{"product_id":"owain-glyn-dwr-trwy-ras-duw-tywysog-cymru-9780862436254","title":"Owain Glyn Dŵr - Trwy Ras Duw, Tywysog Cymru","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAstudiaeth feistrolgar o safle Owain Glyn Dŵr fel gwladweinydd uchelgeisiol ac arwr cenedlaethol, ynghyd â'i gyfraniad i wleidyddiaeth Cymru ar droad y 15fed ganrif, gan y diweddar R. R. Davies, a oedd yn awdurdod ar y pwnc. 7 ffotograff du-a-gwyn a 3 map. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2002.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA masterful study of the status of Owain Glyn Dwr as an ambitious statesman and national hero together with his contribution to Welsh politics at the turn of the 15th century, written by the late R. R. Davies, an authority on the subject. 7 black-and white photographs and 3 maps. Reprint; first published in 2002.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9780862436254\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9780862436254\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eOwain Glyn Dŵr - Trwy Ras Duw, Tywysog Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDavies, R. R.\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.95\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2011-03-14\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eY Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e144 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Hanes, Hanes Lleol, Arferion Gwlad, Llên Gwerin (yn Gymraeg) | EN: History, Welsh Life and Customs, Local History, Folk Tales (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: 500-1536 (yn Gymraeg) | EN: 500-1536 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDEWEY code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNational Library of Wales Dewey Code\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eDyma hi or diwedd, ac mewn dim ond ychydig dros 130 tudalen dymar nofel Gymraeg ganoloesol fwyaf gafaelgar, yn barod iw haddasu yn ffilm ar Glyndŵr. Gydar ymgyrch am gofeb or marchog mewn llawn arfogaeth yng Nghorwen, y murlun yn Rhuthun yn faner swyddogol yn y Cynulliad ar Fedi 16, maer hanes ar chwedl ar gynnydd. Fel sawl cyfansoddwr ddaeth yn saff drwy ryferthwy symffonïau cymhleth at bedwarawd llinynnol harmonig ar themâu blaenorol, dyma brif ysgolhaig hanesyddiaeth adolygol ganoloesol y Dywysogaeth o fewn y Deyrnas yn cyrraedd y stori syml. Eithr twyllodrus o syml. Yma y ceir yr esboniad ar ddigwyddiadaur dehongliad o dystiolaeth ar angen amdani yn y dychymyg. Ffynonellau hanesyddol dogfennol, chwedlonol, barddonol, y traddodiadau chwedlonol llafar, a phroffwydoliaeth wleidyddol yn gweu drwyi gilydd mewn naratif ddarllenadwy syn debycach i nofel antur nag i lyfr hanes. Ond wedir cyfan dyna yw hanes, naratif ddychmygol am y gorffennol, nid adroddiad or gorffennol ei hun. Anghenraid yn y presennol ywr creadigaethau dychmygus a ddaw yn 'fyw' or gorffennol' pan fo angen codir ysbryd (yn nau ystyr yr ymadrodd yna). Ond dyna fel yr oedd hanes a hanesyddiaeth erioed. Ennyd o ddallineb Ôl-Oleuedigaethol oedd tybied fod hanes yn wyddor i osod y gorffennol mewn trefn amseryddol. Nid cofnod ond sôn fu hanes erioed. Dyna yw 'dweud yr hanes; stori yw hi, 'chwedl yw hi\/ ai chadw i wlad\/ yn rhoddi ireiddiad\/ on mewn ac yn ein mysg,' fel y canodd Euros Bowen yn y gyfrol Myfyrion . Ystyr wreiddiol (beth bynnag yw ystyr hynny) y gair 'hanes' yw cyfrinach neu ddirgelwch  y sibrwd hwnnw am ryw neges breifat o ryw orffennol pell Gwyddelig neu Gernywaidd. Beth allai weddun well fel 'disgrifiad' o 'hanes' ffigwr or enw 'Glyndŵr'? 'Cyfrinach y gwir arwr yw ei fod yn codi uwchlaw ei gyfnod ei hun, ai fod mewn gair yn draws-oesol yn hytrach nag yn hanesyddol yn unig,' ysgrifenna Rees Davies ar dudalen olaf ei gyfrol. 'Dyna orchest Owain Glyndŵr; daeth yn symbol o freuddwyd y Cymry, y gobaith yn nwfn eu calon y gallent ennill ryw ddydd yr hawl i fyw mewn gwlad annibynnol yn eu llywodraethu eu hunain.' Ond syniad traws hanesyddol yw hynna hefyd ond odid. Ac onid ywr traws-hanesyddol hithau yn ddarostyngedig i ofynion yr hanesyddol? Ond ta waeth am hynny. Darllenais innaur nofel hon o glawr i glawr ar un eisteddiad. Dychmygais holl olygfeydd y fersiwn ffilm, heblawr diweddglo. A hynny am nad oes un. Oherwydd heb ddiweddglo y mae pob chwedl dda. Dim ond hanesydd dwfn ei ysgolheictod ai hanesyddiaeth allai fynd y tu hwnt iw ysgolheictod i ysgrifennu nofel fel hon.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58819036578166,"sku":"9780862436254","price":6.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9780862436254_4061fa20-3707-4a17-8f19-f4042a9f5ad2.jpg?v=1790352998","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/owain-glyn-dwr-trwy-ras-duw-tywysog-cymru-9780862436254","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}