{"product_id":"porth-y-byddar-9781912173051","title":"Porth y Byddar","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel gyntaf y dramodydd a'r sgriptiwr llwyddiannus, Manon Eames, sy'n olrhain hanes dirdynnol boddi Cwm Tryweryn. Cawn ein taflu i ganol emosiwn a chythrwfl y cyfnod pwysig hwn yn hanes Cymru.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA powerful and emotive first novel which tells the story of an important event in Welsh history - the drowning of Cwm Tryweryn to provide a water supply for the city of Liverpool.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781912173051\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781912173051\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePorth y Byddar\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eEames, Manon\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£10.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£10.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2017-11-13\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg y Bwthyn\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e368 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eEr mai dyma nofel gyntaf yr actores a’r ddramodwraig adnabyddus Manon Eames, mae’i phrofiad o drin geiriau’n pefrio oddi ar bob tudalen yn y gyfrol sylweddol hon. Fel drama y gwelodd Porth y Byddar olau dydd gyntaf oll, a lwyfannwyd gan y Theatr Genedlaethol adeg Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2007, ond aeth Manon Eames i gloddio eilwaith yn ei bocseidiau o ffeiliau ymchwil, er mwyn dod â’i stori gerbron cynulleidfa newydd, ac ar ffurf newydd, lawnach. Hanes boddi Capel Celyn i greu cronfa ddŵr ar gyfer Lerpwl yw sail y nofel. Yn hynny o beth, mae darllen y nofel ychydig fel gwylio’r ffilm Titanic – fe wyddom beth yw’r diweddglo diobaith, felly rhaid i’r awdur ein denu a’n cadw â rhywbeth amgenach na dirgelwch y ‘beth sy’n digwydd?’ neu’r ‘pwy wnaeth?’. Diolch i’w dawn wrth gymeriadu a llunio deialog all blesio’r glust feinaf, mae hi’n llwyddo. Mae llawer o gymeriadau’r nofel yn seiliedig ar bobl go iawn, pobl fu’n byw drwy’r cyfnod ofnadwy hwnnw tua diwedd y 1950au a dechrau’r 1960au, fel plismyn tre’r Bala, ffermwyr lleol, pobl sy’n gorfod gadael cartrefi’u cyndadau, a rhai o swyddogion a gweithwyr y Liverpool Corporation hefyd. Yn hytrach na darlunio llun du a gwyn o ‘Saeson Drwg Lerpwl \/ Cymry Da Meirion’, â llinellau clir y rhaniadau disgwyliedig hynny, crëir darlun cymhlethach, gan amlygu’r ffaith hanesyddol nad oedd y gwrthwynebiad i’r gronfa ddŵr yn unfrydol, o bell ffordd, hyd yn oed yn y Bala ei hun. Yn wir, sonnir yn y nofel am yr anfodlonrwydd a fodolai ar sawl lefel â’r ymgyrch i amddiffyn y gymdeithas rhag yr argae, a gwelwn gymaint o effaith a gafodd y gwrthdaro hwnnw ar gymunedau, teuluoedd ac unigolion. Yn y manylion personol, yn y chwalfeydd unigol, y mae gwir drasiedi Tryweryn, a chrynhoir hyn yn ddirdynnol yn stori Rhiannon, y fam ifanc a gollodd ei mab bach pan foddodd mewn damwain bysgota. Claddwyd mab Rhiannon ym mynwent Capel Celyn, ond bellach rhaid iddi benderfynu a yw hi’n mynd i godi ei gorff o’r fynwent, a’i ailgladdu – gan orfod wynebu holl ysictod angladd arall, ynteu a yw hi’n gadael iddo orffwys yn y fynwent, gan beri y bydd yn boddi eilwaith yn nŵr oer yr afon. Fe’m cyffyrddwyd i’r byw ganddi. Dangosir ôl ymchwil maith a thrylwyr yn y gyfrol, ond nid ar draul creu stori ddirdynnol, afaelgar a darllenadwy. Dylai gael ei chyfieithu i’r Saesneg a’i gwneud yn ddarllen gorfodol yn ysgolion Lerpwl heddiw ... ac yn ysgolion Cymru hefyd. Cofiwn Dryweryn.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58821140513142,"sku":"9781912173051","price":10.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781912173051_7901b28a-e6e3-495b-9ab6-343242e7632a.jpg?v=1790364888","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/porth-y-byddar-9781912173051","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}