{"product_id":"sgin-ti-fonolog-9781912173068","title":"Sgin Ti Fonolog?","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol o 36 o fonologau gwreiddiol ar gyfer pobol ifanc, wedi eu hysgrifennu gan un sydd wedi bod yn ei chanol hi yn y byd perfformio ers blynyddoedd. Ceir yma hiwmor a dwyster, a'r cyfle i fachu cynulleidfa!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA collection of 36 original monologues for young people, combining humour and pathos, written by an experienced performer, teacher and mentor of young performers for many years.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781912173068\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781912173068\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSgin Ti Fonolog?\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRoberts, Cefin\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2018-01-17\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e144 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Drama - Uwchradd (yn Gymraeg) | EN: Drama - Secondary (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDylai pawb, yn enwedig pobl ifanc yn eu harddegau, sydd ag unrhyw fath o ddiddordeb mewn perfformio, groesawu’r gyfrol hon gyda breichiau agored. Heb os nac oni bai, dyma adnodd amhrisiadwy y bu galw am ei debyg ers talwm iawn. Ceir yma dri deg a chwech o fonologau ar amrywiol themâu – rhai’n benodol ar gyfer merched, eraill ar gyfer bechgyn. Awgryma’r awdur yr oedrannau yr anelir y monologau ar eu cyfer, sydd yn beth da, gan mai camgymeriad hawdd i’w wneud yw dewis darnau sydd yn ormod o her, neu’n rhy aeddfed i unigolion yn eu harddegau cynnar allu uniaethu â hwy. Gall hynny ddifetha didwylledd perfformiad unigolyn ar lwyfan yn syth. Wedi dweud hyn, awgrymu hynny a wna’r awdur, ac wrth gwrs; rhoddir rhwydd hynt i amrywio ac addasu – gan wneud hynny’n ‘ofalus’, fel y noda’r awdur. Ceir nodiadau defnyddiol iawn yn y rhagarweiniad i’r gyfrol – rhyw fath o tips sydyn o’r hyn y dylid ei ystyried wrth baratoi ar gyfer perfformio monolog, a sut i feddwl ac edrych ar ddarn cyn dechrau meddwl am ei berfformio. Ceir yma gynghorion defnyddiol, fydd yn bendant yn gwneud i hyfforddwyr a pherfformwyr fel ei gilydd eu hystyried cyn dechrau ar unrhyw ddehongli posib. Ymdrinnir â themâu amrywiol a chyfoes yma, gyda chydbwysedd clir rhwng y difrif a’r digri, sy’n ei gwneud yn gyfrol eang ei hapêl. Maent yn themâu y gellir uniaethu â hwy, ac yn fonologau fydd yn siŵr o ennyn ymateb cynulleidfaoedd. Fel y noda’r awdur, ar gais nifer o bobl yn holi am fonolog ar gyfer cystadlaethau mewn eisteddfodau yr ysgogwyd ef i gyhoeddi’r gyfrol hon, ac yn ddi-os, bydd hen fodio arni gan eisteddfodwyr drwy Gymru yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Gawn ni erfyn ar i’r eisteddfodau wneud defnydd ohoni, gan osod rhai ohonynt yn destunau gosod o dro i dro, os gwelwch yn dda?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821140578678,"sku":"9781912173068","price":7.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781912173068_6241dc58-6f06-4192-8e3a-4c3e0140fd5c.jpg?v=1790364890","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/sgin-ti-fonolog-9781912173068","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}