{"product_id":"rhwng-teifi-dyfi-a-r-don-9781911584353","title":"Rhwng Teifi, Dyfi a'r Don","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae harddwch sir Ceredigion wedi ysbrydoli nifer o feirdd ar hyd y blynyddoedd, ac yn y gyfrol newydd hon ceir cerddi gan feirdd amrywiol sy'n canu am y sir ei hun: am leoedd, adeiladau a phobl a greodd y sir hynod hon a'i diwylliant cyfoethog. I gyd-fynd â'r farddoniaeth ceir ffotograffau o'r sir gan Iestyn Hughes, gyda'r cyfan wedi'i osod yn gelfydd i greu cyfrol apelgar iawn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe beauty of Ceredigion has inspired many poets over the years, and this new volume comprises poems by various poets who sing about the county: the locations, buildings and people that have formed this incredible county with its rich culture. Photographs by Iestyn Hughes complement the text, creating a very appealing volume.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781911584353\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781911584353\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRhwng Teifi, Dyfi a'r Don\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBarddas, Cyhoeddiadau\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-03-22\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau Barddas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eEditor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eReynolds, Idris\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHughes, Iestyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e104 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e240 × 205 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eSut mae rhywun yn mynd ati i gwmpasu Ceredigion mewn cyfrol o gerddi? Gellid llenwi cyfres gyfan o gyfrolau yn hawdd, ond rhaid gosod y ffin yn rhywle, neu fe fyddwn fel y mapiwr enwog Jorge Luis Borges a wnaeth, yn ei awydd i gofnodi ei diriogaeth yn ei holl fanylion, greu map mor fawr â’r diriogaeth ei hun, nes bod dim gwahaniaeth rhyngddynt. Ni chwympir i fagl gorymdrechu fan hyn, a cheir amrywiaeth o destunau sy’n rhychwantu bron iawn bob cornel o’r sir. Nid cerddi amlwg yn unig a geir, a cherddi gorau’r gyfrol yw’r rhai anghasgledig a’r rheiny gan feirdd nad ydynt o reidrwydd yn enwau sefydledig nac yn brifeirdd. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cyfraniad Damian Walford Davies, sef detholiad o’r casgliad o gerddi ‘Terfysg’. Mae’r gerdd gartograffig gyntaf – ‘Map (Arolwg Ordnans Rhif 198)’ – yn ymgorffori gweledigaeth dir-gofleidiol y gyfrol wrth sôn am ‘map yn blingo gwlad \/ hyd esgyrn ei chlogwyni, \/ hyd rydweli ffordd, \/ gwythïen meidr’. Canys ‘ar y tipyn papur hwn \/ mae cyfrinachau’: dehongliad yw map, wedi’r cyfan, gan nad oes modd cynnwys pob un peth. Rhaid dethol. Ond wrth i brofiad, hanes a daearyddiaeth gydgyfarfod ar y papur, rywle rhyngddynt fe ffurfir ‘cwlwm carennydd’. Cefais flas neilltuol hefyd ar gyfraniad Iestyn Tyne, gyda’i ddwy gerdd fframiol ‘Cyrraedd Aber’ a ‘Gadael Aber’. Yn eu cynilder maent yn llwyddo i fynegi rhywbeth mawr. Wedi sylwgarwch rhestrgar y gerdd gyntaf (‘yr un yw’r plant ar risiau’r \/ capel, yr un yw’r sgyrsiau \/ wrth y drws; yr un \/ yw’r môr a’r adar mân’), gwelwn, erbyn ‘Gadael Aber’, ein bod ‘wedi dweud popeth sy’n weddill i’w ddweud’, gan fynd oddi yno wedyn fel ‘adar ar ffo’. Mae llawer o ofod rhwng