{"product_id":"raffl-9781845279134","title":"Raffl","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eYn Hydref 2021 cyhoeddodd Gwasg Carreg Gwalch gyfrol o straeon byrion gan Aled: Tynnu . Ymestyn i'r un cyfeiriad yw'r nod yn y gyfrol hon.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn October 2021, Gwasg Carreg Gwalch published a volume of short stories by Aled: Tynnu . This volume is in the same vein.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781845279134\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781845279134\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRaffl\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWilliams, Aled Jones\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.75\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.75\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2023-05-19\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Carreg Gwalch\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e200 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 × 198 mm; depth 11 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMagwyd Aled Jones Williams ger Caernarfon ac astudiodd ym Mhrifysgol Bangor, Coleg Diwinyddol Mihangel Sant yn Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd. Mae'n offeiriad gyda'r Eglwys yng Nghymru, yn Brifardd, yn awdur ac yn ddramodydd y mae amryw o'i ddramâu wedi eu llwyfannu. Roedd ei lyfr, Rhaid i ti fyned y daith honno dy hun , ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2002, ac enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr un flwyddyn. Mae ei bryddest fuddugol, 'Awelon', wedi ei chynnwys yn Y Cylchoedd Perffaith (Gwasg y Bwthyn, 2010), ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, sy'n ymdrin â cholli ffydd ac alcoholiaeth. Dewiswyd ei nofel Eneidiau ar gyfer Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru yn Hydref 2013, ac roedd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2014. Dewiswyd ei nofel, Nostos (Gwasg Carreg Gwalch, 2018), hefyd i Silff Lyfrau 2018.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMeddai'r awdur: \"Nid wyf erioed wedi bod yn or hoff o realaeth. Ac o ddydd i ddydd rhowch i mi'n wastad y rafin o flaen y ddynes dda neu'r dyn da. Os oes gennyf bwnc, amwysedd moesol yw hwnnw. Rhywle ymhlith hyn y bydd y storïau newydd hyn yn tindroi. Mae rhywbeth arall. Ers tro'n byd rwy'n ymwybodol fod rhai pethau a fu'n bwysig i mi yn dyfod i ben. Ni welaf yng Nghymru unrhyw ddyfodol i Gristionogaeth, er enghraifft. Fy arswyd nad yw'r iaith Gymraeg mor ddiogel ag a fynn rhai. Gwynt teg ar ôl ambell beth: byddwn wrth fy modd medru dweud fod Cyfalafiaeth ar fin diflannu gyda'r chwaer hyll Torïaeth ar ei hôl. Ond nid felly. Teimlaf fod egin rhyw newydd-deb ar ddod. Nid o angenrheidrwydd yn ddaionus. Wedi'r cyfan, mae'r newid hinsawdd yma'n barod. Mae pethau'n chwalu. O'r ymdeimlad yma o chwalfa y daw'r storïau hyn. Bydoedd gwyrgam sydd yma. A pobl sy'n dyllau i gyd heb ruddin.\"\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820801724790,"sku":"9781845279134","price":9.75,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781845279134_9669210d-0a7a-4f55-adb6-f9f5e133009f.jpg?v=1790360685","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/raffl-9781845279134","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}