{"product_id":"rhannu-ambarel-enillydd-y-fedal-ryddiaith-2017-9781912173006","title":"Rhannu Ambarél - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2017","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2017. Bydd y gyfrol hon o straeon byrion yn aros yn eich cof am amser maith. Mae'r awdur yn adnabod pobol, yn ein dwyn i ganol eu bywydau, ac yn cyffwrdd ein calonnau wrth i'w chymeriadau brofi tynerwch a chreulondeb cariad.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eWinner of the Prose Medal at the 2017 National Eisteddfod, being a collection of six short stories about relationships and the tenderness and brutality of love.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781912173006\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781912173006\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRhannu Ambarél - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2017\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEdwards, Sonia\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2017-08-09\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e120 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 200 mm; depth 10 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (yn Gymraeg) | EN: Eisteddfod Compositions and Programmes (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Arobryn (y Fedal etc) (yn Gymraeg) | EN: Prize-winning Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae Sonia Edwards yn awdur sydd wedi hen ennill ei phlwyf ym myd llenyddiaeth Gymraeg, a chaiff ei hadnabod am ei harddull deimladwy, sensitif. Braf oedd ei gweld hi'n codi ar ei thraed i dderbyn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Môn eleni, a hithau'n un o bobol gwlad y medra. A bobol, mae hi'n medru! Mae ei chyfrol o straeon byrion, Rhannu Ambarél , eisoes wedi ennyn ymateb ffafriol iawn, a darllenwyr wedi eu swyno gan gynildeb hyfryd ei straeon. Er bod arddull gyfareddol ac unigryw'r awdur yn gyson drwy'r straeon, mae amrywiaeth mawr mewn tôn ac awyrgylch o stori i stori. Mae tueddiad, boed hynny'n ymwybodol ar ran yr awdur ai peidio, i ysgrifennu am wahanol bynciau tabŵ – affêr rhwng myfyrwraig a'i thiwtor; hen ŵr yn cymryd cyffuriau anghyfreithlon i leddfu poen; profedigaeth. Er bod y rhain yn bynciau mawr, mae'r straeon a'r cymeriadau yn gwbl gredadwy. Tuedda'r awdur i graffu ar fanylion bychain bywyd bob dydd ynghanol y sefyllfaoedd mawr yma o newid byd – a dyna ddod at symboliaeth yr ambarél. Mentraf ddweud na fydd unrhyw un a ddarllena'r straeon yma yn gweld yr eitem hon yn yr un ffordd eto. Mae'n symbol o agosatrwydd ac, wrth gwrs, yn eich diogelu rhag pob math o dywydd mawr. Caiff Sonia Edwards ei hadnabod am ei throsiadau a'i chymariaethau trawiadol, ac mae'r rheiny'n frith drwy'r straeon yma. Disgrifir alawon fel 'pethau crwydrol, cyntefig fel y tonnau, yn aros 'run fath ond yn newid o hyd'. Wrth wneud paned, bydd 'sŵn y sarff o deciall yn chwythu'n biwis'. Byddai'r cyffyrddiadau barddonol yma yn gallu amharu ar lif y stori a theimlo braidd yn drwm, ond mae hynny'n cael ei osgoi am fod y ddeialog yn llifo mor hawdd. Mae lleisiau'r cymeriadau yn gwbl glir ac mae'r ieithwedd a'r geiriau yn gyfarwydd i ni i gyd. A dyna yw hanfod hyfryd a chyfareddol Rhannu Ambarél . Mae'n cymryd cymeriadau a sefyllfaoedd sy'n gyfarwydd i ni i gyd, ac yn craffu arnyn nhw mewn manylder cain, barddonol, bendigedig. Dyma straeon fydd yn aros ym meddwl pob darllenydd am amser hir.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821140480374,"sku":"9781912173006","price":8.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781912173006.jpg?v=1790364886","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/rhannu-ambarel-enillydd-y-fedal-ryddiaith-2017-9781912173006","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}