y rhestru a’r llinellau moel yn y ddwy gerdd, a’r fath ofod sy’n dal orau naws unrhyw adael. Cyfoethogir y cerddi gan y ffotograffau, ac mae’r naill yn cynnig sylwebaeth ar y llall. Rhyngddynt mae rhywbeth amgenach yn datblygu, ac mae’r dull trawsgelfyddydol hwn yn sicrhau nad rhywbeth statig mo’r cerddi hyn, gan fod y darllenydd yn cyfryngu yn anorfod rhwng y testun a’r ddelwedd. Ac wrth gwrs, gan taw cyflwyno bro Ceredigion yw’r nod, mae’r ffotograffau’n hanfodol wrth sicrhau bod y gyfrol hon yn fwy na dim ond blodeugerdd: mae’n cyfuno Ceredigion y dychymyg (Ceredigion y cerddi) a Cheredigion ddiriaethol y camera (Ceredigion y dŵr a’r ddaear). Sut mae rhywun yn mynd ati i gwmpasu Ceredigion mewn cyfrol o gerddi? Gellid llenwi cyfres gyfan o gyfrolau yn hawdd, ond rhaid gosod y ffin yn rhywle, neu fe fyddwn fel y mapiwr enwog Jorge Luis Borges a wnaeth, yn ei awydd i gofnodi ei diriogaeth yn ei holl fanylion, greu map mor fawr â’r diriogaeth ei hun, nes bod dim gwahaniaeth rhyngddynt. Ni chwympir i fagl gorymdrechu fan hyn, a cheir amrywiaeth o destunau sy’n rhychwantu bron iawn bob cornel o’r sir. Nid cerddi amlwg yn unig a geir, a cherddi gorau’r gyfrol yw’r rhai anghasgledig a’r rheiny gan feirdd nad ydynt o reidrwydd yn enwau sefydledig nac yn brifeirdd. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cyfraniad Damian Walford Davies, sef detholiad o’r casgliad o gerddi ‘Terfysg’. Mae’r gerdd gartograffig gyntaf – ‘Map (Arolwg Ordnans Rhif 198)’ – yn ymgorffori gweledigaeth dir-gofleidiol y gyfrol wrth sôn am ‘map yn blingo gwlad \/ hyd esgyrn ei chlogwyni, \/ hyd rydweli ffordd, \/ gwythïen meidr’. Canys ‘ar y tipyn papur hwn \/ mae cyfrinachau’: dehongliad yw map, wedi’r cyfan, gan nad oes modd cynnwys pob un peth. Rhaid dethol. Ond wrth i brofiad, hanes a daearyddiaeth gydgyfarfod ar y papur, rywle rhyngddynt fe ffurfir ‘cwlwm carennydd’. Cefais flas neilltuol hefyd ar gyfraniad Iestyn Tyne, gyda’i ddwy gerdd fframiol ‘Cyrraedd Aber’ a ‘Gadael Aber’. Yn eu cynilder maent yn llwyddo i fynegi rhywbeth mawr. Wedi sylwgarwch rhestrgar y gerdd gyntaf (‘yr un yw’r plant ar risiau’r \/ capel, yr un yw’r sgyrsiau \/ wrth y drws; yr un \/ yw’r môr a’r adar mân’), gwelwn, erbyn ‘Gadael Aber’, ein bod ‘wedi dweud popeth sy’n weddill i’w ddweud’, gan fynd oddi yno wedyn fel ‘adar ar ffo’. Mae llawer o ofod rhwng y rhestru a’r llinellau moel yn y ddwy gerdd, a’r fath ofod sy’n dal orau naws unrhyw adael. Cyfoethogir y cerddi gan y ffotograffau, ac mae’r naill yn cynnig sylwebaeth ar y llall. Rhyngddynt mae rhywbeth amgenach yn datblygu, ac mae’r dull trawsgelfyddydol hwn yn sicrhau nad rhywbeth statig mo’r cerddi hyn, gan fod y darllenydd yn cyfryngu yn anorfod rhwng y testun a’r ddelwedd. Ac wrth gwrs, gan taw cyflwyno bro Ceredigion yw’r nod, mae’r ffotograffau’n hanfodol wrth sicrhau bod y gyfrol hon yn fwy na dim ond blodeugerdd: mae’n cyfuno Ceredigion y dychymyg (Ceredigion y cerddi) a Cheredigion ddiriaethol y camera (Ceredigion y dŵr a’r ddaear).\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821132091766,"sku":"9781911584353","price":12.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781911584353_80c9c061-5c34-4d19-bc16-ae1392e8499c.jpg?v=1790364613","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/rhwng-teifi-dyfi-a-r-don-9781911584353","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}