{"product_id":"pum-diwrnod-a-phriodas-9781800990524","title":"Pum Diwrnod a Phriodas","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel gyfoes, lawn hiwmor ag iddi linyn storïol cryf gan yr awdures boblogaidd, Marlyn Samuel. Daw dau deulu ynghyd mewn glân briodas dramor. Yn ddiarwybod, mae cwlwm eisoes yn bodoli rhyngddynt!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eFull of humour and romance, popular novelist Marlyn Samuel's new novel is a real page turner. When two families come together for a wedding in romantic Italy, little do they realise there is already a bond which ties them together!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781800990524\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781800990524\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePum Diwrnod a Phriodas\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eSamuel, Marlyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2021-09-09\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e182 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e135 × 190 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Hiwmor (yn Gymraeg) | EN: Humour (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eCynnwys \/ Table of Contents\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePan mae ei mab ’fenga yn penderfynu priodi yn yr Eidal, mae Carys yn edrych ymlaen i fwynhau Sorrento, ac yn goron i’r cwbwl, priodas Gethin a Rebeca. Yn gwmni mae ei mab hynaf Sion a’i deulu, heb anghofio ei mam Thelma, gwaith caled a dweud y lleiaf! Ond dim ond dechrau mae gofidiau Carys. Mae pawb yn cael sioc pan mae Gareth, tad Rebeca, yn landio – ond neb yn fwy na Carys! Canmoliaeth i Cicio’r Bwced gan Marlyn Samuel: “Ro’n i’n crio un munud a chwerthin y munud nesa.” – Linda Brown.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eCynnwys \/ Table of Contents\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eWhen her youngest son decides to get married in Italy, Carys is looking forward to enjoying Sorrento and the big wedding of course. With her, are her oldest, Sion and his family and her dear mum Thelma - hard work to say the least! But her troubles are only just beginning when a figure from her past appears unexpectedly.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofelydd poblogaidd a chanddi ddilyniant o ddarllenwyr brwd, gan gynnwys clybiau darllen. Mae Marlyn yn byw ym mhentre Gaerwen ar Ynys Môn. Roedd ei nofel ddiwethaf, Cicio’r Bwced , yn boblogaidd tu hwnt. Mae Marlyn Samuel wedi gwneud enw iddi ei hun fel brenhines nofelau llawn hiwmor Cymraeg gyda Cwcw , Milionêrs a Llwch yn yr Haul . Sgriptwraig ar gyfer y llwyfan sy’n gweithio i’r BBC. Addasodd y nofel Llwch yn yr Haul yn gyfres ddrama ar BBC Radio Cymru.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003ePopular novelist, Marlyn Samuel lives on Anglesey and has many faithful fans in reading clubs all over Wales. She works for the BBC and also writes for theatre and radio.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eOnid yw hi’n deimlad braf cael llyfr da i droi ato cyn noswylio? Yn sicr, teimlad felly sydd i nofel ddiweddaraf Marlyn Samuel – ei phumed nofel. Mae Gethin, mab ieuengaf Carys, wedi penderfynu priodi Rebeca yn Sorrento ac felly does dim dewis gan y ddau deulu ond teithio yr holl ffordd i’r Eidal. Mae achlysur fel priodas yn sicr o greu rywfaint o densiwn ac mae priodas dramor, wrth gwrs, yn cynyddu’r tensiynau. Dyma blot perffaith, felly, i arddangos y natur ddynol ar ei gorau. Heb ddatgelu gormod, mae Carys yn fam i Siôn a Gethin ond nid yr un tad sydd gan y ddau – ganwyd Siôn wedi ffling ar wyliau tramor. Medwyn yw tad Gethin ond mae Carys ac yntau wedi gwahanu ac mae e bellach yn bartner i Llinos. Mae Siôn yn bartner i Greta sy’n figan ac mae ganddynt un ferch bump oed – merch go benderfynol. Felly, wedi teithio i Sorrento i fod yno ar gyfer achlysur arbennig ei mab mae Carys, Siôn a Greta a’u merch Sisial, ynghyd â Medwyn a Llinos. Mae yna un arall, Thelma Owen, sef mam Carys. Dyw Thelma ddim y cymeriad hawsaf yn y byd – dyw hi ddim yn hoff o deithio, mae’n go ffyslyd am ei bwyd ac mae’n dueddol o roi ei thraed ynddi a mynd yn sownd mewn toiledau. Oes, mae yna ddigon o wahaniaethau rhwng pawb i greu pob math o densiynau a sefyllfaoedd doniol ar y naw. Ar ben hyn i gyd, wrth gwrs, mae teulu Rebeca. Mae Meira a thad Rebeca hefyd wedi gwahanu, a dyw Meira ddim yn rhy hapus bod ei merch yn priodi oddi cartref. Mae Meira yn deyrn go iawn ac wedi arfer cadw trefn a chael ei ffordd ei hun wrth wneud hynny. Ond fel y gallwch ddychmygu, dyw popeth ddim yn mynd yn ôl y disgwyl ac mae cryn helbulon yn codi – ac un gwestai annisgwyl yn ymddangos – yn ystod y pum diwrnod. Mewn nofel ysgafn fel hon mae rhywun yn disgwyl yr anghredadwy, ond mae’r awdur wedi llwyddo’n rhyfeddol i greu sefyllfaoedd na ellid bod wedi eu rhagweld. Yn sicr, mae yna lawer iawn o bethau yn digwydd yn ystod y pum diwrnod ond eto mae’r awdur wedi llwyddo i gynnal diddordeb y darllenydd, ac y mae rhywun yn awchu i gael gwybod be sy’n digwydd nesaf. Mae Marlyn Samuel yn feistr ar greu deialog naturiol, a sefyllfaoedd yr ydym i gyd yn gallu uniaethu â nhw. Ry’n ni i gyd yn adnabod rhywun sy’n camgymryd person am berson arall yn barhaus ac o bosib wedi gwneud hynny ein hunain, mae ’na rywun ym mhob criw sydd am fod yn geffyl blaen ac mae ’na wastad snob a rhywun sy’n gwybod yn well – dyw’r criw yma ddim gwahanol. Mae yma ambell sioc a siom, y melys a’r chwerw, ond dyma nofel i’w mwynhau. Mae’n llawn hiwmor ac mi allai fod yn ffilm – olynydd teilwng i Four Weddings and a Funeral , efallai? Edrychwn ymlaen at nofel nesaf yr awdures o Fôn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820254531958,"sku":"9781800990524","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781800990524_9c916302-92ef-4f18-84c9-668dd62d91a5.jpg?v=1790354964","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/pum-diwrnod-a-phriodas-9781800990524","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}