{"product_id":"rhwng-dau-feddwl-9781911584872","title":"Rhwng Dau Feddwl","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma chwaergyfrol rhwng y llinellau (Cyhoeddiadau Barddas, 2013) sef cyfrol gyntaf o farddoniaeth Christine James. Gwaith celf gyda menyw sydd yn llewyrchu ar y clawr unwaith eto, ond y tro hwn, y fenyw yn 'Diwrnod Marchnad' sef fersiwn ciwbaidd Hywel Harries o waith enwog Curnow Vosper.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA companion volume to rhwng y llinellau (Cyhoeddiadau Barddas, 2013) which was Christine James's first volume of poetry. Once again, artwork portraying one woman radiates as the cover image, but this time, it's the woman from ‘Diwrnod Marchnad', being Hywel Harries's cubic version of Curnow Vosper's famous work ‘Salem'.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781911584872\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781911584872\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRhwng Dau Feddwl\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJames, Christine\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£12.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2024-11-15\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau Barddas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e152 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e139 × 210 mm; depth 15 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMerch o Gwm Rhondda yw Christine James, ac er ei bod yn byw yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd, ers dros bymtheng mlynedd ar hugain, mae ei gwreiddiau’n ddwfn yn y cwm hwnnw. Cyn iddi ymddeol yn 2017 roedd yn Athro ac yn Bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, lle y bu’n darlithio’n bennaf ar lenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol ac ar lenyddiaeth Cymoedd y De. Christine oedd y fenyw gyntaf i’w gorseddu’n Archdderwydd Cymru, a hi hefyd yw’r fenyw gyntaf i fod yn Gofiadur yr Orsedd. Ei magwraeth, ei diddordeb mawr yn iaith a hanes a thraddodiadau ein cenedl, ynghyd â’i theulu a’i ffydd Gristnogol bersonol, yw’r edau sy’n gwau trwy’r gyfrol hon, ei hail gasgliad o gerddi. Enillodd ei chasgliad cyntaf, rhwng y llinellau (Cyhoeddiadau Barddas, 2013) y categori ‘Barddoniaeth’ yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2014.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Christine James yn adnabyddus am ei cherddi ecffrastig disglair ac mi fydd ei hail gyfrol, rhwng dau feddwl (2024), llawn amrediad diddorol o farddoniaeth a chelf. Mae celf yn ysbrydoliaeth i Christine ac yn ei sbarduno i archwilio themâu megis teulu, pobl, adnabod yr hunan, ffydd a chred. Crisialwyd ei chrefft fel bardd yng ngeiriau Derec Llwyd Owen: “[Mae] gan Christine ddawn gywrain i lunio troadau ymadrodd disglair mor ddiffwdan, ac i fydru mor rhythmig.”\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821135696246,"sku":"9781911584872","price":12.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781911584872_d12add6c-8262-42cc-abf7-f37462cc21e4.jpg?v=1790364690","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/rhwng-dau-feddwl-9781911584872","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}