{"product_id":"o-ran-enillydd-y-fedal-ryddiaith-2008-9781843239826","title":"O Ran - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2008","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eAr y trên rhwng Paddington a Chaerdydd, mae Angharad Gwyn yn darllen trwy broflenni cyfrol deyrnged i'w thad, Ifan, cerddor llwyddiannus. Wrth i ni ddarllen gyda hi, mae'n dechrau hel atgofion am ei phlentyndod anarferol yng Nghaerdydd. Adargraffiad o nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd a'r Cylch 2008.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eOn the train between Paddington and Cardiff, Angharad Gwyn reads the proofs of a tribute volume to her father, Ifan, a successful musician. Angharad goes on a trip down memory lane, recalling her unusual childhood in Cardiff. A reprint of the novel that won Mererid Hopwood the Literary Medal at the 2008 National Eisteddfod.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781843239826\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781843239826\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eO Ran - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2008\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHopwood, Mererid\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2020-01-31\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e208 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 × 195 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Cyfansoddiadau a Thestunau Eisteddfod (yn Gymraeg) | EN: Eisteddfod Compositions and Programmes (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Ffuglen Arobryn (y Fedal etc) (yn Gymraeg) | EN: Prize-winning Fiction (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCaf fy nhemtio i ofyn: beth wnaiff Mererid nesaf? A welir hi'n cipio Gwobr Llwyd o'r Bryn yn y Bala ymhen blwyddyn? Neu yn ennill y Rhuban Glas? Ie, merch amryddawn. Oherwydd dyma hi wedi cael y Gadair, y Goron a'r Fedal. Mae hi'n fardd ac yn llenor, ac y mae'r nofel hon yn gyfuniad o'r ddau beth oherwydd telyneg o nofel ydyw. ‘Fe'm hudwyd gan y nofel hon,’ meddai Catrin Beard yn ei beirniadaeth. ‘Dyma gyfrol fydd ... yn cyfoethogi ein llên gyfoes,’ meddai Aled Jones Williams, ac meddai Aled Islwyn, ‘... mae'r nofel hon yn taro deuddeg mewn ffordd synhwyrus a barddonol’. Dyna i chi beth yw canmoliaeth. Ac yr wyf yn llwyr gytuno â'r tri oherwydd mae hwn yn gampwaith. Stori Angharad Gwyn sydd yma. Ni wyddom ddim am ei hynt a'i helynt wedi iddi dyfu heblaw bod yna rywun o'r enw Rob yn ei bywyd. Ar y trên o Lundain i Gaerdydd y mae hi'n darllen proflenni cyfrol deyrnged i'w thad, y cerddor Ifan Gwyn, a thrwy hynny y mae'r atgofion am ei phlentyndod yn y ddinas yn llifo. Wedi ei magu gan ei thad, yr oedd yna berthynas glòs rhyngddynt. Arddull stacato sydd ganddi. Hynny yw, brawddegau byr a chynnil fel mae'r atgofion yn dod yn ôl fesul tipyn. Y mae proflenni'r gyfrol deyrnged i'w thad wedi eu hargraffu mewn llythrennau du a rhaid i mi gyfaddef, oni bai bod y broliant ar y clawr yn egluro, na fyddwn wedi deall ar y cychwyn beth oedd arwyddocâd y darnau hynny. Y mae ôl-fflachiadau a sangiadau bob amser yn fy ffwndro. Ond dyna'r unig air o gŵyn sydd gen i. Y mae pob pennod yn cloi'n glyfar ac y mae hi wedi llwyddo'n arbennig i gyfleu ofnau ac amheuon a chyffro plentyndod. Ofni llid yr athro. Y crwban yn marw. Bedd ei mam. Ymgodymu gyda'i chydwybod. Meddwl ei bod yn hyll. Synnwn i fawr nad yw Angharad yn perthyn i mi oherwydd dywed bod ganddi draed llydan – byddai fy nhad yn dweud nad esgidiau ddylwn i eu cael, eithr pedolau – ac y mae de a chwith yn ddirgelwch i Angharad fel i minnau (a dyna pam, mae'n debyg) na allaf yrru car. Ymgollais yn llwyr yn rhyferthwy'r eirfa ac yn y stori. Sydd â thro yn ei chynffon, gyda llaw. Yr oedd yna sarff yn Eden. Un peth arall. Nid oes gen i gywilydd brolio bod gen i eirfa eithaf eang ond deuthum ar draws gair newydd sbon a bu rhaid i mi fynd i Eiriadur y Brifysgol A–Ffysur i ddarganfod beth yw ‘papur erwydd’ (tudalen 120). Hwn yw'r papur y bydd cerddor yn cyfansoddi arno. Sef papur staff. Wel tawn i byth. Fel y dywedais ar y cychwyn – telyneg o nofel.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eO Ran Angharad Gwyn, daughter of the celebrated Welsh pianist and composer Ifan Gwyn, travels from London by train back to her home-town of Cardiff. As the train pursues its journey westward, she recalls crucial phases in her childhood, her upbringing by her widowed father with help from her maternal grandmother and aunt, who would come to visit from their home in rural south-west Wales. Slowly her narrative of her past unfolds, interspersed with a third thread: extracts from tributes to her father, by people, some Welsh, some not, who knew him primarily as a musician. Between these threads, a further, unspoken narrative begins to form, casting doubt on the reliability of the others. As Angharad's own perceptions of her place in the family and her understanding of the reasons for first her mother's and later her aunt's death begin to be undermined, cracks also appear in what she had supposed to be her father's impregnable reputation as a musician and as a man. Only in the very last pages does the full truth emerge and allow Angharad to reappropriate her life. In her prize-winning first prose work, Mererid Hopwood, one of Wales's leading poets, explores with great subtlety, compassion and psychological perception the complexities that lie below perceived images of individuals and relationships. While tracing the evolution of a young girl's sense of self from early childhood to maturity as a woman, this memorable, beautifully-written novel explores the tensions and contradictions of intertwined personal, public and national identities. Cyfnewidfa Lên Cymru\/Wales Literature Exchange\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820587127158,"sku":"9781843239826","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781843239826.jpg?v=1790358447","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/o-ran-enillydd-y-fedal-ryddiaith-2008-9781843239826","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}