{"product_id":"nes-draw-9781785620843","title":"Nes Draw","description":"\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Cymraeg \/ Welsh Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eY casgliad cyntaf o gerddi i oedolion gan y Prifardd Mererid Hopwood. Mae Nes Draw ar rhestr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDisgrifiad Saesneg \/ English Description\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eThe first collection of poems for adults by Mererid Hopwood, the first female poet to win the Chair at the National Eisteddfod. Nes Draw is shortlisted for the Book of the Year Award 2016.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eDosbarthu\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eByddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.\u003c\/p\u003e\n\u003ch3\u003eDispatch\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eIn-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003ch3\u003eManylion y cynnyrch \/ Product details\u003c\/h3\u003e\u003cdl\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eISBN 13\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e9781785620843\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwales Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003egwales.com.9781785620843\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eGwerthwr \/ Vendor\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCyngor Llyfrau Cymru\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLong Title\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eNes Draw\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAwdur \/ Author\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHopwood, Mererid\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price ex VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCurrent Price inc VAT\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e£9.99\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAvailable\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eAvailability Status (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eAr gael\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eDyddiad cyhoeddi \/ Publication Date\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e2015-11-26\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCyhoeddwr \/ Publisher\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eGomer@Lolfa\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (EN)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eHardback\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eMedia Type (CY)\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eClawr caled\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003ePages\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e120 pages\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eSize\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003e127 × 192 mm\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eLanguage Code\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eWelsh\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eCategori \/ Category\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Barddoniaeth (yn Gymraeg) | EN: Poetry (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003cdt\u003e\u003cstrong\u003eIs-gategori \/ Subcategory\u003c\/strong\u003e\u003c\/dt\u003e\n\u003cdd\u003eCY: Beirdd Unigol (yn Gymraeg) | EN: Individual Poets (in Welsh)\u003c\/dd\u003e\n\u003c\/dl\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eBywgraffiad yr Awdur \/ Author Biography\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eMererid Hopwood oedd y fenyw gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001. • Enillodd y Goron yn 2003 a'r Fedal Ryddiaith yn 2008 hefyd. • Mae Mererid Hopwood wedi ymgartrefu yng Nghaerfyrddin ers blynyddoedd. • Fe'i ganed yng Nghaerdydd; derbyniodd ei haddysg gynnar yn ysgolion Bryntaf a Llanhari. • Enillodd radd ddosbarth cyntaf mewn Sbaeneg ac Almaeneg o Brifysgol Cymru Aberystwyth a doethuriaeth o Goleg y Brifysgol Llundain. • Bu'n ddarlithydd Almaeneg yng Ngholeg Prifysgol Abertawe ac yn bennaeth ar swyddfa gorllewin Cymru Cyngor y Celfyddydau cyn ymadael i weithio fel awdur a darlithydd ar ei liwt ei hun. • Mae'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. • Mae'n brifardd dwbl ac yn brif lenor ac mae galw mawr amdani i ddarlithio a chynnal gweithdai barddoni. • Bu'n Fardd Plant Cymru yn 2005.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e\u003csection\u003e\u003ch3\u003eAdolygiad y Cyhoeddwr \/ Publisher Review\u003c\/h3\u003e\n\u003cp\u003eO ystyried cyfraniad y Prifardd Mererid Hopwood i’n llenyddiaeth, o farddoniaeth i nofelau, mae’n hawdd anghofio mai Nes Draw yw ei chyfrol unigol gyntaf o gerddi ar gyfer oedolion. Ond mae’n amlwg nad cyfrol gyntaf arbrofol gan fardd newydd yw hon; mae’n ddatganiad hyderus gan un o leisiau blaenllaw llenyddiaeth Gymraeg fodern. O’r olwg gyntaf mae diwyg trawiadol y gyfrol yn hoelio sylw gyda chlawr glas ac arno ysgrifen wen. Yn anarferol, mae’r cerddi wedi eu hargraffu mewn inc glas, sydd yn chwarae ar y dyfyniad ar y clawr: ‘yn y darn rhwng gwyn a du mae egin pob dychmygu’. Nid oes cyflwyniad nac unrhyw eiriau diangen o gwbl ac mae pob gair yn ystyrlon. Gwelir yr un cynildeb trwy’r gyfrol gyfan yn symlrwydd ymddangosiadol y cerddi ac yn yr iaith hamddenol, dwyllodrus o naturiol. Golyga hyn fod yr amrywiaeth eang o fesurau yn y gyfrol, o’r caeth i’r rhydd, i gyd yn ymddangos yn hollol ddiymdrech. Ceir cerddi o bob math, o englynion a chywyddau cain am gariad, megis ‘Alaw’, i sonedau dychanol miniog fel honno am ymweliad NATO â Chaerdydd a cherddi rhydd sy’n llifo’n rhwydd oddi ar y dudalen. Ac yn goron ar y cyfan mae ei hawdl fuddugol yn 2001, sef 'Dadeni'. Ond er gwaetha’r gwahaniaethau amlwg rhwng y cerddi, clywir llais unigryw’r bardd ym mhob un, yn cellwair, yn cwestiynu ac weithiau yn condemnio. Mae pob cerdd yn cynnwys haenau o wahanol ystyron i’w datgelu’n raddol. Gellir darllen y cerddi nifer o weithiau a gweld ystyron hollol wahanol bob tro, ac o’u hystyried yng ngyd-destun y cerddi eraill yn y casgliad, mae’r ystyron yn newid eto. Yn yr amwysedd hwn mae swyn y cerddi gan eu bod yn datgelu mwy o’u cyfrinachau gyda phob darlleniad, a’u symlrwydd yn agor yn bosibiliadau i ddychymyg y darllenydd gael chwarae â syniadau’r bardd.\u003c\/p\u003e\u003c\/section\u003e","brand":"Cyngor Llyfrau Cymru","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58820105535862,"sku":"9781785620843","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0041\/5340\/9585\/files\/9781785620843_2fd5f4ec-0995-47cf-8a02-752acdcbcce4.jpg?v=1790354458","url":"https:\/\/www.siopypentan.co.uk\/products\/nes-draw-9781785620843","provider":"Siop Y Pentan","version":"1.0","type":"link"}