{"product_id":"o-r-cyrion-9781843236986","title":"O'r Cyrion","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCasgliad o straeon byrion gafaelgar a modern. Ceir yma straeon wedi'u seilio ar themâu cyffredin, megis y natur ddynol, rhagrith, twyll a hunan-dwyll, perthynas dyn â'i gyd-ddyn, - ond mewn cyd-destunau amrywiol iawn, ac mewn arddull gynnil a chan ddefnyddio ymadroddion bachog. Mae dwy o'r storiau'n cynnwys tafodiaith gyfoethog Cwm Afan. Adargraffiad; cyhoeddwyd yn 2006.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eA collection of gripping modern stories. It includes stories based on common themes, such as the human nature, hypocrisy, deceit and self-deceit, relationships, - but in different context, written in a subtle style and using catchy expressions. Two of the stories are written in the Cwm Afan dialect. Reprint; first published in 2006.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781843236986\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781843236986\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eO'r Cyrion\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eKidd, Ioan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£5.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-09-07\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e110 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e1 × 1 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Nofelau a Storïau ar Gyfer Oedolion (yn Gymraeg) | EN: Adult Fiction and Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Straeon Byrion (yn Gymraeg) | EN: Short Stories (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eCyfrol o straeon byrion hawdd i’w darllen a’i deall ar gyfer cynulleidfa ifanc yw O’r Cyrion gan Ioan Kidd. Er gwaetha’r teitl, mae’r gyfrol wedi’i gwreiddio mewn Cymreictod - mae sefyllfaoedd a lleoliadau agos atom yn llwyfan i gymeriadau fel ti a fi yn siarad mewn iaith lafar, liwgar. Ond mae tro yn y gynffon – yn llythrennol weithiau ar ddiwedd stori neu yn fwy cynnil, wrth i’r awdur ddadlapio cymeriad neu sefyllfa er mwyn datgelu’r twyll a’r tywyllwch sy’n cuddio’n ein cyffredinedd. Yn wir, mae’r awdur ar ei orau yn taflu sioc i’r byd sy’n adnabyddus iddo, ac i ni - yr Eisteddfod Genedlaethol, cymoedd De Cymru, y ddinas fawr. Mae ‘Stafelloedd’, er enghraifft, yn rhoi sbin modern i ystyr cylch cymdeithasol, wrth i’r awdur gydamseru dau hunanladdiad, y naill i’w weld trwy we-gamera a’r llall yn digwydd ar stepen y drws, yn yr un bloc o fflatiau. Cawn ni, fel Cai, ein sugno i mewn i’r e-gymdeithas heb weld y tristwch a’r unigrwydd o flaen ein trwynau. Sefyllfa anghyfforddus o real. Mae ‘Gadael ei Hôl’ yn edrych o’r tu allan, am newid, ar brofiad ‘bore wedyn’ y ’Steddfod Gen. Dyw’r awdur ddim yn troedio’n rhy bell o dir cyfarwydd ac mae’r stori’n fwy ffres o’r herwydd. Ond mae ceisio celu’r annisgwyl mewn sefyllfaoedd cyfforddus yn ddewr - ac yn gallu bod yn beryglus. Mae rhai o’r straeon yn ymylu ar fod yn ddiog o ddi-fenter a minnau’n ei chael hi’n anodd gweld newydd-deb yn y neges, neu wedi hen rag-weld y sioc sydd i ddod yn y dudalen olaf. Fodd bynnag, dwy stori wannaf y gyfrol yw ‘Senor Gales’ ac ‘Angladd yn y Wlad’ - dwy stori sydd wedi eu lleoli dramor ond wedi’u lliwio, mewn modd amlwg a naïf, â safbwyntiau gwleidyddol ‘o’r cyrion’ lleiafrifol, paranoid. Mae’r darlun a geir o ddiwylliant gwahanol yn arwynebol a dibwrpas bron a’r awdur yn methu treiddio tu hwnt i’w ragfarnau. Er bod y straeon hyn yn ein tynnu o’n cynefin daearyddol, dychwelyd a wnawn bob amser at yr un thema, sy’n rhoi undod ac ergyd dwt i’r gyfrol fel casgliad - sef y chwinc anarferol sy’n llechu o dan wyneb y cyffredin a’r cymdeithasol. Mae hi’n eironig mai ‘O’r Cyrion’ yw’r teitl mewn ffordd - gan mai’r syniad canolog yw bod pawb, yn cynnwys Cymry Cymraeg a phobl fel ti a fi, yn troedio’n agos iawn at y ‘cyrion’ yn ein bywydau normal bob dydd, bob amser. Nid rhywbeth llythrennol, daearyddol yw bod ar ymylon cymdeithas wedi’r cyfan. Mae chwinc ynom oll - yn cynnwys yr awdur ei hun, sy’n uniaethu â’i gymeriadau trwy sgwennu a sylwi ‘o’r cyrion’.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820586144118,"sku":"9781843236986","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781843236986.jpg?v=1790358427","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/o-r-cyrion-9781843236986","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}