{"product_id":"rhuddin-ymddiddan-y-corff-a-r-enaid-9781911584513","title":"Rhuddin — Ymddiddan y Corff a'r Enaid","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol unigryw a gwreiddiol yn y Gymraeg sy'n cyflwyno ysgrifau a cherddi newydd sbon ar wahanol themâu'n ymwneud â yoga a meddylgarwch.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAn original and unique volume in the Welsh language presenting essays and brand new poems on themes relating to yoga and mindfulness.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781911584513\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781911584513\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRhuddin — Ymddiddan y Corff a'r Enaid\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSub Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eYmddiddan y Corff a'r Enaid\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eKaradog, Laura\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-09-26\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyhoeddiadau Barddas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAaron, Luned\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e96 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e140 × 180 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Blodeugerddi (yn Gymraeg) | EN: Anthologies (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Laura Karadog yn athrawes yoga brofiadol sy’n byw ym Mhontyberem, Caerfyrddin. Mae hi’n cynnal blog sy'n cynnig cysur ac arweiniad ar wella’r corff yn ogystal â’r meddwl, ac yn cyfrannu’n gyson i gylchgronau fel 'Barn' a gwefannau megis Meddwl.org. Bu hi hefyd yn rhan o’r criw wnaeth sefydlu’r app ‘Cwtsh’ sef app arbennig i ddod i adnabod chi eich hun drwy fyfyrio yn y Gymraeg.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eGeiriau o Lyfr Du Caerfyrddin sydd yn yr isdeitl, ac adlais o gerdd gan Waldo ac o lythyr Paul at y Rhufeinaid yn y prif deitl, ond rhwng y tudalennau, geiriau'r awdur, yn dyner, glir a gonest sydd yma, yn trafod pynciau sy'n gysylltiedig â yoga a meddylgarwch – disgyblaethau sy'n blodeuo ac yn cynyddol fagu cydnabyddiaeth a pharch yn ein cymdeithas, wrth i iechyd holistaidd hawlio ein sylw yng nghyd-destun effeithiau'r pandemig. Mae yma gyfeirio at synnwyr greddfol nifer fawr ohonom, a “[b]od llawer o'r atebion yr ydym ni'n chwilio amdanynt i'w canfod y tu mewn i ni'n hunain, ac nid ar y tu allan”. Noda’r awdur mai ceisio rhoi blas yw ei bwriad, “a hynny mewn geiriau sy'n gyfarwydd i ni fel Cymry sy'n siarad Cymraeg”. Ceir penodau ar themâu gwreiddio, caredigrwydd, anadlu, egni, bodlonrwydd, ildio, myfyrio, a gorffwys. Mae patrwm i bob pennod: darlun lliw, pennill, trafodaeth, pennill, ac ymarferiad. Ar gyfer pob thema cyflwynir trafodaeth fer ar y pwnc gan gyfuno eglurhad gwyddonol ac athronyddol â phrofiadau a chyd-destun personol sy'n creu naws gartrefol, esmwyth a chroesawgar i'r darllenydd. Trysorau'r gyfrol hon yw'r nifer o gerddi cain gan feirdd cyfoes, a hefyd gerddi gan fawrion ein cenedl, Waldo Williams a Dic Jones. I bob thema mae lliw gwahanol, caredig i'r llygad, o blith lliwiau'r ddaear, a darluniau gan Luned Aaron yn fynegiant gweledol trawiadol i'r pwnc dan sylw. Mae'r ymarferion yn addas i bawb, ac yn cyfuno technegau yoga a meddylgarwch megis ‘ystum y mynydd’, myfyrdod caredigrwydd cariadus, arafu'r anadl, dod o hyd i'r egni, diolchgarwch, hunanholi, sganio'r corff, yoga adferol a yoga nidra. Os yw'r geiriau o iaith Sanskrit yn peri ychydig o benbleth, mae geirfa ddefnyddiol a diddorol yng nghefn y gyfrol yn egluro ystyr geiriau fel tadasana, sef “Enw'r iaith Sanskrit ar ystum a adwaenir fel 'Ystum y Mynydd' wrth ymarfer yoga. Mae'n gyfuniad o'r geiriau tada 'mynydd' ac asana 'sedd' neu 'ystum'.” Ar y dudalen flaen ac yn y llyfryddiaeth a'r rhestr darllen pellach yng nghefn y gyfrol cyfeirir at gyfieithiad Cymraeg ‘Y Fendigaid Gân’ gan yr Athro Cyril G. Williams o destun clasurol y Bhagavad Gītā. A dyma osod y gyfrol hon mewn llinach brin o drysorau ym maes yoga a meddylgarwch yn y Gymraeg. Dyma wedd gynhenid Gymreig, flasus iawn, ar bwnc a gysylltir yn arferol â'r Dwyrain. Bydd yn adnodd gwerthfawr tu hwnt i holl ymarferwyr yoga a meddylgarwch, i athrawon ac arweinwyr yn y maes, ac i bob un sydd yn mwynhau ymddiddan ynghylch “ein hanfod, ein craidd a'n rhuddin”.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821132681590,"sku":"9781911584513","price":9.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781911584513_baafbf43-4c12-44bd-9756-ebaccffc87e0.jpg?v=1790364638","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/rhuddin-ymddiddan-y-corff-a-r-enaid-9781911584513","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}