali Mali a Jac Do, cymeriadau hoffus a chyfarwydd, cyn agor y llyfr a darllen yr un gair, hyd yn oed! Ac er nad oes modd rhyngweithio â nhw, mae’n ychwanegiad bach difyr a deniadol i’r gyfrol. Rhwng y ddau glawr ceir amrywiaeth o straeon sydd yn wahanol yn eu harddull i’r llyfrau Sali Mali gwreiddiol a thraddodiadol, gan mai straeon i’w darllen i blant bach ydi’r rhain, yn hytrach na llyfrau i blant ddechrau dysgu darllen ar eu pen eu hunain. Serch hynny, mae hanfodion y cymeriadau rydyn ni wedi dod i’w hadnabod a’u caru’r un peth: Jac y Jwc a’i droeon trwstan ond â chalon fawr, Sali Mali drefnus a charedig, y Pry Bach Tew drygionus, ac mae’r criw i gyd yn ymddangos yn eu tro. Wrth gwrs, gall plant hŷn a darllenwyr iau hyderus ddarllen y rhain, ond teimlaf efallai fod rhai o'r straeon yn rhy syml neu'n blentynnaidd iddyn nhw, o bosib. Fel sy’n nodweddiadol o straeon i blant bach, mae neges syml i bob stori unigol wrth iddyn nhw drafod themâu megis cyfeillgarwch, caredigrwydd, dewrder a chydweithio. Roeddwn i’n falch iawn bod hiwmor yn elfen amlwg yn y rhan fwyaf o’r straeon hefyd, a chredaf y bydd plant yn mwynhau’r sefyllfaoedd sy’n codi ac yn chwerthin yn uchel ar rai o’r straeon. Fy hoff straeon i oedd 'Swigod a Sgorio' gan Gruffudd Owen, 'Y Picnic' gan Elen Pencwm, 'Triciau’r Pry Bach Tew' gan Bethan Gwanas ac 'Anrheg Jac y Jwc' gan Aneirin Karadog. Ond mae yma ddigon o amrywiaeth gan lu o awduron gwych, a bydd gan bob aelod o’r teulu ei ffefryn, yn bendant!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820881449334,"sku":"9781848519893","price":12.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781848519893_3a189fa1-2610-41e2-bab2-8013f15ad303.jpg?v=1790361677","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/straeon-nos-da-sali-mali-9781848519893","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}