{"product_id":"stori-sydyn-pobl-fel-ni-9781784618377","title":"Stori Sydyn: Pobl Fel Ni","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae digwyddiadau'r nofel yn para dros gyfnod o tua 24 awr mewn dinas yng Nghymru yn y dyfodol agos. Mae'n dilyn Nathan a Sadia, sy'n gariadon, wrth iddyn nhw fynychu cyngerdd. Yn ystod y gyngerdd mae ffrwydriad ac mae'r ddau'n cael eu gwahanu. Mae agweddau a rhethreg hiliol wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar yn sgil sefyllfa economaidd fregus y wlad, a gwleidyddion asgell-dde.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe novel takes place over a period of 24 hours in a Welsh city in the near future, against a backdrop of racist rhetoric and attitudes, the presence of right-wing politics and the country's fragile economic situation. Lovers Math and Sadia attend a concert but are separated following an explosion at the event.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784618377\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784618377\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eStori Sydyn: Pobl Fel Ni\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLlwyd, Cynan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£1.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£1.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-04-20\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e96 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 195 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Cynan Llwyd yn dod o ardal Aberystwyth yn wreiddiol ond mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Tom , i'r arddegau, yn ddiweddar.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eSyniad da yw’r gyfres Stori Sydyn sy’n gwneud yn union beth mae’n ddweud ar y tun (fel yr hysbyseb Ronseal) – rhoi stori dda, sydyn i chi am bris rhesymol iawn. Mae Pobl Fel Ni yn llyfr amlbwrpas – hynny yw, mae’n addas i oedolion, pobl ifanc, dysgwyr, darllenwyr newydd neu unrhyw un sy’n brin o amser i ddarllen clamp o nofel fawr. Cychwynna’r nofel wrth i Nathan (bachgen gwyn) gyfarfod Sadia (merch Fwslemaidd) ar fws ac mae’r ddau’n cychwyn cyfeillgarwch sy’n prysur droi’n berthynas. Trafod llyfr roedd y ddau pan gawson nhw eu sgwrs gyntaf – felly heblaw am basio’r amser, mae llyfrau’n ddefnyddiol iawn am sawl rheswm! Er bod y ddau yn hapus iawn yng nghwmni ei gilydd, mae ’na broblem hiliaeth yng nghymuned Trelluest (yr enw Cymraeg ar Grangetown) ac mae eu perthynas yn codi aeliau ambell un. Yn sicr, nid yw tad Nathan, sy’n hiliwr rhonc, yn cytuno â dewisiadau ei fab. Oherwydd y tlodi a’r diweithdra, mae tensiynau mawr rhwng y ddwy gymuned a daw’r gymuned Fwslemaidd yn darged i gamdriniaeth hiliol a chaiff ei beio am ‘ddwyn ein jobs’. Roedd perthynas Nathan a’i dad treisgar yn ddiddorol iawn – er eu bod yn deulu, maen nhw’n gwbl wahanol, ac mae gan y mab gywilydd mawr o gredoau rhagfarnllyd ei dad. Yn dilyn ffrwydrad anferth mewn cyngerdd, caiff ein prif gymeriadau eu dal yng nghanol erchylltra hunllefus y noson. Roedd yr ofn, y panig a’r dryswch a ddisgrifiwyd yn fy atgoffa’n syth o’r ymosodiad terfysgol ym Manceinion. Ceir yma ddweud pwerus gan yr awdur wrth iddo sôn am y ffordd y mae trychinebau’n cael eu hadrodd bron fel adloniant gan y cyfryngau, ac wedyn yn cael eu hanghofio mor sydyn wrth iddyn nhw chwilio am y ‘stori fawr nesaf’: “Mae pob trasiedi’n troi’n hashnod. Ond yna daw’r hashnodau i ben a fydd neb yn cofio a fydd dim byd yn newid.” Er nad oes tystiolaeth i ddangos pwy sy’n gyfrifol am yr ymosodiad, mae ymateb rhai elfennau o gymuned Trelluest, a’r digwyddiadau ddaw yn sgil yr ymateb honno, yn frawychus a dweud y lleiaf. Er ei bod yn nofel fer, does gan hon ddim ofn taclo’r pynciau mawr – rydw i’n bendant yn ei hargymell. Croesawaf lyfr fel hwn sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion hollbwysig fel hiliaeth, rhagfarn a chasineb, a hynny mewn modd sy’n dangos mor berthnasol ydyn nhw i ni yng Nghymru hefyd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820048454006,"sku":"9781784618377","price":1.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784618377_f97a83b3-5138-4d8e-aa76-81603cfa3f09.jpg?v=1790354296","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/stori-sydyn-pobl-fel-ni-9781784618377","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}