{"product_id":"siani-flewog-9781784616298","title":"Siani Flewog","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel yn amlinellu dylanwad Henry Cyril Paget, pumed Marcwis Môn (1875-1905) ag oedd yn wariwr afradlon ar dlysau, gemau a chyflwyniadau theatrig, ar ddwy Gymraes, Annie Roberts ac Eluned Humphreys.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA novel outlining the influence of Henry Cyril Paget, fifth Marquis of Anglesey (1875-1905), lavish spender on jewellery and theatrical presentations on two Welsh women, Annie Roberts and Eluned Humphreys.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784616298\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784616298\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSiani Flewog\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRichards, Ruth\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-09-27\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e192 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMerch o flaen ei hamser yw Annie Roberts – tipyn o rebel sy’n ceisio gwneud synnwyr o’r byd o’i chwmpas ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy gyfnod y ddau ryfel byd hyd at ganol y ganrif ddiwethaf. A pha ryfedd ei bod hi’n gymeriad mor lliwgar o gofio i’w magwraeth draddodiadol lem gael ei dylanwadu’n fawr gan ei hymwneud â phumed Marcwis Môn, Henry Cyril Paget, a’r bywyd afradus, bohemaidd oedd yn nodweddu ei blas yn Llanedwen, Môn? Pendilio’n rhwydd o un cyfnod mewn hanes i’r llall a wna’r nofel – o gyfnod plentyndod Annie i’w sefyllfa bresennol, lle mae’n penderfynu gadael ei gŵr ‘saff’, Frank, yn dilyn marwolaeth eu mab, Cyril, mewn damwain beic modur, cyn symud ymlaen i ddisgrifio’r bywyd newydd, annibynnol, y mae’n ei greu iddi hi ei hun, hyd at ei henaint. Merch a chanddi chwaeth yw Annie, ond mae hi hefyd yn barod i herio confensiynau ac i godi dau fys, fwy neu lai, ar y bywyd traddodiadol Gymreig sydd o’i chwmpas a byw bywyd fel y myn hi – yn unol â’r modd yr oedd Marcwis Môn yn byw ei fywyd yntau. Ac yn debyg iawn i’r Marcwis a oedd yn gefnogol iawn i’r gymdeithas o’i gwmpas ac i unigolion bregus o fewn y gymdeithas honno, er gwaethaf y ffortiwn a wastraffodd ar emau a dillad, mae Annie hefyd yn un dda iawn am ddeall pobl ac am fynnu rhyddid iddyn nhw allu mynegi eu hunain a bod yn driw i’w personoliaethau eu hunain. Wrth gwrs, caiff hithau ei beirniadu am fod yn wahanol, gyda’i gwallt ‘platinum blonde’ a’r cwmni y mae’n ei gadw, ond mae’n llwyddo i fod yn gefn mawr i nifer o unigolion bregus o’i chwmpas, yn ei ffordd unigryw ei hun. Mae’n ffrind triw iawn i Eluned, Gwynfor ac Ernie, sydd bob un wedi’u gormesu gan amgylchiadau ac agweddau teuluol, ond sydd, bob un, yn cael cyfle i ddianc o’r gormes hwnnw a mynegi eu hunain maes o law. Dyma ail nofel Ruth Richards. Fel yn Pantywennol , ei nofel ysgubol gyntaf a gyhoeddwyd yn 2016, diddordeb mewn pobl sydd wrth wraidd Siani Flewog hithau, ynghyd â’r syniad o hunanfynegiant, rhyddid ac awydd y prif gymeriad i ddod i adnabyddiaeth well ohoni hi ei hun fel person annibynnol, unigryw a gwerthfawr. Mae ei harddull yn esmwyth a chyhyrog ac iddi dinc traddodiadol sy’n gweddu i naws hanesyddol y nofel. Nofel hynod gywrain sy’n siŵr o apelio at gynulleidfa eang.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819987112310,"sku":"9781784616298","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784616298_466d8bef-0541-4c89-92ef-3f3af9f5587a.jpg?v=1790354180","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/siani-flewog-9781784616298","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}