{"product_id":"stori-bywyd-9781849673983","title":"Stori Bywyd","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAr y dechrau, doedd DIM BYD yn byw ar y Ddaear. Roedd yn lle poeth a swnllyd. Roedd nwy myglyd yn ffrwydro o losgfynyddoedd, a moroedd o lafa'n byrlymu dros y glob... Yna, yn nyfnder tywyll y môr, digwyddodd RHYWBETH RHYFEDDOL. Addasiad Cymraeg Siân Lewis o The Story of Life yn adrodd am ddechreuadau cyffrous bywyd ar y ddaear.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAt first, nothing lived on Earth. It was a noisy, hot, scary place. Choking gas exploded from volcanoes and oceans of lava bubbled around the globe... Then in the deep, dark ocean, something amazing happened. This is an exciting and dramatic story about how life began and developed on Planet Earth, written especially for young children. Suitable for key stage 2 pupils.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781849673983\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781849673983\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eStori Bywyd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBarr, Catherine; Williams, Steve\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-01-18\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRily\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLewis, Siân\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHusband, Amy\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e40 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e240 × 275 mm; depth 3 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Gwyddoniaeth - Cyffredinol (yn Gymraeg) | EN: Science - General (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eO’r diwedd, dyma lyfr yn y Gymraeg i ateb y cwestiwn ‘O ble mae pobl yn dod?’ sy’n esbonio theori esblygiad. Mae taer angen llyfrau ffeithiol fel hyn i annog gwyddonwyr bach Cymraeg y dyfodol ac i feithrin meddyliau chwilfrydig, heb sôn am ehangu eu geirfa yn y Gymraeg. Mae pynciau digon cymhleth yn cael eu trafod yma, megis datblygiad bywyd o'r celloedd cyntaf ac esblygiad dyn, ond mae'n gwneud hynny mewn ffordd sy'n ddealladwy i blant wrth iddynt, o bosibl, gael eu cyflwyno i’r cysyniadau hyn am y tro cyntaf. Sonnir am y tameidiau bychain a roes fywyd i’r byd a’r celloedd hyn yn troi’n greaduriaid o bob math. Cawn hanes oes y deinosoriaid ac esblygiad mamaliaid a phobl, a chyn bwysiced â dim cawn y cyd-destun heddiw wrth i bobl lenwi’r blaned a difetha lleoedd gwyllt. Yn y llyfr ceir darluniau syml a swynol sy’n llenwi’r tudalennau, ac nid yn unig maent yn ychwanegu cryn dipyn o liw at y testun, maent hefyd yn ddefnyddiol iawn wrth esbonio ac esgor ar drafodaeth bellach. Mae llinell amser (e.e.‘65 miliwn o flynyddoedd yn ôl’) ar bob tudalen, sy’n wych o beth gan fod llinell amser yn gysyniad anodd i blant ond mae’n bwysig iawn dechrau trafod pa mor hir y mae wedi ei gymryd i fywyd ar y ddaear (a dyn) esblygu. Gellid dadlau fod y ‘llinell amser’ sydd ar dudalen yr eirfa yng nghefn y llyfr yn gamarweiniol gan nad yw pob cyfnod mewn gwirionedd yn ‘gyfartal’ a dylid fod wedi rhannu hyd y llinell ar y dudalen yn fwy cymesur, h.y. byddai ‘heddiw’ a’r miliwn o flynyddoedd diwethaf yn llawer, llawer llai. Mae iaith yr addasiad yn fywiog a chyfoethog, er bod dewis defnyddio berfau amhersonol (e.e. ‘cymylwyd y moroedd’) a berfau cryno anghyfarwydd (e.e. ‘trawodd’) yn destun trafod. Mae’r eirfa\/geiriau ar ddiwedd y llyfr yn hynod ddefnyddiol, ond trueni nad oedd ‘nwy’ hefyd wedi’i gynnwys gan y gall hwnnw o bosibl beri problem esbonio i ambell riant.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820913496438,"sku":"9781849673983","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781849673983_c83a4935-9b68-4799-b253-448bb5185037.jpg?v=1790362051","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/stori-bywyd-9781849673983","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}