{"product_id":"penillion-ach-a-fi-9781849673242","title":"Penillion Ach-A-Fi","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eArgraffiad newydd, diwygiedig o glasur mydr ac odl arall gan Roald Dahl am fwystfilod erchyll megis, mochyn sy'n bwyta ffermwyr, Croci-woc y crocodeil erchyll, llew sy'n llarpio plant, sgorpion-pigo-penolau, buwch hedegog sydd wrth ei bodd yn bomio pobol . . . a sawl creadur creulon arall y dylid eu hosgoi am eich bywyd!\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA collection of (mainly) grisly beasts out for human blood, ranging from Crocky-Wock the crocodile to Sting-A-Ling the scorpion. Described in verse with all Dahl's usual gusto and illustrated in a suitably wicked style by Quentin Blake. WARNING! This book contains wickedly funny verse, prickly surprises and the most despicable creatures you could ever hope (not) to meet.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781849673242\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781849673242\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePenillion Ach-A-Fi\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDahl, Roald\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£7.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2016-04-21\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eRily\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWilliams, Gwynne\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eBlake, Quentin\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e32 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e127 × 190 mm; depth 13 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyfnod allweddol \/ Key stage\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGrŵp oedran \/ Age group\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eInterest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eRhybudd! Gall y gyfrol hon achosi asennau poenus, ynghyd ag ymateb rhyfedd gan ddieithriaid os wyt ti’n ei darllen mewn man cyhoeddus. Gwylia rhag tagu wrth yfed dy baned, a bydd yn barod am lond bol o chwerthin! Does dim geiriau i ddisgrifio mor ddoniol – ac mor ddychrynllyd – yw Penillion Ach-A-Fi , addasiad Cymraeg o Dirty Beasts Roald Dahl. Camp a hanner yw addasu gwaith y llenor plant penigamp hwnnw, waeth beth fo'r iaith, ond mae’r addasiad modern hwn i’r Gymraeg gan Gwynne Williams yn arbennig iawn, a'i odlau gwreiddiol yn wledd i'r glust. Cawn siwrne ryfeddol i Ffrainc yng nghwmni llyffant anferth, pigau draenog yn sownd ym mhen-ôl un eneth fach, a phastai buwch yn glanio'n haeddiannol ar ben ‘rhyw lembo hanner Sais’. Mae’r penillion yn peri i ti chwerthin yn uchel, ac ar yr un pryd yn gwneud i ti amau fod yna anghenfil yn nillad y gwely. Wyt ti’n siŵr nad oes crocodeil yn y cwpwrdd? Yr hyn sy’n peri’r holl hwyl yw’r modd y mae’r anifeiliad lliwgar a llachar hyn wastad yn cael y llaw uchaf. Ac mae'r gyfrol ar gyfer darllenwyr o bob oed. Gall pob mab a merch, mam a thad a nain a thaid fynd i hwyliau wrth ei darllen, a gorau oll os oes modd darllen y cerddi'n uchel, er mwyn gwerthfawrogi clyfrwch yr odlau. Fel pob un o lyfrau Roald Dahl, dyma un i’w drysori. Os wyt yn teimlo’n drist ryw dro, da ti, dos ati i'w ddarllen. Bydd y cerddi'n sicr o godi calon a rhoi gwên ar dy wyneb, ond yn gwneud i ti fwrw golwg sydyn yng ngwaelod y cwpwrdd ac yn nillad y gwely, jest rhag ofn ...\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820901405046,"sku":"9781849673242","price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781849673242_2f937084-1ba6-4213-bbb1-a914a339b974.jpg?v=1790361967","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/penillion-ach-a-fi-9781849673242","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}