{"product_id":"promenad-y-gwenoliaid-9781785623042","title":"Promenâd y Gwenoliaid","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel wedi'i lleoli yn erbyn cefnlen y diwydiant ymwelwyr yn y Rhyl; ym myd bingo, chips, candi-fflos ac arcêd Mexico Joe ar y prom. Mae grwp o ffrindiau yn dod yn ôl at ei gilydd yn ystod haf 69, yn breuddwydio am gariad rhydd a mwynhau. Wrth ddod wyneb yn wyneb ag is-fyd y dref, maen nhw'n sylweddoli bod eu realiti yn llai addfwyn na byd y capel.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA fast-paced novel set against the Rhyl visitors industry; bingo, chips, candyfloss and Mexico Joe's arcade on the prom. A group of friends come back together during the summer of 69, dreaming of free love and fun. But when they come against the town's dark underworld, they come to realise that their reality is far less pleasant than chapel life.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781785623042\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781785623042\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePromenâd y Gwenoliaid\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWilliams, Gareth W.\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2019-07-30\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e126 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 × 196 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Datrys A Dirgelwch (yn Gymraeg) | EN: Genre Fiction-Crime, Mystery and Thriller (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003e‘Nid yw nostalgia yr hyn oedd e,’ meddai rhywun gorglyfar rywbryd. Wel ydi, ac mae’r nofel hon yn profi hynny. Dewch yn ôl i 1969, y flwyddyn y llwyddodd dyn i lanio ar y lleuad. Fe hedfanodd Concorde am y tro cyntaf. Cofnodwyd yr achos cyntaf o AIDS. Llofruddiwyd Sharon Tate gan Deulu Manson. Arwisgwyd Charles Windsor yn Dywysog Cymru. Ac yn y Rhyl yn yr haf daeth criw o ffrindiau at ei gilydd i freuddwydio am ramant. Aelod o’r criw hwnnw, y Gwenoliaid, sy'n ein tywys drwy helyntion yr haf hwnnw drwy’r nofel led hunangofiannol, gignoeth hon. Cawn hanesion cymeriadau dau fyd yn dod wyneb yn wyneb, y Gwenoliaid naïf tymhorol ar y naill ochr a dihirod yr is-fyd bygythiol ar y llall. Cawn brofi deuoliaeth y dref glan-môr ei hun. Ar y naill law cawn y Rhyl sy’n denu’r teuluoedd gyda chandi-fflos a bingo, reslo a dawnsfeydd. Ac yn ganolog i’r stori, arcêd Mexico Joe. Ar y llaw arall cawn y gangiau dirgel sy’n rheoli busnesau ac economi’r dref. Mae yma gymeriadu crwn a deialog llithrig, er bod modd cwestiynu’r talpiau o Saesneg mewn rhai sgyrsiau. Gellid dadlau, hwyrach, fod amrywio’r ieithoedd yn fodd i wahaniaethu rhwng y bobl gyffredin a’r gweddill. Prif gymeriad y nofel i mi yw’r Rhyl ei hun. Cyfrinach llwyddiant amryw o ddramâu teledu yw’r lleoliadau. Dyna i chi Taggart a Glasgow; Morse ac Endeavour a Rhydychen; Vera a Northumberland a Rebus a Chaeredin. Ac yma, mae’r Rhyl yn ganolog. Cawn bortread cryno o’r dref hanner canrif union yn ôl, tref sgitsoffrenig gyda’r rheilffordd yn ei rhannu’n ddaearyddol a chymdeithasol. Trac y trên sy’n gwahanu’r diwydiant gwyliau a’i atyniadau gwagedd a’r byngalos, cartrefi i bensiynwyr o Loegr. Ceir rhaniad arall, gyda Vale Road yn creu chwarteri, yr East Parade yn ystyried ei hun yn fwy sidêt na’r West, gyda’i Dixieland Showbar a’i Marine Lake. A dyna ni, mewn tref ddauwynebog, lle ceir diwylliant traddodiadol ac isddiwylliant tywyll a didrugaredd yn cyd-fyw. Prin fod y ddwy garfan yn amharu ar ei gilydd nes i’r Gwenoliaid, yn anfwriadol, danio pethau. I rywun fel fi a oedd yn dal yn ddyn ifanc yn 1969, dyma dalp o nostalgia sy’n gymysgedd o’r tywyll a’r doniol. Ac fel y dywed yr awdur mewn cyflwyniad, ‘Os oeddech chi’n fyw yn ’69 bydd llawer o atgofion; os nad oeddech chi, mwynhewch beth bynnag.’ Yn wir, fe wnes.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820146397558,"sku":"9781785623042","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781785623042_34542d68-222d-4388-a800-bea27f877680.jpg?v=1790354594","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/promenad-y-gwenoliaid-9781785623042","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}