{"product_id":"prawf-mot-9781913996536","title":"Prawf Mot","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae perthynas y ci defaid doeth, Mot, a'i berchennog, Lea yn un agos a chariadus. Ond, tybed fedrith Mot ddefnyddio'i ddoethineb a'i sgiliau i ddewis y cariad perffaith i Lea? Dyma nofel ysgafn, obeithiol a chynnes gan un o awduron gorau Cymru sy'n trafod cariad, ffyddlondeb a heneiddio.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAn uplifting, warm and humorous novel which explores the relationship between wise Welsh sheepdog Mot and his owner Lea. Will Mot help Lea find true love?\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781913996536\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781913996536\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePrawf Mot\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwanas, Bethan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2022-02-26\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e296 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e130 × 200 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma gyfrol go wahanol, yn gyfuniad o hunangofiant a nofel. Cawn gan Bethan Gwanas stori Mot y ci a stori Lea a ddaeth yn berchennog iddo. Mae'r nofel yn glyfar iawn wrth ein harwain trwy gyfrwng lleisiau’r cymeriadau. Mae yna elfennau o ddigrifiwch eithriadol ac yna tristwch, felly mae'r pegynau'r llon a'r lleddf yn gwmni i'r darllenydd ar daith ddifyr dros ben. Roeddwn i, fel amryw o rai eraill, wedi camddehongli'r teitl, gan feddwl mai prawf MOT ydoedd. Disgwyliais droi at stori am ymbalfalu dan fonet y car neu am asesiad iechyd gan feddyg! Ond teitl clyfar iawn ydyw Prawf Mot , gan roi stori i ni am y ci Cymreig (a Chymraeg) llawn cymeriad wrth iddo asesu addasrwydd cariadon i'w berchennog! Mae arddull Bethan Gwanas yn wych, fel y disgwylid, ac fe fyddwn yn sicr yn dweud fod apêl y llyfr yn eang iawn ac yn hynod o addas i ddysgwyr oherwydd ei arddull rwydd, ddiymdrech, sy'n adlewyrchiad o wir dalent Bethan fel awdur. Mae yn y nofel gyfeiriadau modern a deallus tuag at hiliaeth y medrwn ni i gyd uniaethu â hwy, ac mae yna sawl foeswers yn ogystal. Mae gweld bywyd trwy lygaid y ci, yn enwedig y disgrifiad 'dwygoes', wedi gwneud i mi fod yn fwy ystyriol wrth weld cŵn pan af am dro. Mae'r darlun o gylch bywyd bob yr un ohonom yn wahanol, wrth reswm, ac yma, yn sicr, mae yna stori werth ei darllen. Mae gonestrwydd Mot yn annwyl a difyr iawn, a'i eiriau'n llawn doethineb: “... ond yn y bôn, rydan ni gwn yn tueddu i weld bywyd yn ddu a gwyn, yn caru ein ffrindiau a brathu’n gelynion os leciwch chi, ond mae pobl wastad yn gorfod gneud pethau’n gymhleth, yn cael trafferth caru mor llwyr â ni, ac yn cymysgu cariad ac atgasedd nes bod y du a’r gwyn wedi troi’n rhyw gawl llwyd, dryslyd.” Yn sicr, mae hon yn nofel gyfoes, ysgafn a llawn deallusrwydd. Mae'n werth ei phrynu!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821244551542,"sku":"9781913996536","price":9.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781913996536_39517835-ce2e-4259-af6b-50c2ec7fb1a9.jpg?v=1790366367","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/prawf-mot-9781913996536","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}