{"product_id":"pump-prysur-nadolig-llawen-pump-prysur-9781910574188","title":"Pump Prysur: Nadolig Llawen Pump Prysur","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAddasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o The Famous Five: Happy Christmas Five gan Enid Blyton. Mae'n noswyl Nadolig, ac mae'r Pump Prysur yn llawn cyffro am y mynydd o anrhegion sy'n eu haros – yn enwedig Twm! Ond pan mae Twm yn cyfarth yn wyllt, caiff ei ddanfon allan i'r cwt, gan adael lleidr i ddwyn yr anrhegion. A fydd Twm yn achub y dydd?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAn original Enid Blyton short story with brand new full-colour illustrations. A perfect introduction for new readers, and an exciting way to enjoy classic Famous Five tales by Enid Blyton in a Welsh translation by Manon Steffan Ros.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781910574188\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781910574188\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePump Prysur: Nadolig Llawen Pump Prysur\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBlyton, Enid\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-11-23\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAtebol\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRos, Manon Steffan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eLittler, Jamie\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e80 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e129 × 198 mm; depth 10 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA fydd hi’n Nadolig llawen i’r Pump Prysur, neu a fydd rhywun – neu rywbeth – yn difetha'r dathlu i Siôn, Dic, Jo, Ani a Twm? Cyfieithiad o un o straeon byrion Enid Blyton am helyntion y Pump Prysur, neu’r Famous Five, yw hon. Er bod yna dros hanner canrif ers cyhoeddi’r gwreiddiol dyw’r llyfr ddim yn teimlo’n hen ffasiwn. Mae’r stori'n berthnasol heddiw, ac mae arddull gyfoes y print a’r darluniau lliwgar yn ategu hynny. Mae cymeriadau’r llyfr yr un mor apelgar nawr ag yr oedden nhw pan o’n i’n darllen eu hanes yn blentyn. Yn wahanol i lyfrau hwy Enid Blyton am y pump, Twm y ci yw’r seren y tro yma. Mae Twm druan wedi cynhyrfu cymaint wrth weld pawb yn lapio eu anrhegion ar noswyl Nadolig nes ei fod yn cael ei anfon i’w gwt yn yr ardd. Does gan Yncl Carwyn ddim amynedd â’i gyfarth diddiwedd. Ond yn oriau mân y bore mae Twm yn gweld sachaid o anrhegion yn cael ei dwyn o'r tŷ. Sut mae rhwystro'r lleidr heb gyfarth a digio Yncl Carwyn, a sut mae cael yr anrhegion yn ôl o dan y goeden heb ddeffro pawb? Rhaid i Twm fod yn gyfrwys, ond a fydd yn llwyddo? Os ydych chi’n dal i chwilio am lyfr i’w roi'n anrheg Nadolig, pa ddewis gwell na Nadolig Llawen, Pump Prysur ?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821117510006,"sku":"9781910574188","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781910574188_0db9cd41-4de0-4f01-a53a-c5ae6618e6ee.jpg?v=1790364263","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/pump-prysur-nadolig-llawen-pump-prysur-9781910574188","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}