{"product_id":"stori-r-rhyfel-byd-cyntaf-9781849672054","title":"Stori'r Rhyfel Byd Cyntaf","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAddasiad Cymraeg Elin Meek o lyfr hanfodol ar gyfer dosbarthiadau Hanes disgyblion CA2. Edrychir ar achosion y Rhyfel Byd Cyntaf, y brwydrau mawr a'r trychinebau, a sut yr effeithiodd y rhyfel ar genhedloedd a phobloedd ar draws y byd, ac ychwanegir at y testun gan ddarluniau a ffotograffiaeth gwreiddiol, mapiau, llinellau amser a blychau ffeithiau.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eSpecially adapted into Welsh by Elin Meek for Key Stage 2 children (ages 7 to 11 years). It looks at the causes of World War 1, its great battles and catastrophes and how the war affected nations and people all over the world. Pages are brought to life through vivid illustrations and original photographs, as well as timelines, maps and fact boxes. Essential for History classes.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781849672054\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781849672054\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eStori'r Rhyfel Byd Cyntaf\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDowswell, Paul\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£3.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£3.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-02-06\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRily\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMeek, Elin\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e96 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e162 × 228 mm; depth 10 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Hanes - Cynradd (yn Gymraeg) | EN: History - Primary (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDweud yr hanes fesul blwyddyn mae’r gyfrol hon, gydag adran gychwynnol yn esbonio cefndir y gwrthdaro, ac adran glo yn trafod sgileffeithiau’r brwydro. Mae pob tudalen yn llawn gwybodaeth a ffeithiau, wedi’u trefnu mewn dull sy’n apelio yn hytrach nag yn blino rhywun. Mae yna luniau, mapiau, darluniau a phosteri di-rif, ac adrannau bychain yn cyfleu ffaith neu ddwy ychwanegol ar ymyl pob tudalen. Ceir digon i ddenu’r llygaid a’r diddordeb, ac ambell lun cofiadwy iawn nad wyf wedi eu gweld o’r blaen, fel y llun o’r menywod o Rwsia a wirfoddolodd i ymuno â'r brwydro, ac yn cael eu hyfforddi yn St. Petersburg. Oherwydd anferthedd y pwnc, dyw hi ddim, efallai, yn gyfrol i’w darllen ar un tro. Mae’r prif ddigwyddiadau i gyd yma a digon o gefndir yn rhoi cyd-destun iddyn nhw. Fe ddarllenwn am ddatblygiad gwahanol fathau o arfau a dulliau o ymladd, y tensiynau gwleidyddol, propaganda, effaith y rhyfel gartre a phrofiadau’r milwr cyffredin. Os ydych chi eisiau gwybodaeth bellach am bwnc neu ddigwyddiad, yna rhaid troi at ffynonellau eraill, ond fel arolwg o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ei gyfanrwydd mae’r gyfrol hon yn ardderchog. Gan mai cyfieithiad o lyfr Saesneg yw hwn does yna fawr o sylw i Gymru heblaw am frawddeg am Hedd Wyn a dau gyfeiriad at Lloyd George. Ond mae’r esboniadau'n syml a darllenadwy ac mae’r llyfr yn llwyddo i gyfleu cymhlethdod a hylltra’r rhyfel, a hefyd sut yr arweiniodd y tensiynau hynny a oedd yn bodoli wedi’r cadoediad a chytundeb Versailles yn anorfod at yr Ail Ryfel Byd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820896358774,"sku":"9781849672054","price":3.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781849672054_f3cc38fb-28a4-4de5-87b3-0bbbc1592af3.jpg?v=1790361891","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/stori-r-rhyfel-byd-cyntaf-9781849672054","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}