{"product_id":"nicsyn-cricsyn-ar-lan-y-mor-9781845248116","title":"Nicsyn Cricsyn ar lan y môr","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eY nofel gyntaf mewn cyfres hwyliog am berfformiadau ci drygionus mewn dosbarth yn yr ysgol. Mae'r dosbarth ar binnau eisiau gwybod pwy yw'r 'ymwelydd annisgwyl' y maen nhw ar fin ei gyfarfod. Pan welan nhw mai ci bywiog, cyffrous a chyfeillgar ydyw, mae hyn yn datblygu perthynas agos rhwng gwahanol aelodau'r dosbarth a'r ci gwadd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe first novel in a fun series about the performances of a mischevious dog in school classroom.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781845248116\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781845248116\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNicsyn Cricsyn ar lan y môr\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eMeres, Jonathan\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£6.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2026-04-30\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGwasg Carreg Gwalch\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eTranslator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eDafydd, Myrddin ap\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDarlunydd \/ Illustrator\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHalford, Katy\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003ePaperback \/ softback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr meddal\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e96 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e128 × 198 mm; depth 9 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eFSC Status\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNo FSC or PEFC logo\/certification declared\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMae’r gyfres hon o lyfrau am gi a’i gyfeillion dynol wedi’i chreu gan yr awdur hynod o boblogaidd, Jonathan Meres – awdur dros 30 o lyfrau plant. Dechreuodd Katy Halford, darlunydd y gyfres, wneud lluniau a chreu ei byd hudolus ei hun pan oedd yn blentyn. Mae wedi gwirioni ar dynnu lluniau pobl ac anifeiliaid.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eNofel ysgafn a hwyliog, ond wedi’i chynllunio’n ofalus i gynorthwyo’r darllenwyr ifanc i fachu yn y stori ac i’w gwneud yn ddarllenwyr mwy hyderus a phrofiadol. Gwerth y gyfrol yw y bydd yn gwneud i blant chwerthin – ond hefyd yn magu cariad at lyfrau. Broliant Pwy yw aelod newydd y dosbarth? Cliw: mae ganddo bedair coes, mae’n cyfarth yn uchel ac mae ganddo gôt felen, flewog, gyrliog! Mae plant Ysgol Brynllawen yn gwirioni fod Nicsyn Cricsyn y ci yn eu dosbarth. Mae'n mwynhau gwrando ar stori, ac yn ymuno yn y gwersi canu! Wrth i Mr Rhys gyhoeddi eu bod am gael trip i lan y môr, a bod Nicsyn yn cael dod hefyd, mae pawb Denu plant i fwynhau darllen: Mae’r nofelau ysgafn hyn yn anelu at ddenu plant i fwynhau darllen. Maen nhw’n cael eu treialu ar gyfer plant a phobl ifanc, a hynny gan blant a phobl ifanc. Mae adnoddau addysgol yn cael eu paratoi ar gyfer gwersi parod ar y penodau – adnoddau i hwyluso gwaith athrawon wedi eu creu gan gyn-athrawon profiadol. Adolygiadau “I’r darllenwyr llai hyderus a ddysgais y llynedd, roedd Nicsyn Cricsyn yn llwyddiant ysgubol – llyfr sy’n apelio'n weledol, heb ymddangos yn rhy hawdd nac yn fabïaidd ac yn bwysicaf oll, yn rhoi pleser aruthrol i'r rhai a aeth i’w nôl oddi ar y silff.” – Mrs Sydney (World’s Smallest Library) “Llyfr ardderchog! Doniol a llawn mwynhad. Dechreuais ei ddarllen i fy mhlentyn 7 oed, ond dyma hi’n gafael yn y llyfr a’i ddarllen ei hun mewn dim o dro!” – Chemikalfaire, Toppsta.com “Fy hoff gymeriad oedd Shakira gan ei bod hi’n hoffi caws macaroni. Rydw i’n mynd i ddarllen y llyfr yma unwaith eto.” – Milesfoster, Toppsta.com “Dyma’r llyfr cyntaf lle mae fy merch wedi dewis geiriau neu frawddegau i’w darllen ei hun, neu wedi gofyn beth oedd ambell air roeddwn i wedi’i ddarllen iddi. Mae hynny oherwydd fod y gosodiad ar dudalen mor gyfeillgar a hawdd i’w ddarllen – does dim darnau maith o destun, dim ond ychydig o frawddegau gyda’i gilydd a gofod cyn yr ychydig frawddegau nesaf.” – Brightbel, Toppsta.com “Mae’n amlwg fod Jonathan Meres yn deall plant gystal ag y mae’n deall cŵn (mae’r stori yn seiliedig ar Pablo, ei gi ef ei hun). Bydd darllenwyr ifanc wrth eu bodd yn rhannu anturiaethau Nicsyn… Mae’n llyfr hynod o ddarllenadwy a bydd Nicsyn yn dod yn ffrind i bawb.” – LoveReading4Kids Cyflweliad gyda Pablo, ci yr awdur – y cymeriad sy’n ysbrydoliaeth i straeon Nicsyn Beth yw dy hoff fwyd? Y bwyd fydda i’n ei gael nesaf. Mae Jonathan [yr awdur] yn fy ngalw yn ‘hŵfer blewog’, gan fy mod yn hŵfro pob briwsionyn a ddaw i’r golwg. Pwy yw dy hoff berson? Yr un sy’n rhoi bwyd i mi. Rwy’n hoff iawn o fwyd. Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am fod yn gi? Anodd ateb hwn oherwydd mai dyna rydw i wedi bod erioed. Ond rwy’n gwybod fy mod wrth fy modd yn rhedeg ar ôl brigau a pheli. Mae rasio ar ôl gwiwerod yn sbort hefyd – er nad ydw i erioed wedi dal un. Hefyd, rwy’n hoff o fwyta. Wyt ti’n helpu Jonathan gyda’i waith sgwennu? Ydw. Fi sy’n rhoi’r syniadau goraui iddo. Bydd ef yn gwadu hyn efallai. Ond dyna’r gwir. Mae’n cael llawer o syniadau wrth fynd â fi am dro. – Clwb Llyfrau Parrot Street\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820630675830,"sku":"9781845248116","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781845248116.jpg?v=1790358900","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/nicsyn-cricsyn-ar-lan-y-mor-9781845248116","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}