{"product_id":"stori-sydyn-bryn-y-crogwr-9781784611149","title":"Stori Sydyn: Bryn y Crogwr","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTeitl yn y gyfres o gyfrolau byr a chyflym Stori Sydyn. Nofel arswyd am goediwr ( tree surgeon ) sy'n cael profiadau rhyfedd wrth drin hen dderwen sydd â hanes yn mynd 'nôl i wrthryfel Owain Glyndŵr.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA thriller about a tree surgeon who has strange experiences as he treats an old oak tree dating from the rebellion of Owain Glyndŵr. Another title in the short and fast-paced series Quick Reads.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784611149\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784611149\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eStori Sydyn: Bryn y Crogwr\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwanas, Bethan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£1.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£1.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-02-27\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e96 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Bethan Gwanas yn un o nofelwyr mwyaf poblogaidd Cymru ac yn wyneb cyfarwydd ar raglenni garddio S4C.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePan ddechreuais i ddarllen Bryn y Crogwr roeddwn i’n amau pa mor hawdd fyddai hi i ysgrifennu nofel fer a allai apelio at y rheini yn eu harddegau hŷn ac oedolion hefyd. Oni fyddai’r stori’n rhy arwynebol a syml i gynnal diddordeb? Ond erbyn diwedd yr ail dudalen, pan mae Cai yn cael cyfarwyddyd ar sut i ddringo coeden heb ganghennau trwy ddefnyddio rhaff – ‘Dychmyga mai dynes ydi hi’ – roedd fy amheuon wedi hen ddiflannu. Coedwigwr yw Cai. Wrth iddo geisio torri hen goeden dderwen ar dir ei fòs, Wil Camlan, mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd iddo. Mae yna gyfres o ddamweiniau, ac mae Cai yn gweld a theimlo pethau anarferol. Gyda chymorth y cyn-lyfrgellydd Dewi Jones mae’n mynd ati i ddarganfod mwy am Fryn y Crogwr ac am yr hyn ddigwyddodd yno ganrifoedd yn ôl. Mae rhywun yn benderfynol o ddial am gam wnaethpwyd yno yng nghyfnod Owain Glyndŵr, ac wrth i Cai a Dewi ddarganfod mwy mae’r stori’n troi yn wirioneddol frawychus. Mae ysbryd dig a dialgar yn meddiannu Cai, ac mae ei fryd ar frifo disgynyddion yr un a wnaeth gam ag ef. Er mai stori ysbryd yw’r nofel mae’r cymeriadau ynddi yn gwbl gredadwy, ac wedi eu darlunio’n grefftus iawn mewn ychydig frawddegau. Mae perthynas Cai a Mari, yn enwedig, yn realistig iawn; mae eu sgwrs a’u gweithredoedd yn llawn o’r pethau bach bob dydd sy’n gyffredin i bawb. Dyw iaith y nofel ddim wedi ei gorsymleiddio chwaith, a cheir ynddi ddigon o hiwmor a dywediadau bachog, lliwgar. Er fy amheuon cychwynnol, dwi’n meddwl y byddai ymestyn y stori yma i greu nofel hwy yn gwneud cam â hi; mae’n stori sydyn dda sy’n cwrdd ag anghenion y gyfres hon.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819839033718,"sku":"9781784611149","price":1.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784611149_4d60a790-5ac7-477d-b251-206062656a4d.jpg?v=1790353902","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/stori-sydyn-bryn-y-crogwr-9781784611149","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}