{"product_id":"porthwll-y-9780957560994","title":"Porthwll, Y","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eErs iddo adael y coleg, mae bywyd Cai Owen mewn rhigol, hyd nes iddo gyfarfod grym arallfydol y Porthwll sy'n ei alluogi i gywiro camgymeriadau'r gorffennol. Tybed a fydd ei allu yn dwyn lles neu anlwc i Cai, ei deulu a'i ffrindiau? Nofel am ddau fersiwn o'r un cymeriad sy'n bodoli mewn dau ddeimensiwn gwahanol.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eSince he left college, Cai Owen's life is in a rut, before an encounter with the otherworldly force of the Portal enables him to correct past mistakes. But will this ability prove beneficial or disastrous to Cai, his family and friends? Elidir Jones's first novel portrays two versions of the same character who exist in two different dimensions.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780957560994\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780957560994\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePorthwll, Y\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eJones, Elidir\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.00\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-10-14\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDalen Newydd\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e366 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Lenyddol a Chyffredinol (yn Gymraeg) | EN: General and Literary Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAllwch chi ddychmygu cael dau fersiwn ohonoch chi'ch hun? Dychmygwch eich bod yn byw mewn bydoedd gwahanol gydag un ohonoch yn gwybod cyn y llall beth fydd yn digwydd. Nofel gyntaf Elidir Jones yw hon, ac ychydig iawn o awduron Cymraeg sydd wedi mentro i'r maes yma, sef cymysgedd o lên wyddonias a ffantasi. Rhaid cyfaddef nad yw'r mathau yma o nofelau yn apelio ata i gan amlaf, ond mae Elidir Jones wedi llwyddo i greu cyfrol lawn cyffro a drama. Cai Owen yw prif gymeriad y nofel – Cai Un a Cai Dau, wrth gwrs. Bywyd digon undonog sydd gan y Cai gwreiddiol, yn gweithio yn y caffi ar gopa'r Wyddfa. Teimlwn yr undonedd wrth i'r staff gyflawni'r un tasgau ddydd ar ôl dydd, ac mae Cai yn ei chael hi'n anodd delio gyda'r cwsmeriaid yn gofyn y cwestiynau mwya twp. Mae ganddo ddihangfa sy'n mynd ag e'n bell o gopa'r mynydd, sef y grŵp Dungeons and Dragons y mae'n perthyn iddo. A dyna lle cawn ni'n cyflwyno i griw o nerds sy'n rhannu'r un diddordeb ag e, pob un ohonyn nhw (Taliesin, Andreas, Tom a Mabli) â'u bryd ar ddatblygu syniad o greu gêm gwbl newydd ar y we, sef Eryrin. Dyma lle mae Cai yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser, 'mewn niwl o ddreigiau, cleddyfau hud, arwyr dewr a dewiniaid Machiavelaidd'. Dyw byw gyda'i rieni ddim yn hawdd chwaith. Mae Gareth, ei dad, yn ddyn sydd heb godi bys bach erioed i helpu, ac mae'n fwy na hapus yn yfed, yn betio ac yn gwylio'r teledu drwy'r dydd. Mae ei fam, Danielle, ar y llaw arall, yn crafu byw yn golchi dillad i bobl ac yn gwau – ac yn byw mewn rhigol. Ond beth yw ystyr teitl y nofel? Grym arallfydol yw'r porthwll sy'n rhoi cyfle i Cai wella ei fywyd, ond wrth i'r fersiwn 'arall', mwy llwyddiannus ohono'i hun ddod i'r amlwg, dyna lle mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth. 'Yng nghanol yr ystafell, yn hongian uwch y llawr, roedd disg o egni pur yn chwyrlïo ... o'i chwmpas, roedd cylch o fellt mân yn troi, a changhennau'r cylch yn ymestyn allan ac yn sbarcio yn erbyn dodrefn yr ystafell.' Efallai fod diddordeb Cai yn yr arallfyd yn deillio o'i ymweliad â Llyn Cowlyd pan oedd yn blentyn saith neu wyth oed, pan welodd dylluan yng nghanol dydd, ac yna 'ddwsinau o dentaclau yn saethu allan o'r dŵr ...' Yr hyn sy'n glyfar am y nofel hon yw'r ffordd mae stori Cai Un a Cai Dau yn datblygu, ac effaith hynny ar y gwahanol gymeriadau, er enghraifft, Llinos a Mabli, cariadon y nofel. Heb ddifetha'r stori, dyw pethau ddim yn fêl i gyd, a daw'r cyfan i benllanw mewn golygfa hynod ddramatig yn Llyn Cowlyd, gyda'r criw cyfan yn dyst i'r digwyddiadau. Ro'n i'n poeni ar y dechrau y bydden i'n cael trafferth dilyn y nofel oherwydd y cyfeiriadau at gomics, gemau fideo, Star Trek ac yn y blaen, ond buan iawn y cewch chi'ch sugno i ganol y stori (effaith y Porthwll, efallai ...). Mae'n nofel ddarllenadwy iawn, mae ganddi gymeriadau cryf ac mae'r plot yn symud yn ei flaen yn naturiol heb din-droi'n ormodol o amgylch un digwyddiad penodol. Gobeithio'n wir y bydd Elidir Jones yn dal ati i sgwennu – dyma un maes lle mae dirfawr angen awduron Cymraeg. A gobeithio y gwnaiff hynny, yn ei dro, annog mwy o bobl i ddarllen nofelau Cymraeg.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819092152694,"sku":"9780957560994","price":9.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780957560994.jpg?v=1790347709","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/porthwll-y-9780957560994","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}