{"product_id":"stori-sydyn-oswald-9781847718358","title":"Stori Sydyn: Oswald","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eUn o lyfrau byr cyfres Stori Sydyn 2014 yn adrodd hanes Oswald, cyn-newyddiadurwr a fu'n ysgrifennu teyrngedau i'r ymadawedig. Cafodd y sac o'i swydd wedi iddo lunio teyrnged i gariad ei fam – a hwnnw'n dal ar dir y byw! Mae Oswald yn parhau i fynychu angladdau ac yn nodi pob manylyn yn ei lyfr bach coch. Dyma stori fer yn llawn hiwmor cynnil gan awdur hynod brofiadol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA title in the short and fast-paced series Quick Reads. Oswald is a journalist who writes obituaries in newspapers. He is sacked from his job when he writes an obituary to his mothers boyfriend, who was still alive. He leads a lonely life and is obsessed with funerals. This story is about his attempt to free himself from his obsession.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781847718358\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781847718358\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eStori Sydyn: Oswald\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRoberts, Lleucu\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£1.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£1.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2014-01-30\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAnodd yw dychmygu byd heb hiwmor – a diolch am hynny. Mae chwerthin fel chwa o awyr iach yn y gwanwyn, a gall gwên godi calon. Rhaid cydnabod mai tipyn o gamp yw ceisio pwyso a mesur yr hyn sy’n peri i rywun wenu neu chwerthin. Gall gair, gweithred a sefyllfa esgor ar ddoniolwch, ond tasg amhosibl yw cofnodi cynhwysion digrifwch ar bapur ar ffurf rysáit. Edwino wnaeth y cyfleoedd i ddod ynghyd er mwyn clebran ac adrodd storïau yn ein cymunedau yn y blynyddoedd diweddar, a chiliodd y cymeriadau ffraeth o'n cymdeithas. Pleser, felly, oedd cwrdd ag Oswald Myrddin Jones yn un o gyfrolau Stori Sydyn 2014. Cafodd Lleucu Roberts afael ar nifer o elfennau digrifwch a llwyddodd i’w trafod yn ddeheuig, gan greu cymeriad credadwy. Amlygir ei chrefft o drin geiriau yn gyson a defnyddir cymhariaeth a dihareb yn gelfydd. Lluniodd olygfeydd cofiadwy a phortreadau cryno. Nid oes angen llawer o ddychymyg i weld Oswald yn y gegin yn blasu’r bwydydd o ben draw’r byd ond a ddaeth mewn gwirionedd o fwyty Indiaidd cyfagos. Mae ei ymateb i’r danteithion dieithr a’r sgwrs ag Amy yn cymell gwên. Cynildeb yr hiwmor yn aml yw’r allwedd i lwyddiant y gyfrol. Awgrymir natur ac ymddygiad Oswald gan gyfeiriadau digon di-nod ar un olwg ond cyfeiriadau sy’n portreadu’r cymeriad i’r dim. Meddyliaf yn arbennig am ei ymdrech i blygu ei gôt ar y trên, y gofal wrth fesur faint o siwgwr mae'n ei roi yn ei de, a’r ffaith ei fod yn ddyn un siwmper. Mae dawn Lleucu Roberts i sylwi ar y manion hyn yn fodd i’r darllenydd ddod i adnabod Oswald yn well. Plethwyd y digri a’r difri er mwyn trafod gwirioneddau am gyfrinachau ac am bethau pwysig bywyd, a chyflwyno ambell gyd-ddigwyddiad anesboniadwy. Crybwyllir bod gan Oswald wersi i’w dysgu. Hyderaf y daw cyfle eto i gwrdd â’r cymeriad o Abertawe ag inc yn ei waed. Gall Oswald brofi’n olynydd teilwng i gymeriadau cofiadwy a luniwyd gan awduron megis Harri Parri a Wil Sam.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820837146998,"sku":"9781847718358","price":1.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781847718358.jpg?v=1790361131","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/stori-sydyn-oswald-9781847718358","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}