{"product_id":"o-tyn-y-gorchudd-hunangofiant-rebecca-jones-cyfrol-y-fedal-ryddiaith-2002-9781843231684","title":"O! Tyn y Gorchudd - Hunangofiant Rebecca Jones (Cyfrol y Fedal Ryddiaith 2002)","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol arobryn Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002, sef hunangofiant dychmygol hen fodryb yr awdures a fu farw yn ei phlentyndod, yn cynnwys portread byw a chynnes o gymdeithas wledig Gymraeg yn Sir Feirionnydd yn ystod yr 20fed ganrif. 10 ffotograff du-a-gwyn. Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf ym mis Awst 2002.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe prize-winning entry in the 2002 St David's Eisteddfod Prose Medal competition, the imaginary autobiography of the author's great-aunt who died in childhood, comprising a warm and vivid portrait of Welsh rural society in Merionethshire during the 20th century. 10 black-and-white photographs. Reprint; first published in August 2002.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781843231684\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781843231684\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eO! Tyn y Gorchudd - Hunangofiant Rebecca Jones (Cyfrol y Fedal Ryddiaith 2002)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePrice, Angharad\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£8.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2022-02-15\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e152 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e119 × 173 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (yn Gymraeg) | EN: Eisteddfod Compositions and Programmes (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Arobryn (y Fedal etc) (yn Gymraeg) | EN: Prize-winning Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDEWEY code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNational Library of Wales Dewey Code\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eO! Tyn y Gorchudd Hanes Rebecca Jones yw O! Tyn y Gorchudd . Fe'i ganed yn 1905 a threulio ei bywyd ym Maesglasau, cwm anghysbell yn Sir Drefaldwyn fu yn gynefin i'w theidiau am fil o flynyddoedd. Yma y buont hwy yn hau ac yn medi, ac yn profi caledi a dedwyddwch bywyd bob yn ail. Creulon iawn fu tynged rhieni Rebecca. Cawsont saith o blant ond yr oedd tri ohonynt yn gwbl ddall, a bu dau ohonynt farw yn ifanc. Mae O! tyn y gorchudd yn adlewyrchu hanes yr ugeinfed ganrif. Y mae yn canu clod pobl ddiymhongar, wledig a oedd yn gadarn eu ffydd ac yn llawn daioni er gwaethaf y trallod a'r dioddefaint a ddaeth i'w rhan. Y mae'r hen gymuned wledig Gymreig yn gynsail i'r llyfr. Mae man a lle yn hanfodol i Rebecca, ac i'w theulu, ac y maent yn ymwybodol o'r traddodiadau sydd yn perthyn i'w cynefin. Stori am gariad a haelioni dau riant yw'r llyfr, ac yn anad dim am ddyfalbarhad a gweledigaeth mam Rebecca. Mae O! Tyn y Gorchudd yn perthyn i draddodiad llenyddol sydd yn datgelu ac yn darlunio bywyd y Cymry cyffredin. Y mae'r awdures Angharad Price, fel eraill o'i blaen - Daniel Owen, T. Rowland Hughes, Kate Roberts ac Elena Puw Morgan - yn ysgrifennu am ei chyd-Gymry gydag arddeliad a chyda dealltwriaeth llwyr o'u hofnau ac eu gobeithion. Eto i gyd, nid hunangofiant clasurol mo'r gwaith. Cawn wybod tua diwedd y llyfr y bu farw Rebecca Jones yn ifanc yn 1916 ac mai teyrnged iddi yw'r llyfr sydd yn dychmygu y bywyd y gallasai ei gael. Yn O! Tyn y Gorchudd , gwelwn dynnu'r llwch o genre yr hunangofiant a rhoi sglein arno o'r newydd gan awdures sydd â'r ddawn ac â'r hyder i wneud hynny. Teg dweud i ddarllenwyr y Gymraeg gael eu synnu gan lyfr mor Gymreigaidd mewn oes sydd yn bygwth difa'r hyn fu yn sail i Gymreictod gynt. Cyfnewidfa Lên Cymru\/Wales Literature Exchange\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eO! Tyn y Gorchudd O! Tyn y Gorchudd (Remove the Veil) tells the story of Rebecca Jones, born in 1905, who spent her life in the remote valley of Maesglasau in Montgomeryshire. Here her family dwelt and farmed for a thousand years, welcoming life's joys and negotiating its hardships. Rebecca's parents bore a cross heavier than most: of the seven children born of their union, three suffered blindness, and two, we are told, died young. A chronicle of the twentieth century, and a story of dignity in the face of tragedy, O! Tyn y Gorchudd draws on the sense of place, of community, and of tradition which has long been central to Welsh-speaking Wales. It is a story of parental love and selflessness, and above all of the faith and resolve of the narrator's mother who 'came to accept [her son's] blindness with the boundless grace that had always characterised her' (48). O! Tyn y Gorchudd has its roots in a tradition which has long provided insight into the lives of ordinary people in Wales. The author, Angharad Price, like others before her - Daniel Owen, T. Rowland Hughes, Kate Roberts and Elena Puw Morgan - writes of her kith and kin with empathy and with intimacy. The book, however, is more than a classic biography. We learn at the end that the Rebecca Jones, whose life's story we have been reading, died a young girl in 1916: Angharad Price's book is a 'tribute to the life she [Rebecca] might have had'. In O! Tyn y Gorchudd , a talented young author has revisited a conventional genre and reinvigorated it. To do so required vision in an age when community and non-conformism - twin-bastions of the Welsh language - are crumbling. Little wonder that this ingenious 'posthumous autobiography' has been greeted with delight by the critics. Cyfnewidfa Lên Cymru\/Wales Literature Exchange\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820584669558,"sku":"9781843231684","price":8.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781843231684.jpg?v=1790358403","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/o-tyn-y-gorchudd-hunangofiant-rebecca-jones-cyfrol-y-fedal-ryddiaith-2002-9781843231684","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}