{"product_id":"stori-r-ail-ryfel-byd-9781849672061","title":"Stori'r Ail Ryfel Byd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAddasiad Cymraeg Elin Meek o lyfr hanfodol ar gyfer dosbarthiadau hanes disgyblion CA2. Edrychir ar achosion yr Ail Ryfel Byd, ei frwydrau a'i drychinebau, a'r modd yr effeithiodd y rhyfel ar genhedloedd a phobloedd ar draws y byd, ac ychwanegir at y testun gan ddarluniau a photograffau gwreiddiol, mapiau, llinellau amser a blychau ffeithiau.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eSpecially adapted by Elin Meek for Key Stage 2 children (aged 7 to 11 yrs). An account of the Second World War which examines the causes of the war, its great battles and catastrophes and how the struggle affected nations and people all over the world. It also features vivid illustrations, original photographs, timelines, maps and fact boxes. Essential for all history classes.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781849672061\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781849672061\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eStori'r Ail Ryfel Byd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDowswell, Paul\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£3.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£3.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-02-06\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRily\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMeek, Elin\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e96 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e162 × 228 mm; depth 10 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Hanes - Cynradd (yn Gymraeg) | EN: History - Primary (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eTasg anodd iawn yw esbonio hanes yr Ail Ryfel Byd. Mae’n fwy cymhleth na’r Rhyfel Byd Cyntaf, rywsut, gyda chynifer o bobl yn ymladd mewn lleoliadau ar draws y byd, a hynny am sawl rheswm gwahanol. Fe laddwyd o leiaf 50 miliwn o bobl, yn filwyr a sifiliaid. Mae’r gyfrol yn dechrau drwy ein hatgoffa ni o’r hyn a ddigwyddodd wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf a chanlyniadau cytundeb heddwch Versaillles. Mae’n frawychus darllen am sut y gwnaeth tensiynau gwleidyddol ac economaidd y 1920au a’r 1930au arwain yn anorfod at ryfel arall. Mae’r llyfr yn rhoi trosolwg eang o’r Ail Ryfel Byd – y digwyddiadau, y prif gymeriadau, a’r cymhellion gwahanol. Adrannau byr sydd yna ond mae nhw’n gynhwysfawr iawn ac mae’r lluniau a'r ffotograffau sydd ar bob tudalen yn drawiadol, ac yn gymorth mawr wrth ddarllen. Mae’r llinell amser ar y diwedd yn ffordd dda o atgoffa’r darllenydd o berthynas y gwahanol frwydrau â’i gilydd. Daw cymhlethdod a chreulondeb yr Ail Ryfel Byd yn boenus o amlwg; dyma ryfel yr holocost, y bomiau atomig a Stalingrad. Dyma’r rhyfel pan roedd nifer o’r pwerau mawr yn ystyried y gelyn yn israddol, gan ddangos dim trugaredd tuag at sifiliaid wrth gipio tir. Mae’n debyg i Japan hyd yn oed ollwng llau wedi eu haentio a’r pla du ar rannau o China mewn ymgais i gynorthwyo’i hachos. Yn ddi-os, mae’r llyfr yn llwyddo i adrodd stori’r Ail Ryfel Byd. Yr hyn sy’n sobri dyn wrth ddarllen y tudalennau olaf yw sylweddoli sut mae canlyniadau’r rhyfel hwnnw'n dal i gael effaith heddiw, ac nad ydym wedi dysgu fawr ddim o'r profiadau enbyd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eEspecially adapted by Elin Meek for Key Stage 2 children (aged 7 to 11 yrs). An account of the Second World War which examines the causes of the war, its great battles and catastrophes and how the struggle affected nations and people all over the world. It also features vivid illustrations, original photographs, timelines, maps and fact boxes. Essential for ALL history classes.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820896457078,"sku":"9781849672061","price":3.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781849672061.jpg?v=1790361893","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/stori-r-ail-ryfel-byd-9781849672061","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}