{"product_id":"pluen-9781784613181","title":"Pluen","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel i blant hŷn a phobl ifainc gan yr awdures boblogaidd Manon Steffan Ros, sy'n dilyn hanes Huw wrth iddo baratoi prosiect am yr Ail Ryfel Byd dros yr haf. Ond mae pethau rhyfedd yn digwydd pan mae'n dechrau ymchwilio i gyfrinach brawd ei nain, a hithau yn dioddef o dementia. Enillydd gwobr Tir na n-Og 2017. Adargraffiad, cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2016.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA novel for older children and young adults by popular author Manon Steffan Ros, which follows Huw as he prepares his project on the Second World War during the summer holidays. Strange things happen as he begins to explore a secret relating to his grandmother's brother in this endearing story. Tir na n-Og Award Winner 2017. Reprint, first published in 2016.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781784613181\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781784613181\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePluen\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRos, Manon Steffan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-09-10\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e112 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e185 × 122 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma lyfr difyr gyda chlawr deniadol, ac ar ben hynny stori gymharol fer. Mae'n fy atgoffa o un o lyfrau cyfres Stori Sydyn, gan ei bod yn hawdd ei darllen. Mae’r penodau'n fachog ac yn sicr gellir darllen y gyfrol mewn diwrnod neu lai. Tybiaf y bydd hon yn apelio at ystod eang o ddarllenwyr, gan i mi, yn fy mhedwardegau, ei mwynhau, a chredaf y bydd fy mhlant, sydd yn yr ysgol uwchradd, yn cael yr un boddhad, a hefyd y genhedlaeth hŷn a fyddai'n medru hel atgofion am y dyddiau a fu. Mae'r prif gymeriad, Huw, yn fachgen deuddeg oed hoffus a dymunol sy'n bwrw ati i gyflawni darn o waith cartref am yr Ail Ryfel Byd yn ystod gwyliau hir yr haf. Ceir yma ryw fath o stori antur sy'n trafod pwnc dyrys, sef salwch meddwl Nain. Mae’r cyfan yn cael ei bortreadu yn gelfydd a dealladwy. Elfen ychwanegol ydyw'r arallfyd, sy'n cael ei gyflwyno mewn ffordd hynod o fedrus trwy gymeriad Hywel, sef brawd Nain – nid oes hawl i’w drafod oherwydd yr hyn ddigwyddodd iddo yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r awdur wedi llwyddo i greu darluniau gwych o berthynas pobl ifainc â'i gilydd, a hefyd mae ei phortread o un genhedlaeth yn cwrdd â’r llall yn taro deuddeg. Mae yna elfen o godi cywilydd yma pan mae teulu Huw yn trafod agweddau ar ddirywiad meddwl Nain, gan sylweddoli bod salwch meddwl yn rhywbeth byw sy'n effeithio ar eu teulu hwy. Yn sicr byddwn yn argymell prynu'r llyfr yma, yn enwedig os oes un o'r pynciau ynddo yn apelio atoch. Ac os ydych yn ddarllenydd ofergoelus, byddwch yn sylwi ar arwyddocâd pob pluen wen.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819878846838,"sku":"9781784613181","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781784613181_e0f572c3-62e0-4b86-82f2-ffc824ecd70f.jpg?v=1790353998","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/pluen-9781784613181","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}