{"product_id":"stori-dyfeisiau-9781849674638","title":"Stori Dyfeisiau","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae tîm ysgrifennu The Story of Space , The Story of Life a The Story of People yn cyflwyno'r llyfr cyntaf am ddyfeisiadau dynol ar gyfer plant ifanc, o ddyfeisio'r olwyn hyd at y we fyd eang! Addasiad Cymraeg gan Siân Lewis o The Story of Inventions gan Catherine Barr a Steve Williams.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe team behind The Story of Space, The Story of Life and The Story of People present a first book about human inventions for very young children, from the invention of the wheel through to the world wide web! A Welsh adaptation by Siân Lewis of The Story of Inventions by Catherine Barr and Steve Williams.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781849674638\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781849674638\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eStori Dyfeisiau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBarr, Catherine; Williams, Steve\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-02-04\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRily\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLewis, Siân\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHusband, Amy\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e40 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e251 × 283 mm; depth 13 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Gwyddoniaeth - Cyffredinol (yn Gymraeg) | EN: Science - General (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eO’r diwedd, dyma lyfr yn y Gymraeg i ateb y cwestiwn ‘O ble mae pobl yn dod?’ sy’n esbonio theori esblygiad. Mae taer angen llyfrau ffeithiol fel hyn i annog gwyddonwyr bach Cymraeg y dyfodol ac i feithrin meddyliau chwilfrydig, heb sôn am ehangu eu geirfa yn y Gymraeg. Mae pynciau digon cymhleth yn cael eu trafod yma, megis datblygiad bywyd o'r celloedd cyntaf ac esblygiad dyn, ond mae'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n ddealladwy i blant wrth iddynt, o bosibl, gael eu cyflwyno i’r cysyniadau hyn am y tro cyntaf. Sonnir am y tameidiau bychain a roes fywyd i’r byd a’r celloedd hyn yn troi’n greaduriaid o bob math. Cawn hanes oes y deinosoriaid ac esblygiad mamaliaid a phobl, a chyn bwysiced â dim cawn y cyd-destun heddiw wrth i bobl lenwi’r blaned a difetha lleoedd gwyllt. Yn y llyfr ceir darluniau syml a swynol sy’n llenwi’r tudalennau, ac nid yn unig maent yn ychwanegu cryn dipyn o liw at y testun, maent hefyd yn ddefnyddiol iawn wrth esbonio ac esgor ar drafodaeth bellach. Mae llinell amser (e.e.‘65 miliwn o flynyddoedd yn ôl’) ar bob tudalen, sy’n wych o beth gan fod llinell amser yn gysyniad anodd i blant ond mae’n bwysig iawn dechrau trafod pa mor hir y mae wedi ei gymryd i fywyd ar y ddaear (a dyn) esblygu. Gellid dadlau fod y ‘llinell amser’ sydd ar dudalen yr eirfa yng nghefn y llyfr yn gamarweiniol gan nad yw pob cyfnod mewn gwirionedd yn ‘gyfartal’ a dylid fod wedi rhannu hyd y llinell ar y dudalen yn fwy cymesur, h.y. byddai ‘heddiw’ a’r miliwn o flynyddoedd diwethaf yn llawer, llawer llai. Mae iaith yr addasiad yn fywiog a chyfoethog, er bod dewis defnyddio berfau amhersonol (e.e. ‘cymylwyd y moroedd’) a berfau cryno anghyfarwydd (e.e. ‘trawodd’) yn destun trafod. Mae’r eirfa\/geiriau ar ddiwedd y llyfr yn hynod ddefnyddiol, ond trueni nad oedd ‘nwy’ hefyd wedi’i gynnwys gan y gall hwnnw o bosibl beri problem esbonio i ambell riant.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820918083958,"sku":"9781849674638","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781849674638.jpg?v=1790362120","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/stori-dyfeisiau-9781849674638","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}